Neidio i'r prif gynnwys
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd

Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd

Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae ar faes Stadiwm Principality unwaith eto wrth iddo arwain y Barbariaiad yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn y 4ydd o Dachwedd am 2.30pm.

Rhannu:

Heddiw fe gadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru fod y gêm hon wedi ei threfnu fel teyrnged i Alun Wyn Jones, sydd wedi cynrychioli Cymru yn amlach nac unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm.

Bydd yr achlysur hefyd yn gyfle i’r cefnogwyr groesawu carfan Cymru adref o Gwpan y Byd yn Ffrainc.

DFP – Leaderboard

Hyfforddwr Awstralia Eddie Jones a Scott Robertson o Seland Newydd fydd yn gyfrifol am y Barbariaid – tîm fydd yn cynnwys nifer fawr o sêr y gamp. Bydd mwy o enwau cyfarwydd iawn eraill yn cael eu hychwanegu at y garfan yn y man.

Ond does dim amheuaeth mai Alun Wyn Jones fydd canolbwynt y sylw wrth i’r gêm gynnig cyfle gwerthfawr i Warren Gatland baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024.

Dywedodd Eddie Jones: “Stadiwm Principality yw un o’r llefydd gorau yn y byd i chwarae rygbi. Bydd angerdd y dorf ac arddull chwarae mentrus y Barbariaid yn siwr o wneud y diwrnod yn gofiadwy ac yn un i’w fwynhau. Dylai fod yn dipyn o achlysur fydd yn tynnu dŵr i’r dannedd.”

Mae Alun Wyn Jones bellach yn chwarae i Toulon yn Ffrainc wedi iddo ennill 158 o gapiau dros Gymru a 12 gwaith i’r Llewod ar bedair taith rhwng 2009-2021. Mae Jones felly wedi chwarae 170 o gemau prawf – mwy nac unrhyw chwaraewr arall erioed.

Bu’n gapten ar ei wlad 48 o weithiau ac arweiniodd y Llewod yn y trydydd prawf yn Awstralia yn 2013 ac yn y tri phrawf yn Ne Affrica yn 2021.

Cafodd ei enwebu ar gyfer Chwaraewr Gorau’r Byd ddwywaith yn 2015 a 2019 ac enillodd wobr Chwaraewr Gorau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn 2019 wedi iddo arwain ei wlad at y Gamp Lawn.

Dywedodd Hyfforddwr y Crusaders, ‘Razor’ Robinson: “Mae’n fraint derbyn y gwahoddiad i hyfforddi’r Barbariaid.’Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gyfarfod Alun Wyn ac at weithio gydag ef hefyd. Mi fydd yn brofiad gwych gweld y derbyniad gwresog y mae’n siwr o’i gael gan y dorf.

Leigh Halfpenny

 

Mae Alun Wyn Jones yn un o saith o chwaraewyr o Gymru sydd wedi ennill tair Camp Lawn ers y Rhyfel. Y chwech arall i gyflawni’r gamp honno yw Ryan Jones, Adam Jones, Gethin Jenkins, JPR Williams, Gerald Davies a Gareth Edwards

Llwyddodd Johnny Williams, Billy Trew, Dickie Owen, George Travers, Jim Webb a Tom Evans, i ennill tair Camp Lawn cyn y ddau Ryfel Byd yn 1908, 1909 and 1911.
Cynrychiolodd Alun Wyn Jones y Barbariaid am y tro cyntaf yn erbyn Pymtheg Dethol y Byd yn Twickenham yn gynharach eleni – wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o’r gêm ryngwladol. Chwaraeodd ail gêm iddynt yn erbyn Abertawe – un o’i gyn-glybiau wrth gwrs.

Wrth edrych ymlaen at yr achlysur yn Stadiwm Principality fis Tachwedd dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol a Chyfreithiol Undeb Rygbi Cymru, Rhodri Lewis:

“Bydd y gêm yn gyfle gwych i ni groesawu’r garfan adref ar ôl Cwpan y Byd yn Ffrainc – sy’n argoeli i fod yn gystadleuaeth arbennig o gyffrous.

“Bydd y gêm hefyd yn ein galluogi i groesawu wynebau cyfarwydd yn ôl i Stadiwm Principality yn enwedig felly Alun Wyn Jones.

“Mae’n gyfle i ddathlu a dweud diolch wrth rai o chwaraewyr gorau a mwyaf teyrngar ein gwlad.

“Beth bynnag fydd yn digwydd yn Ffrainc bydd yr achlysur yma’n rhywbeth i’w drysori.”

Bydd tocynnau ar gyfer gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid yn mynd ar werth ar Fedi’r 21ain am £60, £40 ac £20 gyda gostyngiad o 50% ar gael i bobl ifanc o dan 17 oed.

Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y tocynnau trwy ddilyn y ddolen:
www.wru.wales/barbarians2023 .

Bydd Aelodau Debentur a Phremiwm yn gallu prynu eu tocynnau ar unwaith a byddant ar gael i’r Clybiau o Fedi’r 5ed ymlaen.

Gall cefnogwyr sy’n awyddus i brynu pecyn lletygarwch wneud hynny nawr
WRU.WALES/VIP

Dilynwch y ddolen am fwy o fanylion am gyfleoedd Gwely & Brecwast yng Nghwesty’r Parkgate https://www.theparkgatehotel.wales

Mae Pecynnau Lletygarwch sydd y tu allan i’r Stadiwm hefyd ar gael trwy Events International https://eventsinternational.co.uk a Phecynnau Teithio Swyddogol ar gael gyda  Gullivers Sports Travel https://gulliverstravel.co.uk

Mae’r Cynllun Cyfnewid swyddogol ar gyfer Cefnogwyr yma: https://welshrugbyticketexchange.seatunique.com/

Nodiadau ar gyfer y Wasg:

CYMRU V BARBARIAID
Ch10 Cymru 5 Barbariaid 5
Profion: Ch 4 Cymru 2 Barbariaid 2

30 Tachwedd 2019: XV Cymru 43 – 33 Barbariaid
02 Mehefin 2012: Cymru 30 – 21 Barbariaid
04 Mehefin 2011: Cymru 28 – 31 Barbariaid

26 Mai 2004: XV Cymru 42 – 0 Barbariaid
31 Mai 2003: XV Cymru 35 – 49 Barbariaid
29 Mai 2002:  XV Cymru 40 – 25 Barbariaid
20 Mai 2001:  XV Cymru 38 – 40 Barbariaid
24 Awst 1996: Cymru 31 – 10 Barbariaid
06 Hydref 1990: Cymru 24 – 31 Barbariaid
17 Ebrill 1915: XV Cymru 10 – 26 Barbariaid

Nodyn
30 Tachwedd
2019: XV Menywod Cymru 15 – 29 Barbariaid y Menywod.

Hyfforddwr presennol blaenwyr Cymru, Jonathan Humphreys oedd capten Cymru yn erbyn y Barbariaid yn 1996 yn y gêm gyntaf gafodd ei hystyried fel prawf llawn rhwng y ddau dîm.
Bydd Rheolwr tîm Cymru, Martyn Williams yn cofio’r diwrnod hwnnw’n dda hefyd gan iddo ennill y cyntaf o’i 100 cap.

‘Roedd Gareth Llewellyn, sef tad Max – enillodd ei gap cyntaf dros Gymru’r Sadwrn diwethaf – hefyd yn chwarae yn y gêm yn 1996.


Y CYCHWYN CYNTAF- CYMRU 10 – 26 BARBARIAID 17 Ebrill, 1915

Disgrifiwyd yr ornest gyntaf a gynhaliwyd ar Barc yr Arfau, fel gêm filitaraidd ryngwladol rhwng ‘Cymru a Lloegr’. Ond gan i un Cymro a dau Wyddel chwarae gyda’r 12 Sais bu’n rhaid bathu ar new arall ar y tîm.

Defnyddiodd y Cymry wyth blaenwr ond dim ond saith chwaraeoedd yn y pac i’r Barbariaid er mwyn iddynt allu chwarae gydag un olwr ychwanegol!

Trefnwyd yr ornest er mwyn ceisio denu mwy o aelodau i’r Gwarchodlu Cymreig a chodwyd dros £200 tuag at ymgyrch y Rhyfel.

Y blaenwr byrlymus, y Parch Alban Davies oedd capten Cymru ac er na roddwyd capiau am chwarae yn y gêm hon, ‘roedd pob un ond dau o’r Cymry eisoes wedi ennill capiau. Hon oedd gêm gyntaf Tom Parker o Abertawe dros ei wlad ac aeth ymlaen i ennill 14 o gapiau yn y pendraw.

Search hynny – dyma oedd yr unig dro i flaenwr Caerdydd, Dan Callan (Ffiwsiliwr o Munster) gynrychioli’r tîm wedi i Tom Williams orfod tynnu yn ôl ar yr eiliad olaf. Gan nad oedd capiau ar gael am chwarae’n y gêm hon – ni chafodd Callan gap erioed.

Enwyd Cymro yn nhîm y Barbariaid, Joseph Partridge. Er i’r ‘Bird’fel yr oedd yn cael ei adnabod gael ei eni yn y Fenni – fe gynrychiolodd Dde Affrica ar y lefel rhyngwladol. Chwaraeodd i Gasnewydd, Blackheath a bu’n gapten ar Gymry Llundain cyn ymladd dros y Cymry Brenhinol yn Rhyfel y Boer. Tra yn Ne Affrica, ymunodd gyda Harlequins Pretoria ac yna’r Transvaal. Derbyniodd ei gap cyntaf wrth gynrychioli’r Springboks yn erbyn Prydain yn 1903.

Dychwelodd adref i Gymru’n ddiweddarach a bu farw’n 86 oed yn 1965.

CYMRU: R Williams; I T Davies, W H Evans, J Wetter, B Lewis; Clem Lewis, T Vile; T Lloyd, Rev A Davies (captain), D Callan, W Jenkins, Percy Jones, D Watts, Edgar Morgan, T Parke.
Ceisiau: B Lewis, I T Davies. Gôl Adlam: Clem Lewis
BARBARIAID: G Wood; E Butcher, J Birkett, E Mobbs (captain), J Minch, J Quinn; A Horan, H Higgins; G Roberts, J Partridge, A Bull, A Osbourn, G Kidman, M Atkinson, L Davies
Ceisiau: J Quinn 2, A Bull, J Minch, A Horan, J Birkett
Tros: E Butcher 2, G Roberts 2
Dyfarnwr: W M Douglas (Caerdydd)

Y TRO DIWETHAF – XV CYMRU 43 – 33 BARBARIAID, 30 Tachwedd 2019
Dechreuodd cyfnod Wayne Pivac fel hyfforddwr Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn ei rag-flaenydd Warren Gatland oedd yn gyfrifol am y Barbariaid.

Cafwyd cyfanswm o 11 o geisiau gyda Josh Adams a Ken Owens yn hawlio dau gais yr un. Croesodd asgellwr y Scarlets Johnny McNicholl am gais hefyd. Er mai hon oedd ei gêm gyntaf dros Gymru – nid oedd capiau’n cael eu rhoi am yr ornest hon.
Croesodd yr eilydd o fewnwr, Gareth Davies am gais hefyd ac fe hawliodd Leigh Halfpenny  13 o bwyntiau.

Cymru: Leigh Halfpenny (Scarlets); Johnny McNicholl (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Hadleigh Parkes (Scarlets), Josh Adams (Gleision Caerdydd); Jarrod Evans (Gleision Caerdydd), Tomas Williams (Gleision Caerdydd); Wyn Jones (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (capten, Gweilch), Aaron Wainwright (Dreigiau)
Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau), Rob Evans (Scarlets), Leon Brown (Dreigiau), Seb Davies (Gleision Caerdydd), Ollie Griffiths (Dreigiau), Gareth Davies (Scarlets), Sam Davies (Dreigiau), Owen Lane (Gleision Caerdydd)

Sgorwyr: Ceisiau: J Adams 2, K Owens 2, J McNicholl, G Davies Tros: L Halfpenny 5 Cic Gosb: L Halfpenny
Barbariaid: Shaun Stevenson (Waikoto Chiefs / Maori); Dillyn Leyds (Stormers / De Affrica), Mathieu Bastareaud (Lyon / Ffrainc), Andre Esterhuizen (Natal Sharks / De Affrica), Cornal Hendricks (Blue Bulls / De Affrica); Curwin Bosch (Natal Sharks / De Affrica), Bryn Hall (Crusaders / Maori); Campese Maafu (Caerlŷr / Fiji), Rory Best (capten, Ulster / Iwerddon), Wiehahn Herbst (Blue Bulls), Luke Jones (Melbourne Rebels / Awstralia), Tyler Ardron (Waikoto Chiefs / Canada), Pete Samu (ACT Brumbies / Awstralia), Marco van Staden (Blue Bulls / De Affrica), Josh Strauss (Stade Francais / Yr Alban)
Eilyddion: Schalk Brits (Blue Bulls / De Affrica), Craig Millar (Sunwolves), Hencus van Wyk (Sunwolves), George Biagi (Zebre / Yr Eidal), Angus Cottrell (Melbourne Rebels), Jano Vermaak (Stormers / De Affrica), Billy Meakes (Melbourne Rebels), Matt Duffie (Auckland Blues / Seland Newydd)

Sgorwyr: Ceisiau: J Strauss, C Bosch, S Stevenson, C Millar, P Samu Tros: C Bosch 4
Dyfarnwr: Nigel Owens (URC)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd
Amber Energy
Opro
Cymru i wynebu’r Barbariaid ac ambell wyneb cyfarwydd