Neidio i'r prif gynnwys
Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality 

Dewch i'r Stadiwm neu mae modd gwylio'r holl gemau wedi eu ffrydio.

Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality 

Mae hi wedi bod yn daith hir o gystadlu i’r clybiau – ond y penwythnos hwn bydd 14 tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn ceisio cipio coron Y Ffordd i’r Principality 2024 yn eu gwahanol gatergorïau.  

Rhannu:

Ddydd Sadwrn, bydd Rowndiau Terfynol Cynghreiriau Adrannau 2-5, ac yna ddydd Sul bydd Rowndiau Terfynol yr Adran Gyntaf, Y Bencampwriaeth a’r Uwch-gynghrair.  

Bydd y penwythnos o gyffro yn dechrau gyda Dinas Powys yn herio Blaendulais. Dim ond un gêm arall sydd rhaid i Ddinas Powys ei hennill yn y cynghrair i gipio teitl Adran 5 yn y Dwyrain, tra bo Blaendulais hefyd yn cael tymor da ar frig y 5ed Adran yn y Gorllewin. Ar hyn o bryd mae ganddynt 12 pwynt o fantais dros y Rhigos sy’n yr ail safle. 

DFP – Leaderboard

Enillodd Tonna Darian Undeb Rygbi Cymru yn 2022 ac maen nhw’n nôl yn Stadiwm Principality ddwy flynedd yn ddiweddarach i wynebu Saraseniaid Casnewydd, sy’n drydydd ym Mhedwaraedd Adran Cynghrair y Dwyrain.  

Cwins Caerdydd yn erbyn y Blaenau (Gwent) fydd y gêm nesaf yr arlwy. Bydd y Cwins yn gobeithio  efelychu camp eu tîm hwb merched o dan 16 a’u tîm ieuenctid – gan bo’r ddau ohonyn nhw eisoes wedi ennill eu rowndiau terfynol nhw yn y Stadiwm eleni.   

Y gêm olaf o’r diwrnod fydd Rownd Derfynol Adran 2 rhwng Porthcawl a Llanharan. Cafodd Porthcawl fuddugoliaeth swmpus o 74-17 yn y cynghrair yn erbyn Pencoed y penwythnos diwethaf tra i Lanharan drechu’r Bont-faen o 21-16. 

Os na allwch ddod i Stadiwm Principality – bydd modd gwylio’r holl rowndiau terfynol ar lwyfan You Tube Undeb Rygbi Cymru. https://www.youtube.com/live/wYgJJvXMXww?feature=shared 

Dydd Sul, 7 Ebrill 

Rownd Derfynol yr Uwch-gynghrair – 5:35pm 

Llanymddyfri v Merthyr 

Rownd Derfynol y Bencampwriaeth – 3:15pm 

Y Bargôd v Ystrad Rhondda 

Rownd Derfynol Adran 1 – 1pm 

Llanelli v Glyn-nedd 

Dydd Sadwrn, 6 Ebrill 

Rownd Derfynol Adran 2 – 5:45pm 

Porthcawl v Llanharan 

Rownd Derfynol Adran 3 – 3:30pm 

Y Blaenau v Cwins Caerdydd 

Rownd Derfynol Adran 4 – 1:15pm 

Tonna v Saraseniaid Casnewydd 

Rownd Derfynol Adran 5 – 11am 

Dinas Powys v Blaendulais 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality 
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality 
Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality 
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality 
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Penwythnos gemau terfynol Y Ffordd i’r Principality