Neidio i'r prif gynnwys
George North

George North

Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham

Mae’r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland, wedi enwi tîm Cymru i wynebu Lloegr yn Stadiwm Twickenham yn ail rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ddydd Sadwrn 10 Chwefror (4.45pm yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Wedi iddo wella o anaf i’w ysgwydd, bydd George North yn dychwelyd i’r tîm i wneud ei 50fed ymddangosiad yn y Chwe Gwlad. Nick Tompkins fydd ei bartner yng nghanol y cae.

Yn dilyn ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf – a’i gais cyntaf – y penwythnos diwethaf, bydd Alex Mann yn dechrau ei gêm ryngwladol gyntaf, fel blaenasgellwr ochr dywyll.Tommy Reffell (blaenasgellwr ochr agored) ac Aaron Wainwright (Wythwr) fydd yn cwblhau’r rheng ôl.

DFP – Leaderboard

Tomos Williams fydd yn dechrau yn safle’r mewnwr, gyda Ioan Lloyd wedi ei ddewis i ddechrau’n faswr.

Mae’r prop pen rhydd Gareth Thomas yn dychwelyd o anaf i wneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024. Daeth y bachwr Elliot Dee a’r prop pen tynn Keiron Assiratti i’r maes fel eilyddion yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn diwethaf – ac mae’r ddau’n cael y cyfle i ddechrau’r gêm yn Nhwickenham.

Mae’r capten Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn parhau â’u partneriaeth yn yr ail reng.

Mae Cameron Winnett wedi’i enwi unwaith eto yn gefnwr, gyda Rio Dyer a Josh Adams wedi’u dewis ar yr esgyll.

Ymhlith yr eilyddion mae’n debygol y bydd y prop pen tynn, Archie Griffin, yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf y penwythnos hwn, tra byddai Cai Evans yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad os y caiff ei alw o’r fainc.

Mae’r clo Will Rowlands, y chwaraewr rheng ôl Taine Basham a’r mewnwr Kieran Hardy i gyd yn dychwelyd i garfan y gêm. Nid yw Rowlands wedi chwarae yn y Chwe Gwlad ers 2022 gan iddo golli’r Bencampwriaeth y llynedd o ganlyniad i anaf.

Corey Domachowski (prop pen rhydd), Ryan Elias (bachwr) a Mason Grady yw’r tri eilydd arall i’w dewis ar gyfer carfan y gêm.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland:“Ry’n ni wedi bod yn eithaf beirniadol o ni’n hunain yr wythnos hon.’Doedd ein perfformiad hanner cyntaf ddydd Sadwrn ddim yn dderbyniol o ystyried y safonau ry’n ni wedi eu gosod i ni’n hunain. Allwn ni ddim dechrau fel yna eto’r Sadwrn hwn.

“Fe ddangoson ni beth ry’n ni’n gallu ei wneud yn ystod yr ail hanner yn erbyn Yr Alban. Mater o adeiladu ar hynny a chwarae gyda’r un cyflymdra a dwyster o’r dechrau yw’r bwriad yn Twickenham.

“Ry’n ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg fydd yn dechrau, sy’n cynnig cyfleoedd i’r chwaraewyr hynny. Mae’n rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae.

“Mae hon yn gêm anferth – nid yn unig oherwydd yr hanes a’r hyn y mae herio’r Hen Elyn yn ei olygu i bobl Cymru. Yn ychwanegol at hynny – mae hwn yn gyfle i ni gyrraedd y safonau disgwyliedg unwaith eto.

“Mae Lloegr eu hunain yn mynd trwy gyfnod o newid ac felly byddwn yn mynd yno gyda hyder y gallwn adeiladu ar ein perfformiad ail hanner yr wythnos ddiwethaf gan arddangos yr un hunan gred y dangoson ni yn ystod y deugain munud hwnnw hefyd.”

Tîm Cymru i chwarae Lloegr yn Stadiwm Twickenham ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, ddydd Sadwrn 10 Chwefror 4.45pm. Yn fyw ar S4C ac ITV
15 Cameron Winnett (Caerdydd – 1 cap)
14 Josh Adams (Caerdydd – 55 caps)
13 George North (Gweilch – 118 caps)
12 Nick Tompkins (Saraseniaid – 33 chap)
11 Rio Dyer (Dreigiau – 15 cap)
10 Ioan Lloyd (Scarlets – 3 chap)
9 Tomos Williams (Caerdydd – 54 cap);
1 Gareth Thomas (Gweilch – 26 chap)
2 Elliot Dee (Dreigiau – 47 cap)
3 Keiron Assiratti (Caerdydd – 3 chap)
4 Dafydd Jenkins (Caerwysg – 13 chap) Capten
5 Adam Beard (Gweilch – 52 cap)
6 Alex Mann (Caerdydd – 1 cap)
7 Tommy Reffell (Caerlŷr – 14 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 44 cap)

Eilyddion
16 Ryan Elias (Scarlets – 39 cap)
17 Corey Domachowski (Caerdydd – 7 cap)
18 Archie Griffin (Caerfaddon – heb gap)
19 Will Rowlands (Racing 92 – 29 cap)
20 Taine Basham (Dreigiau – 16 chap)
21 Kieran Hardy (Scarlets – 18 cap)
22 Cai Evans (Dreigiau – 1 cap)
23 Mason Grady (Caerdydd – 7 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Lloegr yn Twickenham