Neidio i'r prif gynnwys
Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw

Glanmor Griffiths oedd yn bennaf gyfrifol am y ffaith bod y Stadiwm wedi ei hadeiladu yn 1999.

Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw

Mae Glanmor Griffiths, y gŵr fu’n fwy cyfrifol nac unrhyw un arall am y ffaith bod Stadiwm Principality wedi ei aeiladu – wedi marw.

Rhannu:

Bu’n Drysorydd, Cadeirydd a Llywydd Undeb Rygbi Cymru ac ef oedd arweinydd y cynllun i adeiladu Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999.

Dywedodd Cardeirydd presennol Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: “Mae dyled rygbi Cymru i Glanmor Griffiths yn fawr. Hebddo, ni fyddai Stadiwm Principality yn bodoli. Wrth i’r gwaith adeiladu ddigwydd, dyma oedd un o brosiectau adeiladu mwyaf uchelgeisiol gorllewin Ewrop.

DFP – Leaderboard

“Mae’r Stadiwm wedi cyfrannu cymaint at y genedl ers ei hadeiladu yn 1999.”

Cost y cynllun ar y pryd oedd £130 miliwn – o’i gymharu â’r £1biliwn gostiodd stadiwm newydd Wembley ac ychwanegodd Collier-Keywood: “Gan i Glanmor Griffiths wasnaethu’r Undeb mewn tair swydd hynod flaenllaw, mae ei ddylanwad ar y gamp yng Nghymru yn ddwfn a sylweddol.

“Hoffwn ymestyn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i gyfeillion am eu colled drom.”

Yn ogystal â chynnal Cwpan y Byd yn 1999, llwyddodd Griffiths i sicrhau bod rhai gemau yng Nghystadlaethau 2007 a 2015 yn cael eu chwarae yn y Stadiwm hefyd.

Ganed Glanmor Griffiths ar 21 Rhagfyr 1939 yn drydydd o saith o blant. Mynychodd Ysgol Ramadeg Ogwr hyd nes ei fod yn 16 oed pan aeth i weithio i Fanc y Midland. Bu’n gweithio yn Paddock Wood, Tonypandu, Llandochau, Pen-y-bont ar Ogwr, Ascot a Llundain.

Priododd Mair ac yntau yn 1964 ac fe gawsant 4 o blant.

Pan gafodd ei wraig gancr y fron yn yr 1980au cynnar, fe ymddeolodd Griffiths yn hanner cant oed ac yna daeth yn Drysorydd Undeb Rygbi Cymru fel olynnydd Ken Harris yn 1985.

Er iddo ddod yn Gadeirydd a Llywydd yr Undeb yn ddiweddarach, cael ei gofio’n bennaf am fwrw’r maen i’r wal a throi’r freuddwyd o adeiladu Stadiwm y Mileniwm yn ffaith, y bydd Glanmor Griffiths yn cael ei gofio’n bennaf.

Dywedodd Glanmor Griffiths ei hun wedi i’r Stadiwm gael ei chwblhau er mwyn cynnal Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999:

“Roeddwn yn hyderus y byddai fy nghred y byddai’r Stadiwm yn barod yn cael ei gwireddu.”

Mae Glanmor Griffiths yn cael ei oroesi gan ei wraig Mair, ei bedwar plentyn – Stephen, Kathryn, Susan a Judith, 11 o wyrion an un gor-ŵyr.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw
Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cyn Drysorydd, Llywydd a Chadeirydd URC, Glanmor Griffiths wedi marw