Neidio i'r prif gynnwys
Paid â chamsefyll

Paid â chamsefyll

Mae URC yn annog clybiau i enwebu swyddogion i helpu chwaraewyr i ‘Beidio â chamsefyll’.

Rhannu:

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynyddu’r lefel o addysg wrthgyffuriau ar draws rygbi ar bob lefel yng Nghymru ac yn gwahodd clybiau cymunedol i enwebu swyddogion gonestrwydd er mwyn iddyn nhw dderbyn arweiniad pellach.

Bellach mae yna dim o addysgwyr arbenigol o dan adain UKAD yn gweithredu o fewn URC ac ar ôl canolbwyntio ar ardaloedd penodedig dros yr haf – Uchgynghrair Principality, Pencampwriaeth URC, carfan Tarian Dewar ynghyd a chwaraewyr rhyngwladol – mae’r pwyslais nawr ar addysg ar gyfer chwaraewyr ar lawr gwlad.

DFP – Leaderboard

Meddai rheolwr Polisi a Gonestrwydd URC Jeremy Rogers: “Yr ydym yn ystyried addysg wrthgyffuriau fel rhywbeth hanfodol pwysig ac wedi cymryd camau i sicrhau bod chwaraewyr, hyfforddwyr a staff cynorthwyol wedi’u haddysgu yn y maes yn ymwneud ac ychwanegion, meddyginiaethau a rheolau yn ymwneud a chyffuriau ac yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau.

“Nid oes yna le i gyffuriau o fewn Rygbi Cymru a’r gobaith yw y bydd y mesurau yma yn fodd i leihau’r posibilrwydd o chwaraewyr yn niweidio eu hunain. Yr ydym am weld chwaraewyr yn gwneud penderfyniadau doeth ac mae addysg yn rhan bwysig o hynny. Mi ddylai chwaraewyr ganolbwyntio ar fwyta ac yfed yn iach a mabwysiadu arferion gorffwys ac ymarfer priodol.”

“Law yn llaw gyda maethegwyr, gwyddonwyr chwaraeon a staff meddygol URC yr ydym wedi cyhoeddi pamffledi ynghyd a baneri a phosteri ‘Paid â Chamsefyll’ i fod clwb. Mae’r deunydd hefyd ar gael yn Gymraeg.

Mae URC yn apelio ar ein clybiau i enwebu aelod blaenllaw o’r tîm rheoli i fod yn swyddog gonestrwydd. Nhw wedyn fydd y pwynt cysylltu er gyfer gwybodaeth yn ymwneud ar ymgyrch gwrthgyffuriau ac yn cael gwahoddiad i weithdai hyfforddi ar draws Cymru yn y flwyddyn newydd.

“Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol – mae 39% o glybiau eisoes wedi penodi swyddog gonestrwydd a dwi’n annog y clybiau eraill i gysylltu gyda’n Swyddog Gonestrwydd Athletaidd Robert Thompson er mwyn cynnig enw. Mae modd cysylltu trwy e-bost – Anti-doping@wru.wales

“Mae rheolau gwrthgyffuriau URW yn seiliedig ar atebolrwydd yr unigolyn, y chwaraewr unigol sydd yn gyfrifol am y sylwedd sydd yn ei gorff, boed hynny yn fwriadol neu anfwriadol, ac mae gwaharddiadau hirdymor yn effeithio nid yn unig y chwaraewyr ond hefyd eu teuluoedd.”

Mae gwybodaeth yngl?n â meddyginiaethau, ychwanegion a sylweddau sydd wedi cael eu gwahardd ar gael yma: wru.wales/AntiDoping

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Paid â chamsefyll
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Paid â chamsefyll
Paid â chamsefyll
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Paid â chamsefyll
Rhino Rugby
Sportseen
Paid â chamsefyll
Paid â chamsefyll
Paid â chamsefyll
Paid â chamsefyll
Paid â chamsefyll
Paid â chamsefyll
Amber Energy
Opro
Paid â chamsefyll