Bydd y cynllun arbennig hwn yn cael ei ddatblygu gan gymunedau rygbi Cymru ar gyfer cymunedau rygbi Cymru a bydd y rhaglen yn creu gweithdai ac adnoddau pwrpasol ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r gêm.
Ddydd Mercher 25 Tachwedd 2026 – Mae LooseHeadz ac Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cydweithio am gyfnod o dair blynedd i ddatblygu cymorth iechyd meddwl fydd wedi’i ddylanwadu’n gryf gan anghenion y bobl, y clybiau a’r cymunedau sydd wrth galon rygbi Cymru.
Bydd y ‘Rhaglen Cyflwyno Iechyd Meddwl Cymunedol’ yn manteisio ar arbenigedd LooseHeadz ym maes iechyd meddwl a chyrhaediad cymunedol Undeb Rygbi Cymru. Bydd gweithdai ac adnoddau wedyn yn cael eu creu ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, staff, dyfarnwyr, ffisiotherapyddion a phawb arall sy’n helpu i gynnal clwb rygbi.
‘Gwrando yn gyntaf’ yw un o brif egwyddorion y cynllun. Yn hytrach na chyflwyno rhaglen sy’n bodoli’n barod, bydd LooseHeadz yn treulio amser mewn clybiau cymunedol ledled y wlad, ac yn eu holi i ddeall anghenion y gymuned leol a’r gymuned rygbi yn ehangach. Wedi hynny bydd y broses o gynllunio cynnwys penodol fydd yn adlewyrchu iaith, diwylliant a gwerthoedd rygbi Cymru yn dechrau o ddifrif.
Bydd cyfarfod cyntaf y rhanddeiliaid yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality ddydd Mercher 25 Tachwedd, pan fydd partneriaid yn dod ynghyd i helpu i lunio’r rhaglen.
Bydd pedwar clwb yn cymryd rhan yng ngham cyntaf y rhaglen, gan helpu i lywio’r ymchwil, a chynnig barn am y gweithdai a’r adnoddau. Fe fyddan nhw wedyn yn darparu adborth cyn i’r rhaglen gael ei chyflwyno yn ehangach. Y nod yw adeiladu model cynaliadwy o addysg a chymorth iechyd meddwl, fydd wedyn yn cael ei ddarparu gan gymunedau rygbi Cymru.
Dywedodd Rob Shotton, Cyd-sylfaenydd LooseHeadz: “Mae clybiau rygbi yng Nghymru yn fwy na chlybiau yn unig. Nhw yw calon eu cymunedau. Mae gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru yn golygu cymaint i mi’n bersonol ac i bawb yn LooseHeadz. Mae’n ddatblygiad pwysig ac yn gyfle mawr i ni o ystyried i LooseHeadz ddechrau yn dilyn sgwrs yn ein clwb rygbi lleol ni yn 2017.
“Mae cael cefnogaeth corff llywodraethu yn bwysig. Mae’n dangos i glybiau fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Undeb ac i’r gêm, ac mae’n ein helpu ni i gyrraedd y bobl sydd wirioneddol angen cymorth. Gyda’n gilydd, ry’n ni am ychwanegu at y cymorth sydd ar gael wrth gydweithio gyda’r clybiau – sy’n ganolfannau cymunedol allweddol. Bydd ein gwaith ar gyfer pawb sy’n rhan o’r clybiau cymunedol hynny: chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, dyfarnwyr, ffisiotherapyddion a staff.
“Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig yr hyn sydd ei angen, mae’n rhaid i ni wrando yn gyntaf, deall beth sydd ei angen ar y gymuned rygbi Gymreig, ac adeiladu rhywbeth cwbl addas a phwrpasol ar gyfer pobl Cymru. Mae’n gynllun fydd yn cael ei greu gan glybiau rygbi Cymru ar gyfer eu clybiau a’u cymunedau.”
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: “Ry’n ni am i rygbi dyfu ar draws ein holl gymunedau. Mae’r cynllun yma’n edrych ymhellach na dim ond agwedd gorfforol y gêm. Mae hefyd yn ymwneud ag iechyd, lles ac iechyd meddwl.
“Mae ganddon ni dros 50,000 o chwaraewyr wedi eu cofrestru yma yng Nghymru, yn ogystal â miloedd o hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau o deuluoedd sy’n cefnogi’r gêm mewn gwahanol ffyrdd. Ry’n ni eisiau ein clybiau i fod yn llefydd diogel a chroesawgar – llefydd y gallan nhw gael sgyrsiau gan wybod y bydd cymorth ar gael iddyn nhw yno.
“Does ganddon ni o fewn yr Undeb ddim yr holl arbenigedd a gwybodaeth sydd ei angen i gyflawni hyn ar ein pennau ein hunain. Drwy’r cydweithrediad yma gyda LooseHeadz, bydd eu harbenigedd nhw yn y maes ynghyd â’n rhwydwaith gref o glybiau yn gallu addysgu a chefnogi holl aelodau teulu rygbi Cymru.”
Croesawodd Shane Williams, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a’r Llewod, y cydweithrediad newydd hwn hefyd, gan dynnu ar ei brofiad personol o orfod addasu i fywyd bob dydd ar ôl i’w yrfa rygbi broffesiynol ddod i ben.
Dywedodd Shane Williams: “Mae Undeb Rygbi Cymru yn cefnogi clybiau rygbi a chymunedau ym mhob rhan o Gymru, felly does dim partner gwell i’w gael os y’ch chi’n ceisio cyrraedd y bobl hynny.
“Ar ôl chwarae rygbi proffesiynol am amser maith, ro’n i’n ei chael hi’n anodd iawn pan wnes i ymddeol. Roedd hi’n galed nad oedd fy nghyd-chwaraewyr o fy nghwmpas bob dydd ac roedd y ffaith nad o’n i’n rhan o’r amgylchedd o fod yn aelod o dîm yn heriol iawn. Fe ges i drafferth dod i arfer â hynny am sbel.
“Pan mae pobl yn meddwl am chwaraewyr rygbi, mae pawb yn meddwl yn syth am fois mawr a chryf ar y cae, ond mae gan bob un ohonon nhw eu problemau a’u heriau personol. Mae angen siarad am y problemau yma a dyna pam dwi’n credu bod y bartneriaeth yma mor wych.”
Bydd LooseHeadz yn arwain y gwaith o ddatblygu cynnwys y cynllun, ei gyflwyno, ei weinyddu a’i adolygu. Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cyflwyno LooseHeadz i’r clybiau cymunedol, gwneud gwaith ymchwil yn y maes a datblygu cynnwys hefyd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan dîm Uniondeb yr Undeb. Byddan nhw hefyd yn cynnig mynediad at chwaraewyr a llysgenhadon allweddol. Bydd Looseheadz ac Undeb Rygbi Cymru’n ffurfio pwyllgor llywio ar y cyd a bydd cyfarfodydd chwarterol yn cael eu trefnu i oruchwylio’r cydweithrediad a’r cynnydd.
Os oes gan aelodau o’r cyfryngau a’r wasg ddiddordeb mewn rhoi sylw i’r cyhoeddiad yma neu drefnu cyfweliad, gysylltu â luke@squareintheair.com.
