Neidio i'r prif gynnwys
Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn

Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn

Bydd chwaraewyr a chefnogwyr rygbi Cymru’n gwylio Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec gyda diddordeb mawr y penwythnos yma wrth i Toulouse – sydd wedi ennill y gystadleuaeth bum gwaith herio Leinster – sydd wedi ei hennill bedair gwaith o’r blaen.

Rhannu:

Mae’r ornest fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Bêl-droed Tottenham Hotspur yn tynnu dŵr i’r dannedd – tra hefyd yn ein hatgoffa y bydd y Rownd Derfynol y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn y 24ain o Fai.

Mae’r tocynnau ar gyfer gornest fawr y flwyddyn nesaf eisoes ar gael a honno fydd Rownd Derfynol Rhif 30 ers i’r gystadleuaeth gael ei sefydlu. Y Stadiwm Genedlaethol yng Nghaerdydd oedd y lleoliad ar gyfer y Ffeinal gyntaf un ym mis Ionawr 1996 pan gurodd Toulouse, Gaerdydd o drwch blewyn yn amser ychwanegol.

Brive oedd yr ail enillwyr wedi iddynt guro Caerlŷr ac erbyn 2014 ‘roedd Toulon wedi curo’r Saraseniaid er mwyn dod y trydydd tîm o Ffrainc i ennill y gystadleuaeth.

Llwyddodd clwb Caerlŷr i gipio’r Cwpan wrth drechu Munster yng Nghaerdydd yn 2002 cyn i’r Gwyddelod ennill y gystadleuaeth yn 2006 a 2008.

Tro Leinster oedd hi i godi’r Cwpan yn 2011 wedi i berfformiad ail hanner arbennig gan Johnny Sexton yn benodol arwain ei dalaith at fuddugoliaeth yn erbyn Northampton.

Rownd Derfynol 2025 fydd yr wythfed Ffeinal yn y gystadleuaeth hon i gael ei chynnal yng nghartref rygbi Cymru. Bydd Ffeinal y Cwpan Her yn digwydd yn y Stadiwm y noson flaenorol hefyd. Mae Caerdydd wedi cynnal dwy Rownd Derfynol y Cwpan Her o’r blaen ond cynhaliwyd y ddwy ornest honno yn 2011 a 2014 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r tocynnau cyntaf ar gyfer y ddwy rownd derfynol yng Nghaerdydd yn 2025 eisoes ar werth. Mae nifer cyfyngedig o ‘docynnau euraidd’ ar gael i danysgrifwyr bâs data My Gainline (EPCR) am wythnos yn unig. Cliciwch yma: CLICK HERE

Mae’r tocynnau hyn ar gyfer y seddi gorau yn y categori prisiau isaf ar gyfer y ddwy Ffeinal yng Nghaerdydd – ac mae gostingiad o 50% ar gael ar gyfer Rownd Derfynol y Cwpan Her.

Ewch i epcrrugby.com am fanylion pellach.

Caerdydd oedd yr unig dîm o Gymru fu’n cystadlu yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor hwn a’r Gweilch yw’r unig ranbarth o Gymru sydd â chyfle o hyd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth y tymor nesaf. Er mwyn gwneud hynny – mae’n rhaid iddyn nhw orffen yn 8fed yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a bydd yn rhaid iddynt guro Caerdydd gyda phwynt bonws ar Ddydd y Farn ddechrau Mehefin er mwyn gwireddu hynny.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn
Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen blwyddyn