News

Prynhawn pwysig yng Mhencampwriaeth yr Ysgolion a'r Colegau

Fe wynebodd Glantaf a'r Cymoedd ei gilydd yn y ffeinal y tymor diwethaf

Mae hi’n amser tyngedfennol ym Mhencampwriaeth dan 18 yr Ysgolion a’r Colegau heddiw (ddydd Mercher, 4 Tachwedd), wrth i’r pedwar tîm sydd ar frig y ddwy adran wahanol wynebu ei gilydd.

Yng Nghaerdydd, mae pencampwyr presennol Adran A, Glantaf, yn croesawu’r tîm y gwnaethon nhw eu trechu yn rownd derfynol y llynedd, sef Coleg y Cymoedd, i weld pwy all ymestyn eu rhediad diguro i bum gêm. Yn y cyfamser, yn Adran B, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn croesawu Ysgol Uwchradd Casnewydd.

Paratôdd Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer y gornest fawr yn erbyn tîm Rob Sidoli, Ysgol Uwchradd Casnewydd, drwy guro Coleg Castell-nedd a Phort Talbot 55-0 yn eu gêm ddiwethaf. Yn eu gornest ddiwethaf nhw fe enillodd Casnewydd yn gyfforddus o 66-19 gartref yn erbyn Ysgol Dyffryn Aman.

Bydd pwy bynnag sy’n dod i’r brig yn cymryd cam enfawr tuag at gipio’r teitl, er y byddan nhw’n cyfarfod ei gilydd eto yn rownd olaf y gemau ar 9 Rhagfyr yng Nghasnewydd.

Cafodd nifer o chwaraewyr Glantaf a Choleg y Cymoedd eu galw i garfan dan 18 oed Cymru yr wythnos ddiwethaf, ond bydd unrhyw gyfeillgarwch yn cael ei roi i’r neilltu y prynhawn yma.

Mae’r Cymoedd wedi colli’r ddwy rownd derfynol ddiwethaf ac yn awyddus I newid y drefn honno eleni. Llwyddodd Glantaf i ennill y teitl am y tro cyntaf y llynedd, yn eu hail ymddangosiad yn y rownd derfynol.

Curodd y Pencampwyr Goleg Penybont yn gyfforddus o 39-15 yn y rownd ddiwethaf o gemau, tra enillodd y Cymoedd 59-24 yn erbyn Coleg Sir Gâr.

Adran A – GEMAU’R BUMED ROWND

Ddydd Mercher, 04 Tachwedd

Coleg Penybont v Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Gwent v Coleg Llandrillo
Coleg Sir Gâr v Coleg Llanymddyfri
Ysgol Glantaf v Coleg y Cymoedd

CANLYNIADAU’R ROWND GYNTAF

Coleg Gwent 0 – 19 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Llandrillo 26 – 37 Coleg y Cymoedd
Coleg Sir Gâr 27 – 26 Coleg Penybont
Ysgol Glantaf 38 – 35 Coleg Llanymddyfri

CANLYNIADAU’R AIL ROWND

Coleg Penybont 52 – 21 Coleg Gwent
Coleg Sir Gâr 14 – 49 Ysgol Glantaf
Coleg y Cymoedd 29 – 24 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Llanymddyfri 24 – 7 Coleg Llandrillo

CANLYNIADAU’R DRYDEDD ROWND

Coleg Penybont 19 – 38 Coleg y Cymoedd
Coleg Gwent 12 – 35 Ysgol Glantaf
Coleg Llandrillo 20 – 28 Coleg Sir Gâr
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 30 – 35 Coleg Llanymddyfri

CANLYNIADAU’R BEDWAREDD ROWND

Coleg y Cymoedd 59 – 24 Coleg Sir Gâr
Ysgol Glantaf 39 – 15 Coleg Penybont
Coleg Llanymddyfri 38 – 12 Coleg Gwent
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 29 – 26 Coleg Llandrillo

Adran B – GEMAU’R BUMED ROWND

Ddydd Mercher, 04 Tachwedd

Coleg Caerdydd a’r Fro v Ysgol Uwchradd Casnewydd
Ysgol Dyffryn Aman v Coleg Gŵyr
Ysgol Ystalyfera v Coleg Castell-nedd a Phort Talbot

CANLYNIADAU’R ROWND GYNTAF

Coleg Caerdydd a’r Fro 34 – 23 Ysgol Ystalyfera
Ysgol Dyffryn Aman 29 – 37 Coleg Castell-nedd a Phort Talbot
Ysgol Uwchradd Casnewydd 34 – 23 Coleg Gŵyr

CANLYNIADAU’R AIL ROWND

Coleg Caerdydd a’r Fro 57 – 10 Ysgol Dyffryn Aman
Coleg Castell-nedd a Phort Talbot 0 – 39 Coleg Gŵyr
Ysgol Ystalyfera 17 – 43 Ysgol Uwchradd Casnewydd

CANLYNIADAU’R DRYDEDD ROWND

Coleg Gŵyr 14 – 33 Coleg Caerdydd a’r Fro
Ysgol Uwchradd Casnewydd 76 – 12 Coleg Castell-nedd a Phort Talbot
Ysgol Dyffryn Aman 27 – 29 Ysgol Ystalyfera

CANLYNIADAU’R BEDWAREDD ROWND

Coleg Gŵyr 38 – 17 Ysgol Ystalyfera
Ysgol Uwchradd Casnewydd 66 – 19 Ysgol Dyffryn Aman
Coleg Castell-nedd a Phort Talbot 0 – 55 Coleg Caerdydd a’r Fro

 

Related Topics