Neidio i'r prif gynnwys
Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau

Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau

Roedd hi’n gêm lawn tensiwn fel ag yr oedd hi yn Twickenham bum diwrnod ynghynt, ond yn y diwedd daeth Cymru drwyddi i ennill tair gêm allan o dair yn y ‘gr?p anoddaf erioed’ gyda buddugoliaeth o 23-13 dros ynyswyr Ffiji i fynd yn ôl i frig y tabl.

Rhannu:

Bellach mae’r pwysau i gyd ar Loegr ac Awstralia yn eu gêm yn Twickenham ddydd Sadwrn. Bydd yn rhaid i Loegr guro’r Walabis, neu gael tri phwynt allan o’r gêm drwy gael gêm gyfartal a sgorio pedwar cais neu ragor, er mwyn sicrhau nad ydynt yn gorffen yn is na Chymru yng Ngr?p A.

O ran Walabis Michael Cheika, mae angen iddynt gael buddugoliaeth o leiaf i gael yr un nifer o bwyntiau â Chymru, sef 13 o bwyntiau, ond gallent wneud ffafr fawr â thîm Warren Gatland drwy guro Lloegr dros y penwythnos. Does dim un tîm erioed wedi ennill tair gêm yn y gr?p a methu â mynd drwodd i’r rownd gogynderfynol, ond wedi dweud hynny, does dim gr?p tebyg i hwn wedi bod yn hanes Cwpan y Byd!

DFP – Leaderboard

Dechreuodd tîm Cymru ar dân a bu bron i George North groesi ym munudau cynta’r gêm. Cadwodd bechgyn Cymru chwaraewyr Ffiji yn eu 22 eu hunain, ond llwyddodd yr ymwelwyr i amddiffyn dwy lein o bum metr allan.
Gyda’r holl bwysau o du’r crysau cochion yn y cyfnod agoriadol roedd hi’n anochel y byddai Cymru yn sgorio, a llwyddodd y mewnwr Gareth Davies i wibio heibio i grafangau capten Ffiji Akapusa Qera i groesi am gais dan y pyst o’r sgarmes.

Dyna oedd pedwerydd cais y twrnamaint i seren y Scarlets, ac roedd trosiad Dan Biggar yn golygu bod Cymru wedi sgorio 7 pwynt mewn 7 munud. Yna, llwyddodd Biggar a maswr Ffiji, Ben Volavola, â chic gosb yr un cyn i fachwr y Gweilch, Scott Baldwin, hawlio ei gais cyntaf dros ei wlad.

Roedd trosiad Biggar wedi gwneud y sgôr yn 17-3 cyn i Volavola sgorio tri phwynt arall â’i ail gôl gosb i wneud y sgôr yn 17-6 ar yr egwyl.

Hyrddiodd canolwr Caerl?r, Veriniki Goneva, drosodd am gais anhygoel ar ôl 50 munud.

Troseddodd blaenwyr Ffiji yn y sgrym o flaen eu pyst eu hunain, a roddodd gyfle i Biggar anfon gôl gosb arall yn syth drwy’r pyst.

Roedd y 10 munud olaf yn llawn cyffro gyda’r naill ymosodiad a gwrthymosodiad ar ôl y llall, ond ni chafwyd unrhyw sgôr arall.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau
Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Davies yn croesi eto wrth i Gymru gynyddu’r pwysau