Dyddiadur Wythnos Billy McBryde

Dyddiadur Wythnos Billy McBryde

Wythnos mewn bywyd Billy McBryde, cyn-maswr Scarlets a Rygbi Gogledd Cymru, sy'n bellach wedi ymuno Doncaster Knights.

Rhannu:

Dydd Llun

Dechrau’r diwrnod yn trio perffeithio’r coffee art (ac yn methu). Yn dilyn brecwast, barod i fynd lawr i Barc y Mynydd Mawr yn y Tymbl lle dwi di fod yn gwneud canran mwya’ o fy ymarfer. Dechrau’r sesiwn yn ymarfer cicio; pwysig di aros ar ben y sgiliau cicio yn enwedig fel maswr. Ar ôl awr o gicio, gwneud sesiwn o redeg i gadw ar ben y ffitrwydd – sydd hefyd yn holl bwysig. Cinio a gwneud jobs o gwmpas y tŷ am weddill y prynhawn.

Dydd Mawrth

Mynd a Mali’r ci, sy’ bron yn 15, am dro bach. Lwcus iawn – yn enwedig yn y cyfnod yma – i fyw rhywle lle allen ni fynd allan i gerdded. Sesiwn codi pwyse’ yn y garej. Ffodus iawn i gal gym efo digon o adnoddau i gadw ar ben yr ymarfer corff, a hefyd chwilio am sesiynau ac ymarferion newydd sy’n rhwbeth dwi di fod yn mwynhau gwneud dros yr wythnose diwethaf. Prynhawn o ymlacio a chystadlu efo Zoom cwis teulu, sy’n ffordd dda o gadw mewn cysylltiad efo nhw.

Dydd Mercher

Yoga a prehab i ddechrau’r diwrnod. Gweithio ar hyblygrwydd y corff a chryfhau cyhyrau bach i leihau’r risg o anaf. Trip i lawr i rwydi criced Drefach efo’r brawd iddo fo gal gweithio ar ei fowlio, a minnau yn bwrw’r bêl mor galed ag sy’n bosib pob shot. Yn tyfu fyny yn yr ardal, roeddwn i’n chware rygbi i dîm ieuenctid y Tymbl yn ystod y tymor rygbi, ond hefyd yn treulio pob haf yn chware criced i Ddrefach (ac yn dal i wneud pob blwyddyn!). Wedi cal fy ysbrydoli gan The Last Dance ar Netflix, prynhawn o ddarllen llyfr Phil Jackson, Eleven Rings – un dwi’n argymell yn fawr iawn.

Dyddiadur Wythnos Billy McBryde

Dydd Iau

Sgwrsio efo Cats a Charlo ar ‘Byd Rygbi Cats a Charlo’ yn sôn am symud i Doncaster. Cyffrous iawn am y cyfle am brofiad newydd o chware rygbi dros y bont pryd bynnag bydd y tymor yn dechre, mi fydd hi’n brawf arbennig i fi fel chwaraewr ac fel person. Amser ymarfer yn y prynhawn efo sesiwn cicio a rhedeg, gweithio ar y sgiliau elfennol o pasio a chicio o dan blinder. Tro fi i goginio tê heno: pasta efo salmwn mewn saws gwyn wedi ei neud o scratch!

Dydd Gwener

Bore o rygbi ar y teledu. Mwynhau gwylio’r NRL yn Awstralia a gallu pigo fyny cwpwl o bethe wrth wylio fel chwaraewr. Ymarfer codi pwyse heddiw da bach o circuits ar ddiwedd y sesiwn yn barod am benwythnos o ymlacio. BBQ heno efo’r teulu efo cwpwl o boteli haeddiannol o gwrw, yna yn cymdeithasu am y noson efo ffrindie wrth chwara Playstation.

Dyddiadur Wythnos Billy McBryde

Dydd Sadwrn

Super Rugby nôl ar ein teledu sy’n braf iawn i weld fel chwaraewr, yn rhoi teimlad o oleuni yn gweld gwledydd arall yn dod nôl i’r arfer. Sesiwn cicio a chyflymder heddiw – techneg yn bwysig yn y ddwy elfen yma o ymarfer. Gorffwys am y prynhawn yn gwylio pêl-droed neu ffilm ar y teledu.

Dydd Sul

Diwrnod o orffwys ar y corff heddiw. Edrych ymlaen at gwis ffrindie ar brynhawn dydd Sul. Treulio amser efo’r teulu yn ystod y diwrnod. Mae hyn yn amser da ni erioed wedi cal efo’n gilydd, sydd wedi bod yn elfen bositif o’r pandemig. Ma’r cyfnod yma wedi bod yn anodd heb rygbi yn ein bywydau ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn pryd ddaw’r amser yna i redeg nôl ar y cae!