Red Whistle | Chwiban Goch
The new way to identify referees who are either young or newly qualified.
Y ffordd syml o adnabod dyfarnwyr ifanc a dyfarnwyr newydd.
The new way to identify referees who are either young or newly qualified.
Y ffordd syml o adnabod dyfarnwyr ifanc a dyfarnwyr newydd.

The Red Whistle campaign is a new initiative designed to support the next generation of referees within community rugby. Focused on those who are either newly qualified or under 18, the campaign aims to make officiating a more positive and supportive experience, particularly in the early stages of a person’s referee journey.
By clearly identifying these referees during matches, the campaign seeks to raise awareness among players, coaches, spectators, and promote an understanding of the challenges faced by those who are still developing their skills. Ultimately, the goal is to create safer, more respectful environments where new referees can build confidence, make decisions without fear of criticism, and continue progressing within the game.
The introduction of the Red Whistle is a proactive step towards addressing ongoing concerns around the discipline and behaviour in grassroots rugby. Referees play a vital role in ensuring the game is played fairly, safely and fosters a culture of respect, which is essential to sustaining the sport at all levels. By highlighting those who are still learning, the campaign invites the wider rugby community to play its part in supporting them.
—
Mae ymgyrch y Chwiban Goch yn fenter newydd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddyfarnwyr rygbi cymunedol. Gan ganolbwyntio ar y rhai sydd naill ai newydd ymgymhwyso neu o dan 18 oed, nod yr ymgyrch yw gwneud dyfarnu yn brofiad mwy cadarnhaol a chefnogol, yn enwedig yng nghyfnodau cynnar taith dyfarnu person.
Trwy nodi’r dyfarnwyr hyn yn glir yn ystod gemau, mae’r ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr, a dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n dal i ddatblygu eu sgiliau. Yn y pen draw, y nod yw creu amgylcheddau mwy diogel a pharchus lle gall dyfarnwyr newydd fagu hyder, gwneud penderfyniadau heb ofni beirniadaeth, a pharhau i symud ymlaen o fewn y gêm.
Mae cyflwyno’r Chwiban Goch yn gam pendant tuag at fynd i’r afael â phryderon parhaus ynghylch disgyblaeth ac ymddygiad mewn rygbi ar lawr gwlad. Mae dyfarnwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y gêm yn cael ei chwarae yn deg ac yn ddiogel a’i bod yn meithrin diwylliant o barch, sy’n hanfodol i gynnal y gamp ar bob lefel. Trwy dynnu sylw at y rhai sy’n dal i ddysgu, mae’r ymgyrch yn gwahodd y gymuned rygbi ehangach i chwarae ei rhan yn eu cefnogi.