News

Tîm dan 19 Cymru yn paratoi i herio Lloegr yng Nghlwb Rygbi Dings

Richard Whiffin
Richard Whiffin

Yn dilyn perfformiad hynod galonogol yn erbyn Ffrainc yn Sain Helen, bydd tîm o dan 19 Cymru yn wynebu Lloegr ym Mharc Shaftesbury, cartref Clwb Rygbi Dings Crusaders, ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr (cic gyntaf am 2pm).

Bydd mynediad am ddim i’r gêm.

Bydd Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin, yn arwain carfan sy’n llawn hyder yn dilyn eu buddugoliaeth o 34-31 dros Ffrainc yn Abertawe.

Dywedodd Richard Whiffin: “Mae pob gêm yn erbyn Lloegr yn creu diddordeb mawr ac yn cyflymu curiad calon pob Cymro.

“Mae’r elfen gystadleuol rhwng y ddwy wlad yn ychwanegu at bwysigrwydd yr achlysur, ac mae’n cynnig y cyfle perffaith i’r chwaraewyr brofi eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol yn erbyn gwrthwynebwyr cyfarwydd.”

Bydd Cymru’n awyddus i adeiladu ar eu perfformiad ail hanner ardderchog yn erbyn Ffrainc a pharhau gyda’r momentwm a’r hyder y mae’r canlyniad hwnnw wedi ei roi i’r holl garfan. Bydd y Cymry ifanc yn naturiol yn gobeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn y Ffrancod a pharhau eu datblygiad cyffrous o dan adain ac arweiniad Richard Whiffin:

“Mae gwisgo crys Cymru yn brofiad arbennig i bob un chwaraewr sy’n cael y fraint o wneud hynny – ac felly mae’n bwysig bod y bechgyn yn achub ar eu cyfle pan ddaw hwnnw i’w rhan.

“Mae’r gemau paratodaol yma’n bwysig ac yn gyfle i’r bechgyn greu argraff ar y staff hyfforddi wrth i ni edrych ymlaen at bencampwriaethau’r dyfodol.

“Mae’r Chwe Gwlad ar y gorwel ac mae pob gêm ryngwladol o dan 19 yn bwysig yn natblygiad chwaraewyr sydd â’u bryd ar gynrychioli’r prif dîm cenedlaethol yn y dyfodol.

“Yn ogystal â’r gemau eu hunain mae’r bechgyn yn dysgu am ofynion rygbi rhyngwladol oddi ar y cae ac mae hynny’n arbennig o bwysig hefyd.

“Mae’r gemau yma’n cynnig y cyfle i bob un o’r chwaraewyr ddal sylw’r hyfforddwyr a symud ymlaen at gam nesaf eu siwrnai rygbi.”

Related Topics