Neidio i'r prif gynnwys
Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington

21.10.23 - Cymru v Canada, WXV1 - Georgia Evans yn croesi am gais hwyr yn y cyfnod cyntaf.

Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington

Er i dîm Ioan Cunningham berfformio’n gryf yn ystod yr hanner cyntaf – fe brofodd grym a thri chais ail gyfnod Canada’n ormod i Fenywod Cymru yn eu gêm gyntaf erioed yn y WXV1 yn Wellington wrth iddynt hawlio buddugoliaeth o 42-22.

Rhannu:

Arweiniodd Sophie de Goede dîm Canada’n gampus gan iddi sgorio cais agoriadol yr ornest wedi 5 munud yn unig a chwe throsiad yn ystod y gêm yn Stadiwm Sky.

Er yr ergyd gynnar honno, fe ddangosodd y Cymry eu cymeriad wrth daro nôl yn syth i bob pwrpas gan i Carys Phillips dirio’n y gornel wedi 8 munud – yn dilyn gwaith effeithiol yn y lein.

DFP – Leaderboard

Llwyddodd Keira Bevan â gôl gosb yn fuan wedi hynny i roi ei thîm ar y blaen – ond wedi hanner awr o chwarae ‘roedd Canada wedi cael gafael ar y gêm. Yn dilyn cyfnod o ail gylchu’r bêl yn effeithiol – fe blymiodd Sara Svoboda am ail gais ei thîm.

Ychydig funudau cyn yr egwyl, ‘roedd awgrym y byddai goruchafiaeth Canada’n profi’n llawer gormod i Gymru gan i Madison Grant groesi i roi mantais o 21-10 i’w thîm – ond tarwyd ergyd olaf y cyfnod cyntaf pan ryng-gipiodd Georgia Evans i dirio yng nghysgod y pyst.

Dyw Cymru heb guro Canada ers 2006 ond ‘roedd gobaith newid hynny ar yr egwyl gan mai dim ond pedwar pwynt oedd yn gwahanu’r timau.

Yn anffodus, wedi troi, fe ddangosodd Canada eu profiad, eu cryfder a’u dawn – gan dagu gobeithion eu gwrthwynebwyr – ac yn ymarferol fe bylodd gobeithion y Cymry am fuddugoliaeth hanesyddol gwta 5 munud wedi troi pan hawliodd McKinley Hunt ei chais.

Methiant fu ymgais Ioan Cunningham i droi’r llanw wrth ddod â Donna Rose, Lleucu George a Carys Williams-Morris i’r maes gan i Gillian Boag groesi am bumed cais Canada gyda 12 munud ar ôl.

Llwyddodd Alex Callender i gau’r bwlch ddau funud yn ddiweddarach ond Canada’n haeddainnol gafodd y gair olaf wrth i Sarah-Maude Lachance groesi am chweched cais ei thîm yn amser yr amen.

Fel gyda’r pum cais blaenorol – llwyddodd Sophie de Goede gyda’r trosiad terfynol hefyd.

Er y golled hon, fe ddangosodd y Cymry ddigon o galon ac ymdrech ac amlygwyd hynny ym mherfformiad Jasmine Joyce yn enwedig.

Ymhen wythnos bydd her sylweddol iawn yn wynebu carfan Ioan Cunningham wrth iddyn nhw wynebu Pencampwyr y Byd – ar eu tomen eu hunain yn Dunedin.

Sgorwyr:

Canada: Ceisiau: Sophie de Goede, Sara Svoboda, Madison Grant, McKinley Hunt, Gillian Boag, Sarah-Maude Lachance; Trosiadau: de Goede (6)

Cymru: Carys Phillips, Georgia Evans, Alex Callender; Trosiadau: Keira Bevan (2); Ciciau Cosb: Bevan

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington
Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cryfder Canada’n ormod i Gymru yn Wellington