Neidio i'r prif gynnwys
Dechrau da i’r merched

Dechrau da i’r merched

Dechreuodd ymgyrch y chwe gwlad yn llwyddianus i dîm ifanc a chymharol ddibrofiad Rowland Phillips gyda buddugoliaeth 18-17 ym Mae Colwyn.

Rhannu:

‘Doedd y sgôr derfynol ddim yn adlewyrchiad o’r goruchafiaeth amlwg fu gan y crysau coch am gyfnodau hir, ond o fethu a throsglwyddo hynny i bwyntiau fe ganfu yr Albanwyr lygedyn o obaith a bu bron i’r cyfan droi’n sur i’r Cymry.
 
O’r cychwyn ‘roedd y crysau coch oll yn gyfforddus gyda’r bêl yn eu meddiant ac yn hynod gefnogol o’i gilydd tra’n cael eu harwain drwy esiampl wych y capten, Carys Phillips.
 
Cadwodd y Cymry’r bêl am y deng munud cyntaf gyda Jodie Evans yn taro’r postyn wrth ymdrechu i drosi cic gosb. Daeth hefyd yn agos gyda un rhediad nerthol arall wrth i’r pac ddominyddu a chyflwyno digonedd o beli i’r olwyr drwy sgrymio cadarn a sgarmesi symudol a enillodd fetrau lawer gydol y gêm.
 
Daeth y pwyntiau cyntaf ar ddeuddeg munud wrth i’r bêl gael ei phasio’n gelfydd ymysg yr olwyr, gyda presenoldeb a dwylo chwim y gefnwraig Jodie Evans yn rhyddhau yr asgellwraig Jess Kavanagh Williams ugain metr o’r linell. O gofio i Jess sgorio ddwywaith yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl, ‘roedd y disgwyliadau yn uchel, ac fel gogleddwraig oedd o flaen ei chefnogwyr mwyaf selog wnaeth hi ddim siomi, gan gyflymu ac ochr-gami yn ddyheug i dirio heb fod ymhell o’r lliman cornel. Methwyd y trosiad ond parhau wnaeth y pwysau ar yr Albanwyr gyda un mewnbwn arall gan Jess Kavanagh Williams bron a rhyddhau ei chyd asgellwraig Hannah Bluck, ond yn anffodus ‘roedd yn bas yn un hynod o anodd i’w chasglu.
 
‘Roedd y newydd ddyfodiaid i’r tîm yn gweithredu yn effeithiol gyda’r flaenasgellwraig Beth Lewis yn cynnig ei hun a chario yn effeithiol a’r fewnwraig Jade Knight yn brysur yn ceisio amrywio’ r chwarae. Daeth cyfle toc i Jodie Evans ymestyn y fantais pan ddyfarnwyd cig cosb am beidio a rhyddhau yn erbyn y blaenwyr glas a’r tro yma bu yn llwyddianus.
 
‘Roedd gwaith y blaenwyr yn daclus ddigon gyda Mel Clay yn gyfforddus yn y llinell a taclo Hannah Bluck a Rebecca De Filippo yn ddigyfaddawd. Er hyn dechreuodd yr Alban ddechrau hawlio a chadw mwy o feddiant fel i’r hanner fynd rhagddo gyda rhediadau nerthol y rheng ôl o Louise McMillan a Hannah Smith yn codi ysbryd eu tîm. Yn wir bu seibiant am gyfnod, cyn i’r dyfarnwr, wedi ail sbio ar y dystiolaeth wrthod cynnig y rhif wyth Sarah Bonar gan nad oedd tystiolaeth bendant ei bod wedi tirio’r bêl ar ol cyfnod o bwyso parhaus gan yr Alban.
 
O ddianc yn ddi-gosb aeth y Cymry nôl i wrthymosod gyda Amy Evans yn flaenllaw ac Alisha Butchers yn gynyddol ddylanwadol yn y chwarae rhydd. Ar yr hanner daeth eu gwobr pan fwydwyd yr ochr dywyll yn sydyn gan Rhiannon Parker yr eilydd o fewnwraig gan ganfod Hannah Bluck a sgoriodd yn y gornel a hynny ar ei hymddangosiad cyntaf yng nghrys ei gwlad. O fethu’r trosiad daeth yr hanner i derfyn gyda Cymru yn gyfforddus ddigon ar y blaen o dri ar ddeg pwynt i ddim.
 
Ar ddechrau’r ail hanner gwelwyd yr Alban yn fwy parod i herio eu gwrthwynebwyr gyda’r gefnwraig Chloe Rollie yn ysbrydoli ei thîm drwy redeg yn gryf a phwrpasol ar bob cyfle. Yn wir pan welwyd y Cymry am unwaith yn aros yn ôl a peidio a herio eu gwrthwynebwyr fel yn yr hanner cyntaf magodd yr Albanwyr hyder a doedd hi ddim yn syndod pan welwyd y gefnwraig wallt melyn, Rollie, yn coroni symudiad a aeth o un ochr o’r cae i’r llall yn gynnar yn yr hanner a thawelu’r dorf.
 
Arweiniodd Carys Phillips trwy esiampl unwaith eto gan barhau a nifer o hyrddiadau yn agos i’r linell yn dilyn bylchiad arall gan Beth Lewis. O bosib byddai un wedi disgwyl i ambell sgrym gael ei dewis yn agos i’r linell gan fod yr oruchafiaeth ganddynt ond o barhau i gymryd ciciau cosb sydyn ag ailgylchu yn gelfydd achosodd hyn ddigon o ddryswch yn rhengoedd yr Alban i roi lle i’r ganolwraig a phrefformwraig gyson ac effeithiol iawn ar y noson, Kerin Lake i adennill y fantais o dri pwynt ar ddeg  i’r Cymry pan yn tirio wedi deuddeg munud o’r ail ddechrau.

Bu i’r crysau coch ddangos doniau amddiffyn digon celfydd am y cyfnod a ddilynnodd ond ‘roedd cefnwyr yr Alban yn gynyddol fygythiol. Gyda chymorth rhif chwech Hannah Smith yn rhedeg i’r tir agored a phas wych Lisa Thomson yn denu Rollie mlaen i’r bêl ar gyflymder fe lwyddodd y gefnwraig i lithro trosodd am ei hail gais heb i neb osod bys arni, hanner ffordd drwy’r hanner.
 
‘Roedd peth blinder o bosib yn llesteirio’r Cymry erbyn hyn, tra ‘roedd hyder yr Alban yn uchel. Tawelwyd y dorf yn sicr ar saithdeg munud pan yn dilyn camgymeriad, fe ganfu y crysau glas eu hunain o fewn modfeddi o’r linell gais, ac wrth warchod y bêl yn gelfydd fe ganfu y prop Jade Konkel ddigon o fwlch i wasgu drosodd ymysg y dryswch. Pan i’r eilydd Sarah Law drosi’r cais ‘roedd mantais y tîm cartref lawr i bwynt yn unig  a’r angen am gadw pen yn hanfodol.
 
Mentrodd y criw hyfforddi i daflu pedair blaenwraig newydd i’r frwydr ac yn wir fe dalodd y fenter. Clymodd Gwenllian Pyrs a Cerys Hale y sgrym yn ddi-drafferth naill ochr eu capten a daeth bloedd o gymeradwyaeth pan welwyd Teleri Davies o’r Bala yn camu i’r cae i ennill ei chap cyntaf yn yr ail-reng. Ychwanegodd Nia Elen Davies egni newydd i’r rheng ôl hefyd.
 
Llesteiriwyd mymryn ar yr Albanwyr wrth i un o’r blaenwyr weld cerdyn melyn, ond y Cymry orffennodd gryfaf gan dreulio’r deng munud olaf yn hanner y gwrthwynebwyr. Aeth Jess Kavanagh Williams yn agos unwaith eto a gyda gwell dadlwytho byddai cais arall yn sicr wedi deillio. Gwarchodwyd y bêl am y tair munud olaf dim ond i’w cholli wedi i’r cloc droi’n goch. Fodd bynnag llwyddodd Nia Elen Davies i adennill y meddiant, cyn i neb yn fwy haeddiannol na’r capten a chwaraewraig y gêm, Carys Phillips roi troed i’r bêl a’i bwrw ymhell oddi ar y cae i fonllef o gymeradwyaeth.
 
Bydd prawf mwy pendant ar y merched yn siwr o ddeillio yn ystod y bencampwriaeth ond mae yma ysbryd amlwg, talent, dycnwch, dyfalbarhad ar ewyllus i wneud eu gorau dros ei gilydd, y tîm hyfforddi a’u gwlad.

DFP – Leaderboard

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dechrau da i’r merched
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dechrau da i’r merched
Dechrau da i’r merched
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dechrau da i’r merched
Rhino Rugby
Sportseen
Dechrau da i’r merched
Dechrau da i’r merched
Dechrau da i’r merched
Dechrau da i’r merched
Dechrau da i’r merched
Dechrau da i’r merched
Amber Energy
Opro
Dechrau da i’r merched