Neidio i'r prif gynnwys
Torcalon i Gymru

Torcalon i Gymru

Fe ddaeth Cymru o fewn trwch blewyn i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn De Affrica yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd.

Rhannu:

Ar noson gofiadwy yn y gwynt a’r glaw yn Stadiwm Wellington fe gyfrannodd pob un chwaraewr wrth i Gymru siglo’r pencampwyr i’w seiliau gyda pherfformiad corfforol ac egniol.

Fe ddechreuodd y Sprinboks ar garlam wrth i Frans Steyn groesi yn y gornel yn y munudau agoriadol. Ond fe frwydrodd Cymru yn ôl yn ddygn, a pham dirion yr wythwr Toby Faletau yr ail hanner roedd Cymru yn llygadu eu hail fuddugoliaeth yn unig yn erbyn y crysau gwyrdd ac aur.

DFP – Leaderboard

Ond fe darodd y Sprinboks yn ol gyda chais gan yr eilydd Francois Hougaard i gipio’r fuddugoliaeth o ddwylo Cymru.

Er y golled, roedd nifer o bwyntiau positif i gysuro’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi wrth iddyn  nhw geisio ymdopi gyda’r siom o weld cyfle arall i guro un o dimau hemisffer y de yn llithro o’i gafael.

Roedd Jamie Roberts yn ôl ar ei orau yng nghanol cae, ac fe lwyddodd Rhys Priestland i reoli’r chwarae yn safle’r maswr. Ymhlith y blaenwyr roedd cyfraniad Alun Wyn Jones a Luke Charteris yn allweddol ac unwaith eto gwelwyd rheng ôl Cymru yn ennill y frwydr yn ardal y dacl.

Doedd pethau ddim yn argoeli’n yn y munudau agoriadol wrth i Steyn ysgubo ymdrechion Shane Williams a James Hook o’r neilltu i groesi am gais cyntaf y gêm.

Fe wnaeth Morne Steyn yn wych  yn yr amgylchiadau anodd i drosi o’r ystlys i roi ei dim 7-0 ar y blaen wedi pedwar munud yn unig.

Ond yn raddol fe ddangosodd Cymru bod y gallu ganddyn nhw i greu problemau i’w gwrthwynebwyr, ac fe dderbyniodd Hook gyfle am driphwynt.

Yna cafwyd un o’r eiliadau mwyaf dadleuol y gystadleuaeth hyd yma pan benderfynodd y dyfarnwr a’i lumanwyr bod  ymdrech nesaf Hook at y pyst wedi methu, er bod lluniau teledu yn awgrymu bod cic y cefnwr yn un cywir.

Fe lwyddodd Steyne gydag ymdrech ar arall o bell ar ôl i Lydiate gael ei ddal yn camsefyll, ond pan gosbwyd Schalk Burger yn ardal y dacl gan ganiatáu Hook o docio’r fantais i 10-6.

Roedd hyder  y Cymry i’w weld yn tyfu wrth i’r egwyl agosáu ac roedd gwell i ddod wedi’r egwyl wrth i blaenwyr Cymru synhwyro bod pac pwerus a phrofiadol y Sprinboks yn gwegian.

Wedi cyfnod o bwyso gan Gymru ar llinell gais y gwrthwynebwyr fe ddaeth Cymru o fewn pwynt i Dde Africa pan ildiodd Butch James cic gosb o flaen y pyst.

Dyma oedd cyfnod gorau Cymru a gyda De Affrica  ar chwâl fe amserodd Priestland  ei bas yn berffaith i alluogi Faletau i groesi a rhoi Cymru ar blaen am y tro cyntaf.

Hawliodd Hook y pwyntiau ychwanegol ac roedd addewid bod mwy eto i ddod.

Ond yna fe ddangosodd De Affrica pan mai nhw i’w deiliaid Cwpan y Byd wrth iddyn nhw ail-ffurfio a chodi’r tempo unwaith eto.

Ar ôl gwrthod y cyfle i fynd am triphwynt fe sefydlodd y blaenwyr gadarnle yn nwfn yn 22 Cymru. Ac er i Gymru wrthsefyll yr ymosodiadau cyntaf, mi gafodd Francois Hougarard rwydd hynt i groesi o dan y pyst.

Fe aeth trosiad Steyn a’i dîm ar y blaen o un pwynt yn unig gyda deg munud yn weddill.

Yn ôl y daeth Cymru gan roi De Affrica o dan fwy o bwysau. Ond fe wyrodd gôl -adlam Priestland yr ochr anghywir o’r pyst ac fe fethodd Hook gyfle anodd am driphwynt gan ychwanegu at y siom ar y chwiban olaf.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Torcalon i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Torcalon i Gymru
Torcalon i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Torcalon i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Torcalon i Gymru
Torcalon i Gymru
Torcalon i Gymru
Torcalon i Gymru
Torcalon i Gymru
Torcalon i Gymru
Amber Energy
Opro
Torcalon i Gymru