Neidio i'r prif gynnwys
Celtic Challenge

Catrina Nicholas and Ashley Beck (inset) will be the coaches in this season's Celtic Challenge

Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi prif hyfforddwyr Brython Thunder a Gwalia Lightning

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi’r ddau Brif Hyfforddwr i arwain y timau newydd – Brython Thunder a Gwalia Lightning – fydd yn cystadlu yn yr Her Geltaidd yn y flwyddyn newydd.

Rhannu:

Cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Catrina Nicholas-McLaughlin ac Ashley Beck fydd yn arwain y timau hyfforddi a rheoli ar gyfer Gwalia Lightning a Brython Thunder.

Bydd y ddau dîm newydd yn chwarae gemau cartref ac oddi-cartref yn erbyn gwrthwynebwyr o Iwerddon a’r Alban.

DFP – Leaderboard

Chwaraeoedd Nicholas-McLaughlin 60 gwaith dros dîm Menywod Cymru ac mae’n Hyfforddwr Lefel 4 gydag Undeb Rygbi Cymru. Hi oedd Prif Hyfforddwr tîm dan 18 Merched Cymru ac mae hi hefyd wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi’r Garfan o dan 20. Dros y misoedd diwethaf bu hi’n rhan allweddol o dîm hyfforddi Ioan Cunningham wrth i Gymru chwarae’n y WXV1 yn Seland Newydd. Catrina Nicholas-McLaughlin fydd yn arwain Gwalia Lightning.

Bu Ashley Beck, a enillodd saith cap i Gymru, yn Hyfforddwr Ymosod Menywod Caerwrangon cyn i’r clwb ddod i ben ym mis Tachwedd. Mae’n dychwelyd i Gymru i arwain Brython Thunder.

Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning:

“Mae hwn yn her a chyfle cyffrous i arwain tîm newydd sbon, ac mae’r 12 mlynedd ddiwethaf fel hyfforddwr wedi fy mharatoi yn dda ar gyfer yr her newydd yma. Mae’n gyfle gwych i adeiladu rhywbeth fydd yn symud camp y meywod ymlaen ymhellach yma yng Nghymru.

“Ar ôl gweithio gyda thimau o dan 18 a dan 20 Cymru, rwy’n gwybod am y dalent sy’n dod drwodd, ac ‘rwy’n edrych ymlaen at osod sylfeini a gwerthoedd cadarn fydd yn ein symud i’r cyfeiriad cywir.

“Ry’n ni’n gwybod bod gennym ni’r chwaraewyr yma yng Nghymru, a does ond angen cyfle arnyn nhw i wireddu eu potensial ac i ddangos yr hyn y gallan nhw ei wneud ar y lefel hon. Ein rôl ni fel hyfforddwyr yw dod â’r gorau allan ohonyn nhw a rhoi llwyfan iddyn nhw i’w galluogi i hawlio’u lle’n y gêm broffesiynol neu gyda Chymru.

“Mae pontio’r bwlch rhwng rygbi domestig a rygbi rhyngwladol yn allweddol os yw Cymru am adeiladu ar lwyddiant diweddar y Chwe Gwlad. Gall profi ein hunain yn erbyn timau o Iwerddon a’r Alban adeiladu’r cryfder a’r dyfnder sydd eu hangen arnom. ”

Dywedodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder:

“Roedd y cyfle i ddychwelyd a hyfforddi yng Nghymru yn rhywbeth na allwn ei wrthod. Mae rygbi merched a menywod yn datblygu yn gyflym ac mae’r cyfle i arwain tîm newydd sbon a gosod y sylfeini ar gyfer y dyfodol yn her gyffrous.

“Fel hyfforddwyr, ein swydd yw adnabod talent – yna ei hogi – ac wedi hynny adeiladu tîm a hunaniaeth i greu perfformiadau o safon – ar gyfer y chwaraewyr a’r cefnogwyr. Dyna yw’n prif nod yn ystod ein tymor cyntaf yn yr Her Geltaidd.”

Mae’r Her Geltaidd yn cynnwys cyfanswm o chwe thîm:  Caeredin a Glasgow o’r Alban, y Wolfhounds a’r Clovers o Iwerddon a’r ddau dîm newydd o Gymru – Brython Thunder, a Gwalia Lightning.

Bydd y gystadleuaeth yn mabwysiadu fformat newydd a fydd yn cynnwys pum rownd, cyn i dair rownd ail-gyfle benderfynu pwy fydd pencampwyr yr Her Geltaidd y tymor hwn ym mis Mawrth.

Bydd Rownd 1 yn gweld y timau o’r un gwledydd yn herio ei gilydd.

Bydd y gemau ail gyfle yn cynnwys tair rownd, gyda’r ddwy gêm ym mhob un o’r rowndiau hynny yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ac yn yr un lleoliad gan Undeb benodol . Bydd y gemau hynny yn cael eu trefnu wedi i’r pum gêm gynghrair gyntaf gael eu chwarae gan yr holl dimau. Bydd hynny’n sicrhau gemau cystadleuol ddiwedd y tymor fydd yn arwain at goroni’r Pencampwyr.

Tîm Hyfforddi a Rheoli Gwalia Lightning:

Mark Davies (Hyfforddwr Olwyr), Caryl Thomas (Hyfforddwr Blaenwyr), Amy Rothero (Rheolwr y Tîm), Elin Drake (Ffisiotherapydd), Ciaran Miller (Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru), Ellis Brown (Dadansoddwr).

Tîm Hyfforddi a Rheoli Brython Thunder:

Rhodri Jones (Hyfforddwr Olwyr), Liza Burgess (Hyfforddwr Blaenwyr), Daryl Morgan (Rheolwr y Tîm), Ollie Kitchen (Ffisiotherapydd), Chris Thomas (Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru), Dan Lewis, (Dadansoddwr).

Meddyg yr Her Geltaidd, Dr Lowri Edwards.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi prif hyfforddwyr Brython Thunder a Gwalia Lightning
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi prif hyfforddwyr Brython Thunder a Gwalia Lightning
Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi prif hyfforddwyr Brython Thunder a Gwalia Lightning
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi prif hyfforddwyr Brython Thunder a Gwalia Lightning
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi prif hyfforddwyr Brython Thunder a Gwalia Lightning