Am 73 o flynyddoedd, dim ond 45 o chwaraewyr oedd wedi trechu’r Crysau Duon wrth wisgo crys Cymru. Bellach, mae’r grŵp unigryw hwnnw wedi tyfu i 68 o chwaraewyr yn dilyn y fuddugoliaeth ryfeddol o 35-28 ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Mae llwyddiant y penwythnos diwethaf yn fwy anhygoel wrth ystyried mai cyn hynny, dim ond ym 1905,1935 a 1953 y llwyddwyd i drechu Seland Newydd.
Wrth i’r cefnogwyr lifo allan i strydoedd Caerdydd ar ôl iddyn nhw a’r chwaraewyr roi popeth dros yr achos, roedd y tafarndai traddodiadol fel y City Arms, y Cottage, Gwesty’r Angel, y Queen’s Vaults, y Golden Cross a’r Old Arcade o dan eu sang – yn union fel yr oedden nhw 121, 91 a 73 o flynyddoedd ynghynt. Gorfoledd pur!
Byddai peint o gwrw wrth ddathlu ym 1905 wedi costio 1½ ceiniog mewn arian degol, 5c ym 1935, 6ch ym 1953 a thua £5.25 yn 2026.
O ganlyniad i fuddugoliaeth hanesyddol y Sadwrn diwethaf, mae grŵp o chwaraewyr bellach, am y tro cyntaf, wedi trechu’r tri chawr o hemisffer y de wrth chwarae dros Gymru – ac yn naturiol felly maen nhw yn eu seithfed ne’ o’r herwydd!
Mae chwaraewyr o Gymru wedi trechu Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia wrth chwarae dros y Llewod yn y gorffennol– RH Williams, Ieuan Evans ac Alun Wyn Jones – ond prin fu’r cyfleoedd i gyflawni ‘Coron Driphlyg’ bersonol gyda Chymru tan yr oes broffesiynol.
Yn ystod ‘Oes Aur’ gyntaf Cymru, ar droad y ganrif ddiwethaf, heriwyd y Crysau Duon ym 1905, y Springboks ym 1906 a’r Wallabies ym 1908. Dim ond dau chwaraewr a chwaraeodd yn y tair gêm – y mewnwr Dickie Owen a’r bachwr George Travers – a chollwyd y gêm yn erbyn y Springboks 11-0.
Daeth y cyfle nesaf yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan fu’r Wallabies ar daith ym 1948, y Springboks ym 1951 a’r Crysau Duon ym 1953. Chwaraeodd Ken Jones, Bleddyn Williams a John Gwilliam ym mhob un o’r tair gêm, ond unwaith eto collwyd y gêm yn erbyn De Affrica, y tro hwn o 6-3.
Ym 1969 aeth Cymru ar daith i hemisffer y de i chwarae ddwywaith yn erbyn Seland Newydd ac unwaith yn erbyn Awstralia a blwyddyn yn ddiweddarach, croesawyd De Affrica i Gaerdydd.
Rhoddodd hynny gyfle i chwaraewyr fel JPR Williams, John Dawes, Barry John, Gareth Edwards, Denzil Williams, Delme Thomas, Mervyn Davies a Dai Morris geisio cyflawni curo goreuon hemisffer y de yn ystod y cyfnod hwnnw – ac er y cafwyd buddugoliaeth yn erbyn y Wallabies a gêm gyfartal yn erbyn y Springboks, collwyd yn Seland Newydd.
O ganlyniad i wleidyddiaeth y cyfnod, taith De Affrica i Brydain ym 1969-70 oedd y tro olaf i Gymru chwarae yn eu herbyn tan 1994 ac felly roedd hi’n amhosibl curo tri phrif dîm pendraw’r byd bryd hynny. Ers i Dde Affrica gael eu derbyn yn ôl ar y llwyfan rhyngwladol mae’r gemau yn erbyn tair gwlad hemisffer y de wedi digwydd yn aml – ond dim ond y penwythnos diwethaf y llwyddodd 7 o chwaraewyr i gofnodi buddugoliaethau yn erbyn y Springboks, y Wallabies a’r Crysau Duon yng nghrys Coch Cymru.
Llongyfarchiadau ar gyflawni tipyn o gamp a chreu hanes hefyd.
|
Chwaraewr |
Awstralia |
De Affrica |
Seland Newydd |
|
Adam Beard |
2018, 21, 23 |
2018 (1, 2) |
2026 |
|
Ryan Elias |
2021, 23 |
2022 |
2026 |
|
Dillon Lewis |
2018, 21 |
2018 (1, 2), 22 |
2026 |
|
Louis Rees-Zammit |
2021, 23 |
2022 |
2026 |
|
Nicky Smith |
2018 |
2016, 18 (1, 2) |
2026 |
|
Gareth Thomas |
2021, 23 |
2022 |
2026 |
|
Tomos Williams |
2018, 21, 23 |
2018 (1, 2), 22 |
2026 |
Bydd y capten Dewi Lake yn ymuno â’r clwb dethol yma nhw os gall arwain ei wlad at fuddugoliaeth dros Awstralia heddiw, ar ôl iddo chwarae yn y fuddugoliaeth dros y Springboks yn 2022 a Seland Newydd y mis hwn. Mae Jac Morgan a Dafydd Jenkins eisoes wedi curo Awstralia a Seland Newydd, felly fe fyddan nhw’n awchu i wynebu De Affrica mor fuan ag sy’n bosibl!
