News

Rheng Flaen Pont-y-pŵl yn hawlio’u lle yn Oriel Anfarwolion World Rugby

Graham Price, Bobby WIndsor and Charlie Faulkner
Graham Price, Bobby Windsor a Charlie Faulkner

Cafodd rheng flaen chwedlonol Pont-y-pŵl, sef Charlie Faulkner, Bobby Windsor a Graham Price, eu hanrhydeddu nos Sadwrn fel y cyntaf o saith o gewri’r gamp i gael eu derbyn i Oriel Anfarwolion World Rugby.

Bydd World Rugby yn croesawu saith o wir gewri’r byd rygbi i Oriel eu Hanfarwolion yn ystod y misoedd nesaf.

Ers ei sefydlu yn 2006, mae bron i 200 o bobl bellach wedi eu derbyn i’r Oriel. Bydd y thema newydd o ‘Gewri’r Gorffennol’ yn cydnabod rhai a wnaeth gyfraniad eithriadol i’r gêm hyd at y 1970au.

Y cyntaf i gael eu sefydlu o dan y thema newydd yma oedd trindod Rheng Flaen Pont-y-pŵl, sef Faulkner, Windsor a Price. Fe dderbynion nhw eu ‘capiau’ gan Gadeirydd Pwyllgor Oriel Anfarwolion World Rugby, John Eales, cyn y gêm nos Sadwrn rhwng Cymru ac Awstralia ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.

Chwaraeodd y tri gyda’i gilydd yn y rheng flaen dros Bont-y-pŵl, Sir Fynwy, Cymru a’r Llewod. Buodd y tri yn amlwg iawn yn ystod ymgyrchoedd Cymru i sicrhau’r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad ym 1976 a 1978, ac fe deithion nhw gyda’i gilydd i Seland Newydd gyda’r Llewod ym 1977 hefyd.

Bydd Hector Silva, chwaraeodd dros dîm cenedlaethol Ariannin ac a fu’n hyfforddi’r tîm hefyd, yn cael ei gyflwyno i’r Oriel yn dilyn ei farwolaeth. Bydd y seremoni benodol honno’n digwydd yng nghinio blynyddol Undeb Rygbi Ariannin ar 14 Rhagfyr.

Yn ogystal, bydd tri chawr arall – Paul Roos (De Affrica), Blair ‘Paddy’ Mayne (Iwerddon) a Bob Scott (Seland Newydd) – yn cael eu hanrhydeddu mewn cyflwyniadau preifat i aelodau o’u teuluoedd dros y misoedd nesaf.

Mae Roos yn cael ei ystyried fel ‘Tad rygbi’r Springboks’. Ef oedd capten tîm cyntaf De Affrica i deithio i Brydain, Ffrainc ac Iwerddon – taith sefydlodd hunaniaeth y Springboks i raddau helaeth.

Cafodd Mayne ei ddisgrifio fel un o’r blaenwyr gorau i wynebu De Affrica yn ystod taith y Llewod ym 1938, tra bod Scott yn cael ei ystyried yn un o’r cefnwyr gorau erioed yn hanes y gêm. Roedd yn darllen y gêm yn wych, roedd ganddo allu rhyfeddol i gario’r bêl ac roedd yn berfformiwr campus o dan bwysau yn ôl gwybodusion y cyfnod.

Dywedodd Cadeirydd World Rugby, Brett Robinson:

“Mae gan rygbi hanes hynod gyfoethog, sydd wedi’i adeiladu ar lwyddiannau ar y maes a phersonoliaethau’r rhai hynny sydd wedi datblygu’r gêm o un genhedlaeth i’r nesaf. Mae’r saith cawr yma o’n camp yn rhan o’r hanes hwnnw – unigolion rhyfeddol sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol dros y blynyddoedd. Mae eu cymeriadau cryf a’u dylanwad mawr wedi helpu i lunio’r gêm rydym yn ei hadnabod heddiw.

“Mae’n ‘Cewri o’r Gorffennol’ yn sefyll yn falch, ysgwydd yn ysgwydd â’r ‘Cewri Cyfoes’ sefydlwyd gennym yn gynharach eleni. Mae hi mor bwysig ein bod yn cydnabod arloeswyr y gorffennol a’r rhai sydd, yn fwy diweddar, wedi ysbrydoli chwaraewyr a chefnogwyr ledled y byd.”

Dywedodd John Eales, Cadeirydd Panel Oriel yr Anfarwolion ac aelod o’r Oriel ei hun:

“Mae’r thema newydd yma o ‘Gewri’r Gorffennol’ yn cydnabod cyfraniad arloesol y chwaraewyr arbennig yma. Mae eu derbyn i Oriel Anfarwolion World Rugby yn sicrhau y caiff eu cyfraniad ei gydnabod, ei ddathlu a’i gofio am genedlaethau i ddod.

“Ry’n ni’n cyfeirio’n aml at y ffaith bod rygbi’n gêm i dîm cyfan. Ac eto, o fewn pob tîm, mae nifer o unedau sydd wedi tyfu i fod yn rhan o chwedloniaeth y gamp. Roedd Rheng Flaen Pont-y-pŵl, yn un o’r unedau arbennig hynny. Wrth gyd-chwarae mewn nifer o dimau gwych fel Pont-y-pŵl, Cymru a’r Llewod, roedd Graham Price, Bobby Windsor a Charlie Faulkner yn sefyll allan fel unigolion ond hefyd yn rhagori fel uned unigryw.”

Bydd y rhai fydd yn cael eu derbyn yn ‘Gewri’r Gorffennol’ yn cael eu hanrhydeddu ochr yn ochr â’r ‘Cewri Cyfoes’ bob blwyddyn. Mae aelodau newydd 2026 yn cynnwys Joel Stransky (De Affrica), Zinzan Brooke (Seland Newydd), Sue Day (Lloegr), Jen Crawford (UDA), Rochelle Martin (Seland Newydd), Diego Dominguez (Yr Eidal) ac Abdelatif Benazzi (Ffrainc).

Mae manylion am y rhai sydd wedi’u dewis ar gael ar wefan Oriel Anfarwolion World Rugby.

Rhestr aelodau newydd Oriel Anfarwolion World Rugby 2026

Rhif 183 – Paul Roos (De Affrica)
Rhif 184 – Blair ‘Paddy’ Mayne (Iwerddon)
Rhif 185 – Bob Scott (Seland Newydd)
Rhif 186 – Hector Silva (Ariannin)
Rhif 187 – Charlie Faulkner, Rheng Flaen Pont-y-pŵl (Cymru / Llewod)
Rhif 188 – Bobby Windsor, Rheng Flaen Pont-y-pŵl (Cymru / Llewod)
Rhif 189 – Graham Price, Rheng Flaen Pont-y-pŵl (Cymru / Llewod)

Cynrychiolwyr blaenorol Cymru yn Oriel Anfarwolion World Rugby

Phil Bennett
Liza Burgess
Clwb Rygbi Caerdydd
Syr Gerald Davies
Mervyn Davies
John Dawes
Syr Gareth Edwards
Ieuan Evans
Arthur Gould
Frank Hancock
Carwyn James
Barry John
Jack Matthews
Cliff Morgan
Gwyn Nicholls
Keith Rowlands
Bleddyn Williams
Johnnie Williams

Related Topics