News

Elinor Snowsill i'w hurddo gan Orsedd Cymru

Elinor Snowsill yn bylchu yn ystod ei hymddangosiad olaf dros ei gwlad.

Bydd Elinor Snowsill yn cael ei derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf fis Awst eleni.

Mae’r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau, ac maen nhw’n cael eu rhannu i dri chategori:
• Y Wisg Werdd am gyfraniad i’r celfyddydau;
• Y Wisg Las i’r rhai sy’n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl          • Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.

Bydd 49 o aelodau newydd yn cael eu hurddo ar Barc Ynysangharad yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, a bydd pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.

Enillodd Elinor Snowsill 76 o gapiau dros Gymru gyda’r olaf o’r rheiny’n dod ym muddugoliaeth Cymru yn Parma yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023.

Dywedodd Elinor Snowsill fydd yn derbyn y Wisg Las: “Mae’n deimlad arbennig iawn cael gwybod y byddaf yn cael fy urddo i’r Orsedd ac mae’r ffaith bod fy mam (Nerys Howells – yr arbenigwr bwyd Nerys Howell) yn cael ei derbyn ar yr un pryd yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig.

“I wneud e wrth ochr mam bydd e’n rili sbesial, achos mae hi wedi bod mor gefnogol i mi trwy gydol fy nghyrfa.
“Mae hi wedi teithio ar draws y byd yn dilyn y gemau – Canada, Awstralia… pobman.

“Mae hi wastad wedi bod yno yn y dorf, ac mae’n rhywun sydd wedi pigo fi lan yn ystod yr amseroedd caled, ond cefnogi’r llwyddiant hefyd.”

Related Topics

Newyddion
News