News

Dydd y farn o ran anafiadau dau yfory?

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mae breuddwyd Dewi Lake o arwain Cymru yng Nghwpan y Byd yn y fantol, wedi iddo anafu ei ben-glin yn y golled o 19-17 yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Dim ond am 27 munud y llwyddodd i aros ar y maes cyn i Owen Farrell ddisgyn arno mewn ryc.

Bydd anaf Lake, sy’n 24 oed, yn cael ei asesu yfory (Mawrth) a gallai canlyniadau’r sgan benderfynu os y bydd Lake yn cael ei gynnwys yn y garfan derfynol o 33 – fydd yn cael ei chyhoeddi wythnos i ddydd Llun.

Anaf i’w ysgwydd sy’n poeni Taine Plumtree a bydd ei dynged ef hefyd o bosib yn cael ei benderfynu yfory.

Mae’r newyddion am ysgwydd Taine Basham yn fwy calonogol ac mae hyfforddwr olwyr Cymru, Alex King wedi cadarnhau na ddioddefodd yr wythwr gyfergyd yn y digwyddiad welodd Owen Farrell yn derbyn cerdyn coch am ei dacl anghyfrifol.

Mae’n bosibl y bydd Basham, yn gallu cael ei ystyried i wynebu Pencampwyr y Byd, De Affrica yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn yng ngêm olaf Cyfres Haf Vodafone.

Mae hefyd yn bosib y bydd asgellwr Cymru a’r Llewod, Alex Cuthbert a’r canolwr cydnerth Johnny Williams o dan ystyriaeth i wynebu y Springboks – cyn i Gymru wynebu Fiji yng ngêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd ym Mordeaux ar y 10fed o Fedi. Dywedodd King:

“Mae Cuthy a Jonny yn ôl yn ymarfer sy’n amlwg yn cryfhau dyfnder y garfan. Mae wedi bod yn wych gweld mwyafrif llethol y chwaraewyr yn cael cyfle i chwarae yn ystod y gemau diweddar.

“Bydd De Affrica yn cynnig tipyn o her i ni gan eu bod newydd guro Ariannin ddwywaith ac wedi curo Awstralia yn ddiweddar. Fe enillon nhw yn Twickenham yr Hydref diwethaf hefyd.”

Related Topics

Blaenwyr
Cwpan Rygbi'r Byd
Newyddion
Player
News