Neidio i'r prif gynnwys
Harri Ackerman

Harri Ackerman in action for Wales U20

Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei garfan o 23 i wynebu Ffrainc ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ar gyfer rownd olaf ond un Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Iau.  (7.45pm yn fyw ar S4C).

Rhannu:

Am y tro cyntaf yn ystod yr ymgyrch, mae Whiffin wedi gwneud newidiadau ymhlith yr olwyr, gan bod anafiadau wedi ei orfodi i wneud hynny.

Mae Macs Page o’r Scarlets yn cymryd lle Louie Hennessey yn y canol tra bod Harri Ford o Rygbi Gogledd Cymru yn cymryd yr awenau gan Harri Wilde yn safle’r maswr.

DFP – Leaderboard

O safbwynt y blaenwyr, mae Kian Hire yn dychwelyd yn brop pen tynn gyda Sam Scott yn symud i’r fainc – tra bod Osian Thomas yn symud o’r rheng ôl i ddechrau fel clo yn erbyn y Ffrancwyr.

Mae Lucas de la Rua yn symud o safle’r wythwr yn ôl i fod yn flaen-asgellwr ochr dywyll gyda Morgan Morse o’r Gweilch yn dychwelyd i’r tîm fel wythwr. Luca Giannini o’r Scarlets sy’n cwblhau’r drindod yn y rheng ôl wrth iddo ddechrau ei gêm gyntaf ym mhencampwriaeth eleni – a hynny ar yr ochr agored.

Gall Tom Golder, Ellis Price ac Aidan Boschoff, ennill eu capiau cyntaf o dan 20 os y cawn nhw eu galw o’r fainc.

Wrth hela eu hail fuddugoliaeth o’r ymgyrch – ar ôl curo’r Alban yn y rownd agoriadol – mae Richard Whiffin yn gwbl ymwybodol o’r her sylweddol sy’n wynebu ei garfan ifanc nos Iau.

“Mae Ffrainc yn rhagorol – yn enwedig felly os yw’r chwarae’n agored a rhydd. Mae ganddyn nhw fechgyn mawr sy’n cario’r bêl yn arbennig o gryf ac mae sgiliau dadlwytho’r holl dîm i’w hedmygu hefyd. Os byddwn ni’n cicio’n wael, fe fyddan nhw’n fygythiol tu hwnt ond mae gennym ni gynllun arbennig ar gyfer y gêm ac ry’n ni’n credu y gallwn eu herio’n yr awyr ac ar y tir hefyd.

“Maen nhw’n dîm cryf iawn, gyda llawer o’u bechgyn yn chwarae yn nau gynghrair uchaf Ffrainc. ‘Ry’n ni’n gwybod y bydd yn Ffrancod yn cynnig her anodd i ni ond mae’n carfan ni yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur a’r gêm gan ein bod yn credu bod gennym gyfle da i’w maeddu.

“Parc yr Arfau fydd ein cartref am y ddwy gêm nesaf. Gobeithio y bydd awyrgylch dda yno a gobeithio hefyd y gallwn ni chwarae rygbi atyniadol fydd yn cyffroi’r cefnogwyr.”

Cymru dan 20 v Ffrainc dan 20, Parc yr Arfau, Caerdydd Iau 7fed o Fawrth,7.45pm
15 Huw Anderson (Dreigiau)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
13 Macs Page (Scarlets)
12 Harri Ackerman (Dreigiau – Capt)
11 Walker Price (Dreigiau)
10 Harri Ford (Rygbi Gogledd Cymru)
9 Ieuan Davies (Caerfaddon);
1 Josh Morse (Scarlets)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Kian Hire (Gweilch)
4 Nick Thomas (Dreigiau)
5 Osian Thomas (Caerlŷr)
6 Lucas de la Rua (Caerdydd)
7 Luca Giannini (Scarlets)
8 Morgan Morse (Gweilch)

Eilyddion
16 Will Austin (Sale)
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Sam Scott (Canolbarth Lloegr)
19 Tom Golder (Harlequins)*
20 Will Plessis (Scarlets)
21 Rhodri Lewis (Gweilch)
22 Ellis Price (Scarlets)*
23 Aidan Boschoff (Bryste)*

*Heb gap eto

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi carfan o dan 20 Cymru i wynebu Ffrainc