Neidio i'r prif gynnwys
Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV

Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV

Bydd tîm Menywod Cymru yn chwarae gêm brawf yn erbyn yr Unol Daleithiau cyn iddynt fynd i chwarae yn haen uchaf cystadleuaeth newydd y WXV yn Seland Newydd.

Rhannu:

Bydd tîm Ioan Cunningham yn wynebu’r UDA ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ym mis Medi.

Mae Cymru’n chweched ymhlith detholion y byd ac wedi hawlio’u lle ar gyfer y WXV1 newydd trwy orffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gyda buddugoliaethau dros Iwerddon, yr Alban a’r Eidal.

DFP – Leaderboard

Gêm Cymru;

Dydd Sadwrn, Medi 30ain, Cymru v UDA, Parc Eirias, Bae Colwyn (CG 2:30pm)

Bydd Cymru’n chwarae Pencampwyr y Byd, Seland Newydd, Awstralia a Chanada yn WXV1 yn Seland Newydd. Bydd chwe thîm gorau’r byd – gan gynnwys enillwyr y Gamp Lawn Lloegr a Ffrainc – yn ymddangos yn y gystadleuaeth hefyd.

Collodd Eryrod yr Unol Daleithiau y cyfle i gystadlu yn haen uchaf y WXV gan iddynt orffen y tu ôl i Seland Newydd, Canada ac Awstralia yn eu cystadleuaeth rhanbarthol yn ardal y Môr Tawel. (Pacific Four)

Roedd pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm gartref ddiwethaf Cymru yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau yn ystod y Chwe Gwlad eleni a bydd herio UDA ym Mae Colwyn yn rhoi’r cyfle i gefnogwyr Cymru yng Ngogledd Cymru weld tîm Hannah Jones yn chwarae ar dir y gogledd.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Yn ddiweddar, cystadlodd yr Unol Daleithiau yn y PAC Four a bydd ganddyn nhw bwynt i’w brofi. Roedd y cyfle i’w chwarae nhw cyn mynd i’r WXV yn Seland Newydd yn un rhy dda i’w golli.

“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at fod yn ôl gyda’n gilydd fel carfan ac i adeiladu ar yr hyn y llwyddon ni i’w gyflawni yn y Chwe Gwlad. Roedd cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru yn rhan allweddol o’n gwelliant ac rydym yn edrych ymlaen at brofi eu cefnogaeth unwaith eto.

“Mae mynd â’r gêm i Fae Colwyn yn gyffrous oherwydd rydyn ni’n gwybod bod llawer iawn o dalent yn dod i’r amlwg yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a staff yn gwybod bod angen i ni berfformio’n hyderus a safonol. Fe wnaethom osod rhai sylfeini cadarn yn ymgyrch ddiweddar y Chwe Gwlad, ond mae angen i ni barhau i wella a dod yn dîm gwell fyth.

“Mae cymaint o botensial yn y garfan yma ac rydym wedi dangos y gallwn sgorio ceisiau a chystadlu gyda Phencampwyr y Gamp Lawn Lloegr, a Ffrainc, ddaeth yn ail.”

Bydd capiau rhyngwladol llawn yn cael eu cyflwyno ar gyfer y gêm brawf yn erbyn UDA.

Bydd tocynnau ar gyfer yr ornest ym Mharc Eirias ar gael o venuecymru.co.uk/cymru-v-usa am hanner dydd, Awst y 18fed.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV
Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Menywod Cymru i wynebu UDA ym Mae Colwyn cyn y WXV