News

Pritchard yn ymuno â charfan dan 20 Cymru yn lle Fackrell

Ellis Fackrell
Ni fydd Ellis Fackrell (canol) yn gallu chwarae rhan bellach ym Mhencampwriaeth dan 20 y Byd

Mae anaf i ysgwydd prop pen tynn y Gweilch, Ellis Fackrell, yn golygu na fydd yn gallu chwarae rhan pellach ym Mhencampwriaeth dan 20 y Byd yn Ne Affrica. Dioddefodd Fackrell yr anaf yng ngholled greulon Cymru yn erbyn Seland Newydd yn Paarl ddydd Sadwrn. Tom Pritchard o Gaerdydd fydd yn cymryd ei le’n y […]

Mae anaf i ysgwydd prop pen tynn y Gweilch, Ellis Fackrell, yn golygu na fydd yn gallu chwarae rhan pellach ym Mhencampwriaeth dan 20 y Byd yn Ne Affrica.

Dioddefodd Fackrell yr anaf yng ngholled greulon Cymru yn erbyn Seland Newydd yn Paarl ddydd Sadwrn.

Tom Pritchard o Gaerdydd fydd yn cymryd ei le’n y garfan ac mae eisoes wedi cyrraedd Cape Town wrth i fechgyn Mark Jones baratoi i wynebu Japan yn eu hail gêm o’r gystadleuaeth y prynhawn yma.

Bydd yr ornest yn Stellenbosch yn fyw ar S4C ac er i Gymru hawlio dau bwynt bonws yn erbyn y Crysau Duon, bydd y crysau cochion yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghrŵp A y prynhawn yma.

Related Topics

Newyddion
News