Neidio i'r prif gynnwys
Brython yn talu’r pwyth i Gwalia wrth i Sioned Harries ymddeol mewn steil

03.03.24 - Wedi 78 o gemau dros ei gwlad - daeth gyrfa Sioned Harries i ben wrth i Brython Thunder drechu Gwalia Lightning.

Brython yn talu’r pwyth i Gwalia wrth i Sioned Harries ymddeol mewn steil

Brython Thunder ddaeth â’u tymor yn yr Her Geltidd i ben gryfaf wrth iddyn nhw guro Gwalia Lightning o 30-5 ar Barc y Scarlets ddydd Sul ar achlysur gêm broffesiynol olaf un Sioned Harries.

Rhannu:

Yn eu gormest gyntaf erioed yn y gystadleuaeth ddydd Calan, Gwalia aeth â hi o 20-5 yn Rodney Parade – ond talwyd y pwyth yn ôl ar Barc y Scarlets wrth i dîm Ashley Beck groesi am bum cais.

Sgoriodd Sioned Harries un o’r ceisiau hynny – ac fe lwyddodd yr wythwr amryddawn gyda gôl adlam hefyd ar ddiwedd yr ornest. Tipyn o ffordd i gau’r llen ar yrfa gofiadwy dros gyfnod o bedair blynedd ar ddeg.

DFP – Leaderboard

Ellie Tromans, Amy Williams, Shona Wakley a’r eilydd o fachwr Amy Morgan groesodd am bedwar cais arall Brython Thunder – cyn i seren yr achlysur Harries gau pen y mwdwl ar ei gyrfa gyda’i gôl adlam gofiadwy.

Blaenasgellwr Gwalia Maise Davies hawliodd unig bwyntiau ei thîm yn gynnar yn yr ail hanner – tra bo mewnwr Thunder, Seren Singleton yn treulio 10 munud yn y cell cosb.

Buddugoliaeth pwynt bonws i  Brython Thunder felly – ond diwrnod Sioned Harries oedd hi a pherfformiad teilwng i gloi gyrfa ryfeddol.

Yn gynharach yn y dydd – hefyd ar Barc y Scarlets – cyfartal 12-12 oedd hi rhwng y Clovers o Iwerddon a Chaeredin.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Brython yn talu’r pwyth i Gwalia wrth i Sioned Harries ymddeol mewn steil
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Brython yn talu’r pwyth i Gwalia wrth i Sioned Harries ymddeol mewn steil
Brython yn talu’r pwyth i Gwalia wrth i Sioned Harries ymddeol mewn steil
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Brython yn talu’r pwyth i Gwalia wrth i Sioned Harries ymddeol mewn steil
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro