Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Awstralia yn Stadiwm Principality yn chweched rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, (20:10).
Prynwch eich tocynnau nawr i brofi a rhannu gwefr Stadiwm Principality.
Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol gurodd Seland Newydd o 35-28 yn y bumed rownd o gemau’r Sadwrn diwethaf.
Yn y rheng ôl, mae Aaron Wainwright yn dychwelyd o anaf i ddechrau yn safle’r wythwr. Mae Alex Mann wedi’i ddewis yn flaen-asgellwr ochr dywyll, ac mae Jac Morgan yn parhau ar yr ochr agored.
Bydd Ben Carter yn dechrau yn yr ail reng gyda Dafydd Jenkins.
Ymysg yr olwyr, mae un newid, gyda Josh Adams yn dychwelyd i’r asgell.
Ymhlith yr eilyddion, mae Kane James ar fin chwarae ei gêm gartref gyntaf dros Gymru, ar ôl iddo ennill ei gap cyntaf yn Ariannin yn ail rownd o gemau’r gystadleuaeth dros yr haf.
Dywedodd Steve Tandy: “Roedden ni gyd mor falch ein bod wedi llwyddo i greu tipyn o hanes y penwythnos diwethaf. Mae’r wythnos yma’n cynnig cyfle a her arall i ni wrth i ni wynebu Awstralia ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld os allwn ni berfformio gystal yr wythnos hon hefyd.
“Dyma’n gêm gartref olaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae’r gefnogaeth ry’n ni wedi ei derbyn yn ein gemau cartref wedi bod yn wych ac mae’r chwaraewyr a’r staff yn gwerthfawrogi hynny’n fawr. Mae pawb yn awchu i fynd yn ôl i Stadiwm Principality y penwythnos yma.”
Yn dilyn gêm nos Sadwrn, bydd safle terfynol Cymru yn nhabl Hemisffer y Gogledd yn cael ei gadarnhau, ynghyd â’u gwrthwynebwyr ar gyfer Penwythnos y Rowndiau Terfynol.
Bydd chwe gêm yn cael eu cynnal dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham, lle bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu i sicrhau eu safle terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae’n bwysig cofio hefyd bod pob gwlad yn ennill pwyntiau dros eu Hemisffer eu hunain – ac felly erbyn diwedd y penwythnos terfynol byddwn yn gwybod os mai Hemisffer y De neu’r Gogledd sydd gryfaf.
Mae Jarrod Evans wedi cael ei alw i garfan ehangach Cymru ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Cenhedloedd eleni wedi i Dan Edwards ddioddef anaf i’w bigwrn wrth ymarfer yr wythnos hon.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia yn Stadiwm Principality
Ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, am 20:10. Yn fyw ar S4C ac ITV
15. Blair Murray (Scarlets – 21 cap)
14. Louis Rees-Zammit (Bryste – 45 cap)
13. Eddie James (Scarlets – 13 chap)
12. Max Llewellyn (Caerloyw – 15 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 74 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 24 cap)
9. Tomos Williams (Saraseniaid – 77 cap)
1. Nicky Smith (Sale – 68 cap)
2. Dewi Lake (Caerloyw – 36 chap) Capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 18 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 33 chap)
5. Ben Carter (Dreigiau – 23 chap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 19 cap)
7. Jac Morgan (Caerloyw – 29 cap)
8. Aaron Wainwright (Caerlŷr – 71 cap)
Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 53 chap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 45 cap)
18. Dillon Lewis (Dreigiau – 61 cap)
19. Taine Plumtree (Scarlets – 16 chap)
20. Kane James (Caerwysg – 1 cap)
21. Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 4 cap)
22. Joe Hawkins (Scarlets – 14 cap)
23. Louie Hennessey (Caerfaddon – 2 gap)

