Neidio i'r prif gynnwys
Leigh Halfpenny

Leigh Halfpenny salutes Welsh fans in his last game

Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr

Roedd trindod arbennig yn ffarwelio heddi ar Stadiwm y Mileniwm.

Rhannu:

Yn gwbwl nodweddiadol cafwyd perfformiad hollol sicir gan Leigh Halfpenny gyda’i drosi cyn iddo fe adael i gymeradwyaeth wresog y dorf o 50,000 a mwy ar ol 65 muned yn gwisgo crys coch Cymru am y tro ola. Crys du a gwyn enwog y Barbariaid oedd gan Alun Wyn Jones a Justin Tipuric wrth iddyn nhw hefyd ddod â’u gyrfaoedd rhyngwladol i ben.

Doedd hi ddim syndod i neb i weld Halfpenny’n gadael heb fethu’r un gic yn ystod y prynhawn, ag ynte’n gwerthfawrogi pob diferyn o emosiwnoedd yn llifo o gyfeiriad ei gefnogwyrffyddlon wrth iddo fe adael y maes enwog am y tro ola.

DFP – Leaderboard

Croesodd Cymru am 3 chais yn yr hanner 1af , agnychwanehu 4 arall wedi troi i goroni diwrnod cofiadwy i’r cefnwr, ond falle taw’r eiliad ddaeth â’r floedd fwya drwy’r prynhawn oedd honno pan ymestynodd Alun Wyn Jones ei fraich hir i dirio ar y llinell gais ar ol 50 muned- eiliad a gyfranodd mae’n siwr at gael ei enwi’n Seren y Gem, a hynny’n gwbwl addas a theilwng nid yn unig am ei berfformiad heddi, ond am ei gyfraniad aruthrol dros gyfnod mor hir i rygbi Cymru.

Dechreuodd Cymru’n gryf ac amyneddgar , ac fe gawsant eu haeddiant pan groesodd Dewi Lake yn bwerus ar ol 3 muned yn unig, gyda throsiad Halfpenny roedden nhw 7-0 ar y blân. Yn annisgwyl derbyniodd Adam Beard garden felen ar ol 11 muned , ac fe fanteisiodd y Barbariaid ar hynny yn gyflym wedyn wrth i’r mewnwr Simione Kuruvili o Ffiji ffug basio a gwibio drosodd o 10 metr.

Bu’n rhaid i Corey Domachowski a Halfpenny dderbyn triniaeth er mwyn aros ar y cae ar ol chwarter agoriadol digon corfforol.

Ond yna , ar ol gwaith creadigol gan y tim cafwyd eiliad o athrylith gan George North – pas nol drwy ei goese , ac roedd yr asgellwr Tom Rogers yn glir . Trosiad llwyddiannus arall, a mantes o 14-5.

Roedd disgyblaeth Cymru’n gwegian ar brydie, ond fe ddaethon nhw nol i ddathlu eu 3ydd caisar ol i’r ha neri Tomos Williams a Sam Costelowcgyfuno’n hyfryd – cic fach bwt dros yr amddiffyn gan Williams a Costelow’n amseru ei rediad yn berffaith i gasglu a phlymio drosodd. Gyda’r trosiad roedd hi’n 21-5 ar yr egwyl.

Wedi troi , disgleiriodd yr eilydd brop o Awstralia Angus Bell â rhediad cryf a chflym o ryw 40 llath cyn rhoi cic fach bwt trwodd i alluogi Tipuric i roi pwyse ar Tomos Williams a fethodd reoli’r bel , ac roedd Kuruvali yno i fanteisio ar y bel rydd a thirio am ei ail gais. Y tro hwn llwyddodd y maswr Sanchez â’r trosiad , y fantes felly lawr at 21-12 Roedd y Barbariaid nol ynddi , ac roedd gwell eto i ddod iddyn nhw pan ymestynodd Alun Wyn ei fraich hir i gyrraedd y llinell gais yn orfoleddus , dim ond dau bwynt oedd ynddi.

Ond nol ddaeth Cymru, ac fe frasgamodd yr eilydd Taine Basham drwy’r bwlch yn yr amddiffyn , pedwerydd trosgais i Gymru – y sgor bellach yn 28-19.

Derbyniodd Asofa Aumua garden felen am dacl hwyr ar Aaron Wainwraight, ac wrth iddo fe fynd am 10 muned ar y fainc, fe rwbiodd Wainwright halen yn y briw gyda rhediad nerthol at y llinell gais.

Eto , gwrthododd y Barbariaid roi’r ffidil yn y to wrth i Tom Hooper gymryd mantes o gic fach wallgo gan Tomos Williams wrth ail ddechre’r chware o’i linell gais ei hunan . Roedd hi’n dal yn gyffrous o agos a’r canlyniad yn dal yn y fantol

Ond fe’i seliwyd hi yn y munude ola wrth i’r eilydd fewnwr Kieran Hardy fynd drosodd am ddau gais a droswyd gan eilydd arall Cai Evans, yn eironig yr ail o’r rheini yn y symudiad ola un oedd cais gore’r gem gyda Chymru’n efelychu arddull fentrus draddodiadol y Barbariaid gyda symudiad gwefreiddiol o’u hanner eu hunain . Hynny’n goron berffaith felly ar brynhawn cofiadwy , llawn emosiwn ac yn ffarwel teilwng i dri o arwyr mwya holl hanes rygbi Cymru.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr
Amber Energy
Opro
Cymru’n curo’r Barbariaid ac yn ffarwelio â gwir arwyr