Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham

Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham

Yn dilyn eu buddugoliaeth nodedig o 20-9 yn erbyn Lloegr wythnos ynghynt – colli o 19-17 fu hanes tîm Cymru yn Twickenham heddiw – er iddynt gael mantais o dri dyn am gyfnod o’r gêm.

Rhannu:

Gwnaeth Warren Gatland 15 o newidiadau i’r tîm ddechreuodd yr ornest yn Stadiwm Principality wythnos ynghynt – ac o dan arweiniad Dewi Lake am y tro cyntaf erioed – cafwyd perfformiad cystadleuol gan y Cymry – er na lwyddwyd i greu llawer o gyfleoedd na chipio’r fuddugoliaeth.

Ar achlysur hanner canfed cap Josh Adams a chap cyntaf canolwr y Scarlets, Joe Roberts – y tîm cartref  ddechreuodd ar y droed flaen – ac wedi i Dan Lydiate gamsefyll – hawliodd Owen Farrell ei driphwynt cyntaf o’r prynhawn wedi 9 munud o chwarae.

DFP – Leaderboard

Fel yr wythnos ddiwethaf, Lloegr reolodd y meddiant yn gynnar yn y gêm ac fel yr wythnos ddiwethaf hefyd, ’roedd y ddau dîm yn euog o ildio’r meddiant yn rhy aml unwaith yn rhagor.

Wedi 26 munud o chwarae bu’n rhaid i’r capten Dewi Lake adael y maes – ond gan iddo gerdded o’r cae – y gobaith yw nad yw’r anaf i’w benglin, yn mynd i amharu ar ei obeithion o deithio i Ffrainc ymhen llai na mis. Ei gyd-chwaraewr gyda’r Gweilch Sam Parry ddaeth ymlaen fel eilydd yn ei le.

Gyda 9 munud yn weddill o’r cyfnod cyntaf dangoswyd cerdyn melyn i Henry Arundell am atal ymosodiad addawol gan Liam Williams yn anghyfreithlon – ond methiant fu ymdrechion y Cymry i greu argraff ar y sgorfwrdd gyda’r dyn o fantais. Yn wir gyda chic ola’r cyfnod cyntaf – hawliodd Farrell ei ail gic gosb o’r ornest gan roi Lloegr 6 phwynt ar y blaen wrth droi.

Hanner Amser Lloegr 6 Cymru 0.

Yn wahanol i’r wythnos ddiwethaf pan ddechreuodd y Cymry’r ail gyfnod ar dân – dangoswyd cerdyn melyn i Tommy Reffell wedi llai na munud o’r ail-ddechrau – ac yn sydyn ‘roedd y crysau cochion i lawr i 14 dyn a 9 pwynt ar ei hôl hi gan i Farrell hawlio’i drydedd gôl gosb gyda’i drydydd ymdrech.

Gyda chymorth y postyn – fe sgoriodd Owen Williams driphwynt cyntaf Cymru o’r prynhawn 4 munud yn ddiweddarach.

Mewn gornest heb fawr o eiliadau cofiadwy – daeth yr eilydd o brop Kemsley Mathias i’r maes gyda hanner awr yn weddill i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach yn ystod y gêm profodd y canolwr Keiran Williams yn un fraint a gwefr.

‘Roedd y dyfanwr Nika Amashukeli o Georgia wedi rhybuddio’r blaenwyr am eu diffyg disgyblaeth yn y sgrym ac wedi 57 munud – dangoswyd cerdyn melyn i Ellis Genge.

O fewn munud, ‘roedd Cymru wedi sgorio cais cynta’r gêm – a gan i Freddie Steward daclo Josh Adams yn yr awyr wedi iddo hawlio’r bêl – dynodwyd cais cosb i’r ymwelwyr ac ‘roedd y crysau coch ar y blaen am y tro cyntaf – ac ‘roedd ganddynt fantais o ddau ddyn am gyfnod.

Wedi 63 munud cafwyd eiliad allweddol yn y gêm wrth i Owen Farrell weld cerdyn coch (yn y pendraw) am y tro cyntaf yn ei yrfa ryngwladol – am dacl anghyfrifol ar Taine Basham olygodd mai 12 chwaraewr oedd gan y Saeson ar y cae. Oherwydd difrifoldeb y dacl – mae’n bosib y bydd Farrell yn colli mwyafrif cystadleuaeth Cwpan y Byd.

O fewn llai na munud, ‘roedd Cymru wedi cymryd mantais ar y sefyllfa – ac yn dilyn gwaith creu gan Joe Roberts, fe groesodd Tomos Williams am ail gais ei dîm. ‘Roedd trosiad Biggar yn golygu bod dwy sgôr yn gwahanu’r timau.

Tro’r Cymry oedd hi i ddangos diffyg disgyblaeth gwta ddau funud yn ddiweddarach wrth i Maro Itoje  groesi am gais cyntaf Lloegr – tipyn o gamp i’r ddeuddeg dyn. Yn dilyn trosiad George Ford – pwynt yn unig oedd yn gwahanu’r timau.

‘Roedd leiniau Cymru’n drafferthus drwy’r prynhawn ac amlygwyd eu diffyg disgyblaeth hwythau hefyd gyda 5 munud ar ôl wrth i Adam Beard weld cerdyn melyn. Rhoddodd cic gosb Ford y Saeson ar y blaen wedi iddynt fod ar ei hôl hi o 8 pwynt gyda 12 dyn ddeng munud ynghynt.

Colled siomedig i Gymru mewn gêm y dylid fod wedi ei hennill.

Ar achlysur ei hanner canfed cap dywedodd Joash Adams:

“Ni’n falch o’r ymdrech. Pan oedd Lloegr i lawr i ddeuddeg, ‘roedd y gêm yna i ni.

“Roedd hon yn gêm y dylen ni fod wedi ei hennill.” medd Josh Adams.

Sgôr Terfynol Lloegr 19 Cymru 17.

Bydd Warren Gatland a’i garfan yn cwblhau eu paratodau ar gyfer Cwpan y Byd wrth groesawu Pencampwyr y Byd, De Affrica i Stadiwm Principality ar Awst 19eg.

Mae Cymru yng Ngrŵp C yng Nghwpan y Byd gyda Awstralia, Fiji, Georgia a Phortiwgal. Mae eu gemau fel a ganlyn:
Dydd Sul, 9 Medi: Cymru v Fiji, Stade de Bordeaux (cic gyntaf 8.00pm / 9.00pm amser lleol)
Dydd Sadwrn, 16 Medi: Cymru v Portiwgal, Stade de Nice (4.45pm / 5.45pm amser lleol)
Dydd Sul, 24 Medi: Cymru v Awstralia, Stadiwm OL, Lyon (8.00pm / 9.00pm amser lleol)
Dydd Sadwrn, 7 Hydref: Cymru v Georgia, Stade de la Beaujoire, Nantes (2.00pm / 3.00pm amser lleol).

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham
Amber Energy
Opro
Cymru’n colli mewn modd siomedig yn Twickenham