Profodd y fantais o chwarae gartref yn allweddol ym Mhumed Rownd o gemau’r ddwy adran ym Mhencampwriaeth yr Ysgolion a’r Colegau o dan 18 yr wythnos ddiwethaf.
Yn dilyn eu buddugoliaeth o drwch blewyn yn erbyn Coleg y Cymoedd (33-29), mae gan Glantaf driphwynt o fantais ar frig Adran A. Mae’r ‘Cymoedd’ a Llanymddyfri, sy’n cyfarfod heddiw (ddydd Mercher, 11 Tachwedd), yn dynn ar eu sodlau.
Yn Adran B, llwyddodd Coleg Caerdydd a’r Fro i drechu Ysgol Uwchradd Casnewydd o 31-25, gan gynnal eu record gant y cant ac ymestyn eu mantais i driphwynt dros eu gwrthwynebwyr agosaf.
Bu’n rhaid i Ysgol Glantaf weithio’n arbennig o galed er mwyn sicrhau eu buddugoliaeth dros Goleg y Cymoedd yr wythnos ddiwethaf. Yn yr eiliadau olaf, roedden nhw ar ei hôl hi o 29-26 tan i’w sgarmes symudol effeithiol gipio’r fuddugoliaeth o fflamau’r tân.
Taith fer iawn sy’n wynebu’r Pencampwyr heddiw wrth iddyn nhw deithio rhyw filltir i wynebu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.
Er bod Glantaf ar frig y tabl, mae’r Eglwys Newydd yn y pedwerydd safle – y safle olaf sy’n sicrhau lle yn y rownd gyn-derfynol. Llwyddodd yr Eglwys Newydd i orffen yn y pedwar uchaf y tymor diwethaf – a dyna’n union fydd eu bwriad eto’r tymor hwn.
Hawliodd yr Eglwys Newydd bum pwynt cynghrair yn eu buddugoliaeth o 40-22 ar faes Coleg Pen-y-bont yr wythnos ddiwethaf. Byddant yn dod â’u hymgyrch i ben gyda gêm gartref yn erbyn Coleg Sir Gâr, sef eu bygythiad mwyaf yn y frwydr am y pedwerydd safle hollbwysig hwnnw.
Collodd Sir Gâr o 24-21yn erbyn Coleg Llanymddyfri saith niwrnod yn ôl, ac fe fyddan nhw’n teithio i Goleg Gwent y prynhawn yma.
Cododd Coleg Gwent oddi ar waelod y tabl yr wythnos diwethaf gyda’u buddugoliaeth gyntaf, 27-7 yn erbyn Coleg Llandrillo.
Yn y gêm arall yn Adran A, bydd Llandrillo yn croesawu Coleg Pen-y-bont.
Yn Adran B, bydd Coleg Gŵyr yn croesawu Ysgol Uwchradd Casnewydd, bydd Coleg Castell-nedd a Phort Talbot yn estyn croeso i Ysgol Dyffryn Aman, a bydd Ysgol Ystalyfera yn wynebu Coleg Caerdydd a’r Fro.
ADRAN A – GEMAU’R 6ed ROWND
Ddydd Mercher, 11 Tachwedd
Coleg Gwent v Coleg Sir Gâr
Coleg Llandrillo v Coleg Pen-y-bont
Coleg Llanymddyfri v Coleg y Cymoedd
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd v Glantaf
CANLYNIADAU’R ROWND 1af
Coleg Gwent 0 – 19 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Llandrillo 26 – 37 Coleg y Cymoedd
Coleg Sir Gâr 27 – 26 Coleg Pen-y-bont
Ysgol Glantaf 38 – 35 Coleg Llanymddyfri
CANLYNIADAU’R 2il ROWND
Coleg Pen-y-bont 52 – 21 Coleg Gwent
Coleg Sir Gâr 14 – 49 Ysgol Glantaf
Coleg y Cymoedd 29 – 24 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Llanymddyfri 24 – 7 Coleg Llandrillo
CANLYNIADAU’R 3edd ROWND
Coleg Pen-y-bont 19 – 38 Coleg y Cymoedd
Coleg Gwent 12 – 35 Glantaf
Coleg Llandrillo 20 – 28 Coleg Sir Gâr
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 30 – 35 Coleg Llanymddyfri
CANLYNIADAU’R 4edd ROWND
Coleg y Cymoedd 59 – 24 Coleg Sir Gâr
Glantaf 39 – 15 Coleg Pen-y-bont
Coleg Llanymddyfri 38 – 12 Coleg Gwent
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 29 – 26 Coleg Llandrillo
CANLYNIADAU’R 5ed ROWND
Coleg Pen-y-bont 20 – 40 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Gwent 27 – 7 Coleg Llandrillo
Coleg Sir Gâr 21 – 24 Coleg Llanymddyfri
Glantaf v Coleg y Cymoedd
ADRAN B – GEMAU’R 6ed ROWND
Ddydd Mercher, 11 Tachwedd
Coleg Gŵyr v Ysgol Uwchradd Casnewydd
Coleg Castell-nedd a Phort Talbot v Ysgol Dyffryn Aman
Ysgol Ystalyfera v Coleg Caerdydd a’r Fro
CANLYNIADAU’R ROWND 1af
Coleg Caerdydd a’r Fro 34 – 23 Ysgol Ystalyfera
Ysgol Dyffryn Aman 29 – 37 Coleg Castell-nedd a Phort Talbot
Ysgol Uwchradd Casnewydd 34 – 23 Coleg Gŵyr
CANLYNIADAU’R 2il ROWND
Coleg Caerdydd a’r Fro 57 – 10 Ysgol Dyffryn Aman
Coleg Castell-nedd a Phort Talbot 0 – 39 Coleg Gŵyr
Ysgol Ystalyfera 17 – 43 Ysgol Uwchradd Casnewydd
CANLYNIADAU’R 3edd ROWND
Coleg Gŵyr 14 – 33 Coleg Caerdydd a’r Fro
Ysgol Uwchradd Casnewydd 76 – 12 Coleg Castell-nedd a Phort Talbot
Ysgol Dyffryn Aman 27 – 29 Ysgol Ystalyfera
CANLYNIADAU’R 4edd ROWND
Coleg Gŵyr 38 – 17 Ysgol Ystalyfera
Ysgol Uwchradd Casnewydd 66 – 19 Ysgol Dyffryn Aman
Coleg Castell-nedd a Phort Talbot 0 – 55 Coleg Caerdydd a’r Fro
CANLYNIADAU’R 5ed ROWND
Coleg Caerdydd a’r Fro 31 – 25 Ysgol Uwchradd Casnewydd
Ysgol Dyffryn Aman 22 – 19 Coleg Gŵyr
Ysgol Ystalyfera 40 – 21 Coleg Castell-nedd a Phort Talbot
