Neidio i'r prif gynnwys
Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle

Fe sgoriodd Harry Houston un o chwe chais Cymru

Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle

Yn dilyn perfformiad ysbrydoledig ail hanner yn erbyn Georgia heddiw, fe all Cymru orffen yn bumed ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Byd os y byddan nhw’n curo Awstralia ddydd Gwener.

Rhannu:

Sgoriodd y Cymry bump o’u chwe chais ar gae hynod drwm yn Paarl yn ystod yr ail gyfnod gan gymryd cam pendant arall tuag at wireddu eu potensial.

Georgia gafodd y dechrau mwyaf cadarn ac roedd cicio cywir Khutshishvili wedi eu rhoi nhw ar y blaen o 6-0 gyda phum munud yn unig ar ôl o’r hanner cyntaf. O ganlyniad i dacl uchel bu’n rhaid i’r canolwr Kakhoidze gallio am ddeng munud ac fe gymrodd bechgyn Ryan Woodman fantais amlwg o’r dyn ychwanegol.

DFP – Leaderboard

Croesodd y bachwr Lewis Lloyd am ei drydydd cais o’r Bencampwriaeth ac yna ddau funud yn unig wedi troi hawliodd Louie Hennessey’r cyntaf o’i ddau gais ail hanner ef. Pan adawodd Kakhoidze’r maes, ‘roedd Georgia ar y blaen o chwephwynt ond pan ddychwelodd y canolwr i’r maes, ‘roedd ei dîm ar ei hôl hi o wyth pwynt gan bo dau drosiad Dan Edwards wedi llwyddo.

Eiliadau’n unig wedi i Georgia gael 15 dyn yn ôl ar y cae – fe hawlion nhw eu cais cyntaf o’r ornest wrth i hyrddiad y pac gael ei goroni gan y prop Giorgi Mamaiashvili.

Yn ystod y Bencampwriaeth hon, mae bechgyn Mark Jones wedi dangos gwir gymeriad a chwta ddau funud wedi ildio, fe fanteisiodd Hennessey ar bêl rydd i groesi’r gwyngalch am yr eildro o fewn saith munud i hawlio’i drydydd cais o’r gystadleuaeth.

Agorwyd y bwlch ymhellach wedi chwarter awr o’r ail gyfnod wrth i Harri Houston blymio’n gelfydd yn y gornel er mwyn hawlio pedwerydd cais ei dîm o’r prynhawn.

Gyda chwarter awr yn weddill danfonwyd Hennessey i’r cell cosb am droseddu ar y llawr. Er i’r bachwr Tchamiashvili groesi’n syth wedi hynny, amlygwyd dycnwch y Cymry unwaith eto funudau’n ddiweddarach wrth i’r eilydd Lucas De La Rua ail sefydlu bwlch cyfforddus o 17 pwynt i’w dîm gyda chymorth pellach gan droed Dan Edwards.

Fe groesodd Kakhoidze am drydydd cais Georgia o’r ornest gyda’u symudiad mwyaf creadigol nhw o’r prynhawn gyda thri munud yn unig ar ôl – ond y Cymry oedd yn haeddu cael y gair olaf heddiw a Joe Westwood, berfformiodd yn gampus yn yr ail hanner yn erbyn Ffrainc, groesodd am ei gais cyntaf o’r Bencampwriaeth, yn dilyn gwaith campus unwaith yn rhagor gan Morgan Morse.

Canlyniad Cymru 40 Georgia 21

Yn dilyn y gêm dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru o dan 20 Mark Jones:

“Mae’n rhaid canmol y bechgyn heddiw gan eu bod nhw wedi llwyddo rheoli’r chwarae o dan amodau anodd.

 “Roedd ein perfformiad heddiw yn benllanw wythnosau o waith caled  – welon ni’n gweithredu elfennau o’n chwarae yn llawer mwy clinigol na’r gemau blaenorol.”

Ategodd Morgan Morse:“‘Roedd hi’n gêm galed heddiw ond fe reolon ni’r gêm yn dda ac fe gawson ni’r fuddugoliaeth. Tydyn ni heb chwarae Awstralia eto felly ni’n edrych ymlaen at hynny.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle
Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Chwe Chais yn chwalu Georgia a Chymru’n anelu am y pumed safle