Cymry Cymraeg: Rhys Roberts

Cymry Cymraeg: Rhys Roberts

“Mae gennym ni record gref o chwaraewyr rygbi da, ond hefyd o bobl dda sy’n gallu cyrraedd safonau academaidd uchel,” meddai Rhys Roberts. “Mae hynny wedi bod yn gymhelliant mawr inni yn ystod y pum mlynedd diwethaf.”

Rhannu:

Ei brif rôl ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel swyddog hwb rygbi yw i sicrhau bod myfyrwyr yn graddio gyda chymwysterau hyfforddi lefel 1 neu lefel 2. “Ond nid yn unig hynny, rydyn ni’n sicrhau eu bod yn defnyddio’r cymwysterau yn y gymuned leol,” meddai Rhys – rhywbeth sydd yn amlwg y mae’n credu’n angerddol ynddo. “Mae gennym ni gysylltiadau agos iawn gydag ysgolion fel Ysgol Uwchradd Caerdydd, St Teilo’s ac ysgolion eraill o gwmpas ardal Cyncoed.”

Trwy gynllun o’r enw Campws Agored, mae’r brifysgol yn gwahodd ysgolion cynradd ac uwchradd i ddefnyddio’r cyfleusterau chwaraeon yng Nghyncoed am ddim.

“Un o fy nghyfrifoldebau hefyd yw sicrhau bod niferoedd cyfranogiad ar gyfer rygbi yn uchel,” meddai’r gŵr 30 oed o Faesteg. “Rydyn ni’n rhedeg 11 tîm – chwech ar ddydd Mercher, pump ar ddydd Sadwrn, yn dibynnu ar argaeledd gemau.”

Cymry Cymraeg: Rhys Roberts

(Fel rhan o'i rôl gyda'r brifysgol, mae Rhys yn sicrhau bod niferoedd cyfranogiad ar gyfer rygbi yn uchel.)

Yn ffodus i Rhys, mae ganddo lygad craff am logisteg. Yn sicr mae ei angen arno. “Y rhan anoddaf yw pan fydd angen ffurflenni clirio cofrestru ar fyfyrwyr – yn bennaf o Loegr neu Iwerddon, sy’n cael eu hystyried yn ‘fyfyrwyr rhyngwladol’- i’w galluogi i chwarae yng nghynghreiriau Cymru.

“Felly gallai gael 120 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn dod drwodd i’r brifysgol i chwarae rygbi, ac fel arfer bydd angen caniatâd cyrff rygbi rhyngwladol ar oddeutu 60% ohonynt. Mae’n broses hir!”

Ond dyw’r busnes o rygbi cystadleuol byth yn bell i ffwrdd, gan mai Rhys yw hyfforddwr cefnwyr y XV cyntaf, sy’n un o’r timoedd gorau yng nghystadleuaeth rhyng-golegol BUCS Super Rugby. Yn ddiweddar, mae chwaraewyr fel Aaron Wainwright, Alex Dombrandt a Guy Thompson wedi cynrychioli’r brifysgol, tra bod cyfran sylweddol o chwaraewyr rygbi menywod Cymru a Lloegr yn hannu o deulu’r ‘Archers’.

Ond unwaith eto, mae Rhys yn pwysleisio’r angen i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng rygbi ac addysg. “Dyna nod arwyddocaol i ni. P’un a ydyn nhw’n chwarae’r gêm yn gymdeithasol neu yn rhan o’n rhaglen tri thîm gorau – ochr berfformiad y clwb rygbi, fel petai – rydyn ni’n dal i bwysleisio’r agwedd addysgol.

“Ar ddechrau’r wythnos mae rheolwr y tîm, Amber, yn rhedeg ‘Academic Archers’. Dyw e ddim yn orfodol ond mae hi’n cynnal sesiynau dwy neu dair awr mewn ystafell ar gyfer myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd i gymryd y cam o ysgol i’r brifysgol. Mae hi’n eu dysgu nhw sut i ddyfynnu, cyfeirio – unrhyw dechnegau sy’n berthnasol i ysgrifennu traethodau.”

Cymry Cymraeg: Rhys Roberts

(Rhys yn siarad gyda'r tîm cyn Rownd Derfynol Cwpan Ieuenctid Cymru yn Stadiwm Principality, 2019.)

Fel cyn-‘Archer’ ei hun – a chapten y XV cyntaf yn ei bedwaredd flwyddyn – mae Rhys yn gweld amgylchedd y campws yn un adfywiol. “Nid yn unig mae gyda ni’r ochr berfformio lle rydyn ni’n chwarae BUCS Super Rugby, ond mae gennym ni 11 tîm sy’n amrywio o chwaraewyr da iawn i chwaraewyr sy’n deall nad ydyn nhw’n wych ond sy’n caru ochr gymdeithasol y gêm. Mae hi’n braf eu gwylio nhw’n cael hwyl wrth fod yn gystadleuol ar yr un pryd.”

Mae gwerthfawrogiad Rhys o chwaraeon a’r byd academaidd yn mynd yn ôl i’w ddyddiau yn Ysgol Llanhari (arwyddair: ‘Gorau gwaith gwasanaeth’) yn Rhondda Cynon Taf. Yr un mor bwysig iddo nawr, mae’n sylweddoli, yw’r Gymraeg.

“Roeddwn i’n arfer bod yn dipyn bach o ‘teacher’s pet’ gyda fy athrawon Add Gorff, Iolo Roberts a Mark Lloyd, ac roeddent bob amser yn tanlinellu’r pwysigrwydd o gadw’r iaith i fynd,” mae’n cofio. “Fe barhaodd hynny pan es i i Goleg Pen-y-bont gyda Gareth Nicholas a Craig Warlow.”

Trwy’r Gymraeg cafodd Rhys ei rôl gyntaf fel swyddog hwb rygbi, yn Ysgol Ystalyfera yn Nyffryn Abertawe. “Dydych chi ddim wir yn sylweddoli pa mor bwysig y gall yr iaith fod nes i chi fynd am swydd lle ar gyfer rôl iaith Saesneg mae yna 30 neu 40 o ymgeiswyr, ac ar gyfer yr un Gymraeg mae pump ar y mwyaf. Gall fod yn fantais enfawr wrth fynd am eich swydd gyntaf.

“I bobl fy oedran i, doedd hi falle ddim yn cŵl i siarad Cymraeg ar iard yr ysgol, o amgylch y bois. Ond wrth fynd yn hŷn rydyn ni’n cymryd mwy o falchder ynddo. Mae’n hyfryd gweld cymaint o falchder y mae pobl ifanc Cymru bellach yn ei ddangos yn yr iaith.”

Cymry Cymraeg: Rhys Roberts

(Rhys yn dathlu gyda'r chwaraewyr ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Treforys.)