News

Y Dewiniaid yn codi o waelod tabl Super Rygbi Cymru

Chris Davies
Prif Hyfforddwr Aberafan, Chris Davies

Roedd Prif Hyfforddwr Aberafan, Chris Davies, ar ben ei ddigon ar ôl i’w dîm daro’n ôl i ennill 35-19 yn erbyn Pont-y-pŵl – gan ddod â’u rhediad o saith colled o’r bron yn Super Rygbi Cymru i ben.

Roedd y Dewiniaid ar ei hôl hi o 19-14 ar yr egwyl, ond fe sgorion nhw 21 pwynt heb ymateb yn yr ail hanner, olygodd eu bod yn codi o waelod y tabl.

Sgoriodd y canolwr James Price gais yn y ddau hanner. Fe groesodd y ddau asgellwr Felix Gilbert a Frankie Jones am geisiau hefyd, fel y gwnaeth y blaen-asgellwr Elis Cox. Llwyddodd Keillen Cullen â thri throsiad ac roedd anel Charlie Thomas yn gywir ar ddau achlysur hefyd. Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Aberafan ers iddyn nhw guro Pen-y-bont ar benwythnos agoriadol y tymor.

Dywedodd Chris Davies: “Dwi’n hynod falch o’r chwaraewyr. Mae dod o hyd i ffordd o ennill ar ôl bod ar ei hôl hi yn dweud llawer am gymeriad y grŵp yma.

“Fe chwaraeodd y bois dros ei gilydd ac fe gawson nhw beth roedden nhw’n ei haeddu yn y pendraw.

“Fe frwydron nhw tan y diwedd a bydd y fuddugoliaeth yma’n rhoi hyder mawr i’r garfan.

“Dwi’n wirioneddol gredu ein bod ni’n well tîm na beth y mae’r tabl yn ei awgrymu – ond mae’n rhaid i ni barhau i wella’n perfformiadau a’n canlyniadau er mwyn newid hynny.”

Roedd ‘Pooler’ o dan arweiniad Leighton Jones, oedd wedi dychwelyd i’r clwb yn dilyn ymadawiad Tom Hancock yn gynharach yn y mis, ar y blaen yn dilyn ceisiau gan yr asgellwr Carrick McDonough a’r capten Scott Matthews. Llwyddodd Kieran Meek i drosi ddwywaith. Yn dilyn y chweched golled hon mewn wyth gêm – mae Pont-y-pŵl wedi llithro i waelod tabl Super Rygbi Cymru.

Casnewydd – sydd ar frig y tabl bellach a thaith i Faes y Talbot Athetig sy’n eu hwynebu nesaf. Fe neidiodd Gwŷr Gwent o’r trydydd safle i frig y tabl ar ôl iddyn nhw sicrhau eu seithfed buddugoliaeth mewn wyth gêm, trwy drechu Abertawe o 42-14.

Sgoriodd y bachwr Wade Langley gais ym mhob hanner i dîm Ty Morris, tra llwyddodd yr asgellwr Fin Baker, y cefnwr Sam Morgan, y canolwr Brogan Leary a’r mewnwr Lucas Welsh i groesi’r gwyngalch hefyd. Trosodd Jac Lloyd bob un o chwe chais Casnewydd.

“Fe ddechreuon ni’n arbennig o dda, gan chwarae gyda chyflymder a thempo gwirioneddol. Roedden ni’n gywir yn ein chwarae hefyd ac fe olygodd hynny bod ganddon ni fantais iach ar y sgorfwrdd ar yr egwyl,” dywedodd Prif Hyfforddwr Casnewydd, Ty Morris.

“Yn yr ail hanner – oedd dipyn yn wahanol i’r cyfnod cyntaf – ro’n i’n hapus iawn gyda’r ffordd y gwnaethon ni amddiffyn a gwarchod ein mantais.

“Roedd hwn yn teimlo fel perfformiad cyflawn. Roedden ni’n gryf, yn gorfforol, yn ddewr ac yn effeithiol wrth ymosod. Roedd heddiw’n gam cadarnhaol arall ymlaen yn ein datblygiad fel tîm.”

Sgoriodd yr wythwr Ethan Fackrell a’r eilydd o fewnwr Iwan Temblett geisiau i Abertawe. Ychwanegodd Josh Phillips a Temblett y trosiadau.

Collodd Glyn Ebwy gyfle i gydio yng nghwt yr arweinwyr, gan iddyn nhw golli gartref o 31-12 yn erbyn Cwins Caerfyrddin.

Sgoriodd Luca Giannini, Jayden Brown, Madoc Evans ac Eilir George y ceisiau dros fechgyn y gorllewin, gydag Evans hefyd yn cyfrannu 11 pwynt gyda’i droed.

Chwephwynt cynghrair i’r Cwins felly a dim ond dau gais i Lyn Ebwy. Yr asgellwr Mitch Rankie a’r eilydd Ewan Bowden hawliodd y rheiny ac fe droswyd y cyntaf o’r ddau gan Dorian Jones.

Sicrhaodd Rygbi Gogledd Cymru eu buddugoliaeth oddi cartref gyntaf o’r tymor wrth drechu Pen-y-bont mewn gêm glos a chyffrous. 39-38 oedd y sgôr terfynol, ac fe hawliodd y Gogs bum pwynt cynghrair am eu hymdrechion.

Sam Williams, Sam Jones, Tudur Jones a’r cefnwr Dion Jones (2), sgoriodd geisiau RGC tra i Billy McBryde groesi am gais hefyd a chicio gweddill pwyntiau ei dîm.

Sgoriodd y mewnwr Harvey Nash ddau gais i’r tîm cartref. Edd Howley, Mccauley Rowley, Marc Thomas a’r eilydd Nathan Evans diriodd am geisiau eraill Pen-y-bont. Ychwanegodd Ben Burnell bedwar trosiad llwyddiannus.

Related Topics