Neidio i'r prif gynnwys
Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr

Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr

Ddydd Sul 7 Ebrill, bydd tîm dan 19 Cymru yn croesawu eu cyfoedion o Loegr i Gae’r Bragdy Morganstone ym Mhen-y-bont ar Ogwr (bydd y gic gyntaf am 2pm).

Rhannu:

Wrth baratoi ar gyfer y gêm bydd tîm hyfforddi Cymru, dan arweiniad y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Geraint Lewis a Chris Horsman, yn cael cymorth dau sydd hefyd wedi chwarae dros Gymru, sef Gethin Jenkins a Richie Rees.
 
“Rydym wedi newid y gr?p oedran ar ein llwybr rhyngwladol er mwyn bod yn gyson â’r modd y caiff grwpiau oedran eu hystyried o safbwynt cymhwysedd i chwarae rygbi rhyngwladol, a dim ond bechgyn a anwyd yn y flwyddyn 2000 fydd yn cael eu cynnwys yn y garfan dan 19.”
 
Trwy greu tîm dan 19, rhagwelir y bydd chwaraewyr yn cael cyfle o hyd i fod ynghlwm wrth system y llwybr. O’r blaen mae’n bosibl mai i raddau bach iawn, os o gwbl, yr oedd rhai chwaraewyr yn ymwneud â’r rhaglen ar ôl iddynt gwblhau eu dyletswyddau dan 18, oherwydd bod cymaint o gystadleuaeth am leoedd yn y garfan dan 20.
 
Gan fod y rhwystr hwnnw wedi’i oresgyn erbyn hyn, mae Lewis yn gobeithio y bydd y sawl a fydd yn chwarae yn y gêm yn erbyn Lloegr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gorfodi hyfforddwyr y tîm dan 20 i feddwl yn ddwys wrth ddewis carfan ar gyfer Pencampwriaeth Iau’r Byd yn yr haf.
 
Tîm dan 19 Cymru v Tîm dan 19 Lloegr

Dydd Sul 7 Ebrill (bydd y gic gyntaf am 2pm)
Dim ond wrth y giât y gellir prynu tocynnau: £5 i oedolion, £1 i rai dan 16 oed

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr
Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Tîm dan 19 Cymru yn croesawu Lloegr i Ben-y-bont ar Ogwr