Gwenllian Pyrs

Gwenllian Pyrs on the charge

Gwenllian Pyrs: Rhif 1 yn y siartiau prop

Mae Gwenllian Pyrs yn gosod ei gallu i bropio i lawr i flynyddoedd o gynorthwyo ar ei fferm yng Nghogledd Cymru, cefnogaeth ei thad, Eryl, a chwarae rygbi yn y caeau gyda’i naw brawd a chwaer.

Rhannu:

Mae wedi cymryd amser ond dywed Gwenllian Pyrs, sydd yn barod i ennill ei 14eg cap rhyngwladol yn erbyn Ffrainc ddydd Sul fod y teimlad o wisgo crys coch Cymru a chael rhediad o gemau yng nghyrys Rhif 1 yn werth yr holl aros.

Wedi iddi dderbyn ei chap cyntaf fel eilydd yn erbyn yr Eidal yn Chwe Gwlad y Merched 2017, bu raid i Pyrs, sydd, yn ogystal, yn swyddog hwb rygbi llawn amser yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog ac yn hyfforddi cŵn defaid ar ei fferm deulol ger Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy, aros tan y gȇm ryngwladol yr hydref ddiweddar yn erbyn yr Iwerddon yn Nulyn i ddechrau’i gȇm gyntaf tros Gymru. Roedd ei chalon yn ysu am gael dechrau o’r cychwyn cyntaf yn ystod y Chwe Gwlad flwyddyn yn ôl ond rhoddodd damwain cerbyd ddrwg ddiwedd ar y gobeithion hynny a’i datblygiad yn ystod y twrnament hwnnw.

Mae wisgo'r crys goch y tymor yma yn werth yr aros, meddai Gwenllian Pyrs, swyddog rygbi Ysgol y Moelwyn

Fodd bynnag, wedi’r enilliad funud olaf honno’n erbyn yr Iwerddon ym mis Tachwedd,mae ei ffitrwydd a’i gallu arbennig wedi’i chynorthwyo i gadw’r crys y mae cryn gystadlu amdano, ac nid oes ganddi unrhyw gynlluniau i’w ryddhau’n fuan chwaith os y bydd hynny i fyny iddi hi.

“Mae’n sicr werth yr aros,” dywedodd. Teithia Gwenllian y siwrnai i lawr i Ganolfan Ardderchogrwydd Genedlaethol o leiaf ddwywaith yr wythnos ar gyfer ymarfer yn ogystal ȃ mynychu gwersylloedd penwythnos a chwarae gemau ond dywed fod y cyfan yn mynd yn ddibwys yn awr ei bod wedi ennill y ‘cychwyniad’ yna.

“Mae’r cyfan yn werth chweil. Nid ydych yn poeni am y teithio hirfaith pan ydych yn gwybod eich bod yn mynd i wisgo’r crys fwrw’r Sul. Dyna’r hyn yr ydych wedi gweithio’n galed amdano ac yr ydych yn mwynhau ymarfer a chwarae ac felly, mae teimlaf yn ysgafndroed braf wedi i’r hydref olygu imi gael cyfle i ddechrau rhediad o gemau.

“Effeithiodd y ddamwain cerbyd ar Bethan Davies, oedd yn cyd-deithio gyda mi, ag arnaf innau’n arw iawn. Digwyddodd ar ddiwedd Ionawr a hyd yn oed pan allwn ddechrau ymarfer eto, roedd yn anodd iawn i weithio fy ffordd i’r tîm.

Gwenllian Pyrs: Rhif 1 yn y siartiau prop

Prop Menywod Cymru Gwenllian Pyrs gyda'i thad Eryl ar y fferm ger Ysbyty Ifan, Dyffryn Conwy

“Mae’r tymor hwn wedi bod yn wahanol drwy gael adeiladwaith dda drwy Hydref cyn chwarae pum gȇm ym mis Tachwedd. Yn sicr, teimlaf yn ran o’r tîm erbyn hyn a gobeithiaf fod hynny’n dangos yn fy mherfformiadau.”

Dyna’n sicr yw barn hyfforddwr Merched Cymru a chyn brop rhyngwladol Cymru, Chris Horsman.

“Mae gan Gwenllian yr holl gymwysterau sydd ei angen ar athletwraig ryngwladol. Mae ganddi agwedd broffesiynol yn ogystal ac mae’i pherfformiadau y tymor hwn wedi bod yn arbennig ond hefyd wedi dangos fod ganddi lawer iawn o botensial i ddatblygu ymhellach eto.”

Ni chwaraeodd Gwenllian rygbi’n ffurfiol tan y gwnaeth y clwb teuluol a chymunedol, Nant Conwy, dreialu, a threfnu carfan Dan 18 oed merched chwe mlynedd yn ôl. Bu iddi chwarae gyda’i brodyr a’i chwiorydd ar y fferm fodd bynnag gan, bob amser, gynorthwyo’i thad ar y fferm – magwraeth a gynorthwyodd, yn sicr, ei nerth a’i ffitrwydd cyffredinol.

“Roedd fy nhad wastad wrth law i’m gyrru i ymarfer a gemau Dan 18 y Sgarlets pob bore Sadwrn cyn inni gael y trefniant RGC. Hebddo ef a Nant Conwy, yn sicr ni fuaswn lle yr wyf yn awr.”

Gwenllian Pyrs

Gwenllian Pyrs gyda rhai o'i theulu yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy

Ni allai ei thad Eryl, oedd yn un o’r aelodau a sefydlodd Clwb Rygbi Nant Conwy yn 1980, fod yn fwy balch.

“Rwyf yn falch iawn ohonni. Mae wedi cymryd camau breision o Nant i chwarae tros Gymru sydd yn gyrhaeddiad teilwng iawn. Gobeithio fod rhan o’i magwraeth wedi cynorthwyo ar y ffordd o gwblhau tasfau gartref a chwarae rygbi gyda’i chwiorydd a’i brodyr.”

Mae gan Nant Conwy le amlwg ym mywyd yr holl ardal, gan ddod a phobl cefn gwlad, amaethyddiaeth a threfol at ei gilydd.

“Roedd llawer ohonom o’r ardal yn chwarae i glybiau eraill cyn penderfynu dechrau clwb rygbi ein hunain yn 1980,” eglurodd. “Mae wedi dod ag elfennau cymdeithasol gwahanol y dyffryn at ei gilydd yn wead tynn ac mae’r clwb mor bwysig i’r holl gymuned. Mae’n bwysig iawn i’r iath Gymraeg yn ogystal gyda’r mwyafrif o’r hyfforddi’n cael ei wneud drwy gyfrwng y Gymraeg serch bod croeso cynnes i bawb.”

Yn ogystal, mae rygbi wedi rhoi cyfleon gwaith i Gwenllian, yn gyntaf, fel prentis Urdd/ URC ac yn awr, fel swyddog hwb i Ysgol y Moelwyn.

“Rwyf yn cyflwyno’r genhedlaeth nesaf i rygbi ac mae’n hyfryd fod disgyblion yn dod ataf ar fore Llun i siarad am ein gemau. Dengys hyn cymaint y mae pethau wedi datblygu.”

Prif ddiddordeb Gwenllian oddiar y maes rygbi yw hyfforddi cŵn defaid.

“Rhywbeth cymharol newydd imi yw rygbi ond rwyf wedi bod yn hyfforddi cŵn ar y fferm gyda fy nhad o tua naw oed ymlaen. Dyna lle rwyf yn fwyaf cyfforddus ac os y teimlaf dan bwysau, af allan at, ag i weithio gyda’r cŵn i ymlacio.

Gwenllian Pyrs