Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod un o wir arwyr rygbi menywod Cymru, Elinor Snowsill, wedi’i phenodi’n Brif Hyfforddwr Brython Thunder.
Bydd cyn-faswr Cymru yn cymryd lle Ashley Beck, sydd wedi symud i hyfforddi olwyr y garfan genedlaethol.
Bellach, bydd gan Gymru ddwy gyn-chwaraewraig ryngwladol, Snowsill a Catrina Nicholas McLaughlin, yn brif hyfforddwyr yn yr Her Geltaidd – sydd ond un cam yn unig o’r prif lwyfan rhynwladol.
Gwnaeth Snowsill ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 2009 ac aeth ymlaen i ennill 76 o gapiau dros ei gwlad cyn iddi ymddeol ym mis Awst 2023.
Wedi hynny, dechreuodd weithio ym maes hyfforddi a derbyniodd rôl arweinyddol yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr Dwyrain Cymru, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bu hefyd yn helpu’r Undeb i adnabod a datblygu cenhedlaeth nesaf o chwaraewyr Cymru.
Chwaraeodd Snowsill ran allweddol hefyd gyda thîm dan 18 oed Cymru fel hyfforddwr ymosod. Mae hi felly mewn sefyllfa ddelfrydol i adnabod a meithrin doniau disglair merched ifanc Cymru trwy raglenni’r llwybrau datblygu.
Roedd ‘Snowy’ yn un o’r 12 menyw gyntaf i gael cynnig cytundeb proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022.
Dywedodd Elinor Snowsill, cyn-faswr Cymru a Phrif Hyfforddwr Brython Thunder: “Mae’r cyfle i hyfforddi ar y lefel yma, gyda’r talent sy’n dod drwodd ar hyn o bryd, yn rhywbeth sy’n fy nghyffroi’n fawr.
“Dwi wedi mwynhau’r newid o fod yn chwaraewr i fod yn hyfforddwr yn arw, ac mae’r tair blynedd dreuliais i yn arwain Canolfan Datblygu Chwaraewyr yr Undeb ym Met Caerdydd wedi bod yn hollbwysig i fy natblygiad fel hyfforddwr.
“Dwi’n benderfynol iawn o greu amgylcheddau sy’n galluogi athletwyr benywaidd i ffynnu fel unigolion, datblygu fel chwaraewyr a thyfu fel arweinwyr hefyd.
“Dwi’n gwybod yn iawn y bydd hwn yn gam mawr ymlaen, ond dwi’n barod am yr her. Fe fyddaf yn defnyddio’r un egwyddorion o wella a gwneud y mwyaf o bob cyfle – fel y gwnes i pan o’n i’n chwarae.
“Mae Ashley Beck, ei hyfforddwyr, y staff a’r garfan wedi gwneud gwaith gwych yn meithrin diwylliant arbennig yn Brython Thunder dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n glwb sy’n dathlu gwahaniaethau unigolion – ond maen nhw hefyd wedi sefydlu arddull uchelgeisiol o rygbi ymosodol. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar hynny.
“Dwi wedi llwyddo i feithrin perthynas dda â llawer o’r garfan yn barod gan fy mod i wedi chwarae gyda rhai o’r merched hŷn ac wedi hyfforddi nifer o’r rhai iau yn y ganolfan ym Met Caerdydd neu gyda’r tîm o dan 18.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r grŵp talentog yma o chwaraewyr rhyngwladol profiadol, a’r talentau ifanc ac addawol sy’n aelodau o’r garfan hefyd.
“Fe gefais 12 mlynedd o brofiad yn chwarae dros y bont yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac felly dwi’n gwybod y bydd yn rhaid i ni greu awyrgylch arbennig a safonol iawn yma, fel y gallwn ni ddenu rhai o’n prif dalentau yn ôl i Gymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”
Dywedodd Siwan Lillicrap, Pennaeth Hyfforddi a Datblygu Menywod Undeb Rygbi Cymru: “Mae gan ‘Snowy’ enw da a pharch mawr yn y byd rygbi ac mae cael chwaraewr rhyngwladol arall wrth y llyw i ni’n yr Her Geltaidd yn ddatblygiad cyffrous iawn.
“Mae El wedi creu argraff fawr yn ystod ei thair blynedd gyda Chanolfan y Dwyrain a gyda thîm dan 18 oed Cymru hefyd wrth gwrs. Mae hi wastad yn gosod safonau uchel i’w hun a phawb o’i chwmpas. Mae hi eisiau gwella pethau ymhellach dro ar ôl tro.
“Mae Elinor hefyd yn hyfforddwr arloesol, a does gennnyf ddim amheuaeth y bydd hi’n adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd eisoes wedi ei wneud yn Brython.
“Mae hi wedi gwneud gymaint o gyfraniad i rygbi menywod yng Nghymru’n barod ac mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn datblygu doniau’r dyfodol gyda Brython Thunder.
“Mae ei hymrwymiad, ei hangerdd a’i dylanwad wedi bod yn amlwg drwy gydol ei gyrfa fel chwaraewr ac fel hyfforddwr hyd yn hyn – ac mae ei phenodiad yn un rhagorol a hynod gyffrous.”
