Neidio i'r prif gynnwys
Wales undaunted by stiff challenge

Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr

Mae gobeithion tîm Merched Iwerddon o gipio dwy Gamp Lawn yn olynol yn dal yn fyw, ond bu’n rhaid iddynt weithio’n galed cyn goresgyn merched penderfynol Cymru gyda sgôr o 14-6 yn Ashbourne mewn amodau ofnadwy.

Rhannu:

Roedd y Gwyddelod ar ei hôl hi ar yr hanner ar ôl i ganolwr Cymru, Robyn Wilkins, lwyddo â dwy gôl gosb i roi ei thîm ar y blaen gyda sgôr o 6-3. Gyda’r holl elfennau yn ffafrio Iwerddon yn yr ail hanner, roedd yn annhebygol y byddai tri phwynt o flaenoriaeth yn ddigon i dîm Rachel Taylor, ac felly y bu.

Llwyddodd cefnwr Iwerddon, Niamh Briggs, a oedd yn dychwelyd ar ôl anaf, â gôl gosb ar ôl 39 munud i ddod â’r sgôr o fewn tri phwynt erbyn hanner amser, a gyda’r gwynt yn rhuo y tu cefn iddynt a’r glaw yn hyrddio i wynebau merched Cymru, roedd y tîm cartref yn ysu am gael dechrau’r ail hanner.

DFP – Leaderboard

Ar ôl 60 munud o chwarae ffrwydrodd Heather O’Brien o sgrym a hyrddio drosodd i sgorio’r cais tyngedfennol. Chwythodd y gwynt drosiad Briggs yn llydan o’r postyn, ond ymdopodd y Gwyddelod yn wych â’r amodau, gan gadw tîm Cymru yn ddwfn yn ei hanner ei hun.

Roedd amddiffyn dewr y Cymry wedi cadw’r Gwyddelod allan nes yr eiliadau olaf pan welodd y clo Shona Powell Hughes gerdyn melyn am dynnu sgarmes symudol i lawr. Sicrhaodd Briggs y fuddugoliaeth gyda’i thrydedd gôl gosb lwyddiannus o’r noson.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Rhino Rugby
Sportseen
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr
Amber Energy
Opro
Y Cymry yn rhoi prawf i’r pencampwyr