Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.

Jac Morgan fydd Capten Cymru yn erbyn y Barbariaid.

Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi carfan o 23 o chwaraewyr i herio’r Barbariaid ddydd Sadwrn y 4ydd o Dachwedd. (2.30pm yn fyw ar S4C).

Rhannu:

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer yr ornest gyffrous hon fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality yma:  WRU.WALES/TICKETS .

Bydd y garfan yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan Ragoriaeth Undeb Rygbi Cymru yn Hensol ddydd Llun y 30ain o Hydref.

DFP – Leaderboard

Er nad oes capiau’n cael eu cynnig ar gyfer y gêm hon, mae 16 aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd wedi eu cynnwys gyda 7 chwaraewr na deithiodd i Ffrainc wedi eu hychwanegu. Jac Morgan sydd wedi ei enwi’n gapten.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae gennym gymysgedd dda o’r bechgyn gymrodd ran yng Nghwpan y Byd a chwaraewyr eraill sydd wedi bod yn rhan o’r garfan yn ddiweddar hefyd.

 “Ry’n ni wedi dewis carfan gymharol fechan ar gyfer yr ornest hon – gan nad oeddem eisiau amharu’n ormodol ar drefniadau’r Rhanbarthau.

Nid oes unrhyw unigolion sy’n chwarae eu rygbi yn Siapan, Lloegr na Ffrainc wedi eu cynnwys ar gyfer y gêm hon – gan nad yw eu gwasanaeth ar gael i ni.

 “Mae’n paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd 2027 yn dechrau nawr.

“Wrth edrych ar y talent a’r potensial sydd gennym wrth law – mae’r pedair blynedd nesaf yn argoeli i fod yn gyfnod cyffrous iawn.

 “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyd-weithio gyda’r garfan a gweld y chwaraewyr yn datblygu a thyfu.”

 Carfan Cymru i baratoi i herio’r Barbariaid yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn y 4ydd o Dachwedd. (2.30pm yn fyw ar S4C)

BLAENWYR  (13)

Corey Domachowski (Caerdydd – 6 chap)

Nicky Smith (Gweilch – 46 chap)

Elliot Dee (Dreigiau – 46 chap)

Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)

Keiron Assiratti (Caerdydd – 2 gap)

Leon Brown (Dreigiau – 12 cap)

Adam Beard (Gweilch – 51 cap)

Ben Carter (Dreigiau – 10 cap)

Teddy Williams (Caerdydd – 1 cap)

Dan Lydiate (Dreigiau – 72 cap)

Jac Morgan (Gweilch – 15 cap) *capten

Taine Plumtree (Scarlets – 2 gap)

Aaron Wainwright (Dreigiau – 43 chap)

OLWYR  (10)

Kieran Hardy (Scarlets – 18 cap)

Tomos Williams (Caerdydd – 53 chap)

Sam Costelow (Scarlets – 8 cap)

Cai Evans (Dreigiau – 1 cap)

Mason Grady (Caerdydd – 6 chap)

George North (Gweilch – 118 cap)

Johnny Williams (Scarlets – 7 cap)

Rio Dyer (Dreigiau – 14 cap)

Leigh Halfpenny (Heb glwb – 101 cap)

Tom Rogers (Scarlets – 3 chap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.
Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru’n enwi carfan o 23 i wynebu’r Barbariaid.