Neidio i'r prif gynnwys
Harri Ackerman

Dragons RFC centre Harri Ackerman will captain Wales U20s

Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi

Mae Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, wedi enwi carfan o 37 chwaraewr ar gyfer ymgyrch Chwe Gwlad 2024. 

Rhannu:

Nid yw blaen-asgellwr y Dreigiau, Ryan Woodman ar gael ar gyfer y garfan gan ei fod wedi torri ei fawd. Cyd-chwaraewr Woodman gyda’r Dreigiau, Harri Ackerman – sydd wedi ei enwi’n gapten.

Mae’r garfan yn cynnwys 11 chwaraewr sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel o dan 20 o’r blaen. Er i Huw Anderson deithio gyda’r garfan i Gwpan y Byd o dan 20 y llynedd – ni chafodd unrhyw amser ar y cae yn Ne Affrica ac felly mae eto i ennill ei gap cyntaf.

DFP – Leaderboard

Mae Cymru wedi paratoi ar gyfer y Bencampwriaeth trwy herio Aberafan a Phrifysgol Abertawe. Yn ystod y ddwy fuddugoliaeth honno, fe wnaeth nifer o chwaraewyr argraff ffafriol iawn ar Whiffin.

“Fe wnaethon ni roi’r cyfle i bob un o’r garfan dros y ddwy gêm – oni bai am y rheiny oedd yn cynrychioli eu rhanbarthau ar y penwythnosau hynny. Fe gawson ni olwg fanwl ar nifer o chwaraewyr ac ma nifer o’r rhai berfformiodd yn glodwiw wedi cael eu cynnwys yn y garfan.

“Yn erbyn Aberafan fe lwyddon ni i weld llawer o fechgyn yn chwarae rygbi ar y safon hwnnw am y tro cyntaf. ‘Ro’n i’n hapus iawn gyda’r lefelau ffitrwydd yn enwedig. ‘Roedd hi’n her wahanol yn erbyn Prifysgol Abertawe lle roddon ni gyfleoedd i rai chwaraewyr eraill ac fe wnaeth hynny fy ngalluogi i a’r hyfforddwyr i ddewis y garfan a deall ble mae’n cryfderau. Os ydyn ni’n cael anafiadau yn ystod y Bencampwriaeth, rydyn ni’n gwybod pwy all sefyll yn y bwlch.

“Mae gennym bac eithaf corfforol a chyflym gyda’r gallu i herio timau gyda’n pŵer.  Mae’n rheng ôl yn gryf ac mae gennym ddoniau allan yn llydan hefyd. Fe ddechreuodd y garfan ddangos eu doniau yn y ddwy gêm ddiweddar sy’n addawol iawn.

“Yn bendant, mae gennym dîm gyda’r gallu i symud y bêl, a dyna sut rwy’n hoffi gweld y gêm yn cael ei chwarae, ond mae gennym hefyd dipyn o grebwyll tactegol o safbwynt chwarae’r gêm yn ardaloedd cywir y maes.”

Mae Ackerman, ynghyd â Morgan Morse a Lucas de la Rua wedi bod yn cael cryn dipyn o amser ar y maes gyda’u rhanbarthau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac yn Ewrop yn ddiweddar – ac mae Whiffin yn awyddus iddyn nhw arwain y ffordd i weddill y garfan.

“Rydyn ni am iddyn nhw ddod yn ôl a rhannu’r wybodaeth honno a chodi safon y chwarae fydd yn cynnig gwell siawns i ni fod yn llwyddiannus.”

Mae’r tîm hyfforddi hefyd bellach wedi’i gadarnhau gyda Scott Sneddon, Sam Hobbs a Richie Pugh yn ymuno â Whiffin.

“Rwy’n falch iawn o’r tîm hyfforddi sydd gennym. Mae Scott Sneddon o’r Scarlets wedi gwneud gwaith gwych gyda’n hamddiffyn. Mae wedi cysylltu’n gyson ac effeithiol â Mike Forshaw o’r prif dîm gan sicrhau ein bod yn cael cysondeb safonol rhwng y tîm rhyngwladol a’n carfan ni.

“Bydd Sam Hobbs o’r Dreigiau yn gofalu am ein blaenwyr. Mae’n brofiadol iawn bellach gyda’r timau datblygu o dan 18 ac mae’n haeddu ei gyfle gyda’r garfan o dan 20. Mae’n adnabod nifer o’r chwaraewyr yn dda iawn yn barod – ac mae hynny  wedi bod yn amhrisiadwy i ni hyd yn hyn.

“Mae Richie Pugh – sy’n gyfrifol am y tîm o dan 18 oed fel arfer – yn aelod gwerthfawr arall o’n tîm hyfforddi. Y gobaith yw y gallwn ni gyd gynnig hyfforddiant cryf ac arweiniad cadarn i’r bechgyn.”

Gyda Chymru’n croesawu’r Alban ym Mae Colwyn ar noson agoriadol y Bencampwriaeth, mae Whiffin yn gobeithio y bydd Stadiwm CSM yn llawn o gefnogwr brwd a swnllyd.

“Er mai dim ond pythefnos sydd yna tan ein gêm gyntaf – ‘ry’n ni’n paratoi’n dda. Byddai’n wych cael cefnogaeth dda unwaith eto yng Ngogledd Cymru – yn y gobaith y cawn ddechrau cadarnhaol i’n hymgyrch yn y Bencampwriaeth.”

Carfan o dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

BLAENWYR (21)
Freddie Chapman (Gweilch)
Jordan Morris (Dreigiau)
Josh Morse (Scarlets)
Louie Trevett (Bryste)
Harry Thomas (Scarlets)
Evan Wood (Met Caerdydd)
Will Austin (Sale)
Kian Hire (Gweilch)
Sam Scott (Canolbarth Lloegr)
Patrick Nelson (Rygbi Gogledd Cymru)
Johnny Green (Harlequins)
Lewis Marsh (Gweilch)
Nick Thomas (Dreigiau)
Tom Golder (Harlequins)
Osian Thomas (Caerlŷr)
Will Plessis (Scarlets)
Lucas de la Rua (Caerdydd)
Harri Beddall (Caerlŷr)
Luca Giannini (Scarlets)
Morgan Morse (Gweilch)
Owen Conquer (Glyn Ebwy)

OLWYR (16)
Ieuan Davies (Caerfaddon)
Rhodri Lewis (Gweilch)
Lucca Setarro (Scarlets)
Harri Wilde (Caerdydd)
Harri Ford (Rygbi Gogledd Cymru)
Harri Ackerman (Dreigiau – Capten)
Macs Page (Scarlets)
Louie Hennessey (Caerfaddon)
Gabe McDonald (Scarlets)
Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
Walker Price (Dreigiau)
Aiden Boschoff (Bryste)
Kodi Stone (Caerdydd)
Scott Delnevo (Aberafan)
Huw Anderson (Dreigiau)
Matty Young (Caerdydd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Rhino Rugby
Sportseen
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi
Amber Energy
Opro
Carfan Cymru o dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad yn cael ei chyhoeddi