Neidio i'r prif gynnwys
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia

Cyngor Teithio Cymru v Awstralia

Bydd gwiriadau diogelwch manwl yn Stadiwm Principality, felly mae’r Awdurdodau’n cynghori pawb sy’n teithio i Gaerdydd i neilltuo digon o amser i fynd i mewn i’r stadiwm.

Rhannu:

Bydd y gêm yn dechrau am 2.30pm, felly bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 12.30pm. Mae’r oriau agor fel y nodir isod, ond rhoddir diweddariadau byw drwy @CyngorCaerdydd yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.

Bydd y ffyrdd canlynol yng Nghanol y Ddinas ar gau’n gyfan gwbl o 12:30pm tan 5.30pm:

DFP – Leaderboard

• Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
• Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan at y gyffordd â Heol y Porth.
• Tudor Street o’r gyffordd â Clare Road at y gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
• Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place at y cyffyrdd â Tudor Street (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
• Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: – Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
• Rheolir mynediad i’r Ganolfan Ddinesig. Caniateir mynediad i barcio ar gyfer y gêm, llwytho ac i gael mynediad i feysydd parcio preifat. Bydd hyn yn amharu ar Rodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 4.00pm i 6.00pm:

• Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair
• Heol y Tollty ar ei hyd
• Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Hoffai’r Awdurdodau i chi wybod, os bydd unrhyw bryderon diogelwch mewn perthynas â’r system giwio yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty yn aros ar gau tan i’r materion gael eu datrys.

Trenau

Dylai cwsmeriaid ddal y trên cynharaf posibl i mewn i Gaerdydd ac anelu’n syth am yr orsaf ar ôl y digwyddiad. Bydd capasiti ychwanegol ar gael lle y bo’n bosibl, ond bydd y capasiti hwn yn gyfyngedig iawn a bydd y gwasanaethau’n brysur.  Bydd system giwio ar waith ar ôl y digwyddiad. Dylai cwsmeriaid hefyd gymryd sylw o’r cynllun ciwio ar gyfer y digwyddiad hwn oherwydd mae rhai o’r pwyntiau ciwio wedi symud o’u lleoliad arferol.

Parcio a Theithio – Lecwydd

Mae cyfleuster Parcio a Theithio’r Digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd).

I drefnu Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i https://www.parkjockey.com/homes/event/7216

Cyrraedd yno – Gadewch wrth Gyffordd 33 yr M4
Cost – £10 i’w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Oriau agor – Maes parcio’n agor am 8.30am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Mae’r cyfleuster Parcio a Theithio yn cau am 7.00pm gyda’r bws olaf yn gadael canol y ddinas am 6.30pm.

Bysus  

Bydd bysus yn gadael o safleoedd bws canol y ddinas. Bydd bysus sydd fel arfer yn gadael o’r ardal sydd ar gau yn gadael o Ffordd Churchill ar gyfer y Dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer y Gogledd neu Tudor Street ar gyfer y Gorllewin. Gofynnwch i’r gweithredwr bws am newidiadau i’w wasanaethau:

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i – www.bwscaerdydd.co.uk
Ar gyfer gwasanaethau New Adventure Travel, ewch i – https://www.stagecoachbus.com/regional-service-updates/south-wales/cardiff
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i – www.stagecoachbus.com
 
Parcio ar gyfer y Gêm yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus a Bysus Mini)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, teithiwch tua’r De ar yr A470 tua Chanol y Ddinas
a dilynwch yr arwyddion i’r Ganolfan Ddinesig
Cost: £20 i’w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Parcio i Siopa

Dylai siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio dynodedig ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:

Meysydd Parcio Heol y Gogledd
Canolfan Siopa Dewi Sant
John Lewis
Canolfan Siopa Capitol
NCP – Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion

National Express – Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia yn ôl yr arfer.

Tacsis Bydd Safle Tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 3.00pm ac yn ailagor am 09.30pm.

Ni effeithir ar Safle Tacsis Lôn y Felin; bydd ar agor drwy’r dydd a’r nos.

Gair i’r Golygydd: Gweler y dogfennau atodedig sy’n dangos y system giwio newydd ar gyfer Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Rhino Rugby
Sportseen
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia
Amber Energy
Opro
Cyngor Teithio Cymru v Awstralia