Perfformiwyd Haka Māori eiconig ar do Stadiwm Principality fel rhan o ddathliadau’r cysylltiadau rygbi dwfn rhwng Cymru a Seland Newydd cyn Cyfres y Cenhedloedd yr Hydref.
Roedd saith perfformiwr sydd â chysylltiadau â Seland Newydd a Chymru yn perfformio’r Haka byd-enwog Ka Mate o do’r stadiwm genedlaethol, gan greu teyrnged bwerus a thrawiadol i’r berthynas rhwng y ddwy wlad.

Haka Performers
BACK ROW
– Reuben Olsthoorn – Rhain Strang – David Jones – Jake Robinson
FRONT ROW
– Nathan Ngaropo – Wiremu Allen – Matau Te Aika-Puanaki
Mae treftadaeth gyfoethog yn bodoli rhwng Cymru a’r Crysau Duon. Bu enghraifft gynnar ac amlwg o hynny ar daith Seland Newydd i Gymru ym 1905, pan ymatebodd chwaraewyr Cymru, gyda chefnogaeth y dorf ym Mharc yr Arfau, i’r Haka drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau. Fe arweiniodd hynny at sefydlu’r traddodiad o ganu anthemau cenedlaethol cyn gemau chwaraeon – arferiad sy’n parhau ledled y byd hyd heddiw wrth gwrs.
Mae’r digwyddiad ar do Stadiwm Principality wedi’i seilio ar y thema “Calon Kiwi – Cymru yw’r Cartref”. Mae’n cydnabod bod nifer o chwaraewyr ddaeth yn wreiddiol o Seland Newydd bellach wedi bwrw gwreiddiau yma yng Nghymru ac mae’r digwyddiad hefyd yn dathlu’r cwlwm parhaol sy’n bodoli rhwng y ddwy genedl rygbi falch yma.
Mae cynnal yr Haka ar y to wedi derbyn cefnogaeth David Jones, Prif Weithredwr Haka International, sy’n arweinydd Māori balch ond sydd hefyd â threftadaeth Gymreig. Mae’n ymgynghorydd diwylliannol sy’n sicrhau bod yr Haka yn cael ei pherfformio’n gywir ac yn barchus.
“Rydyn ni yma ar dir cysegredig,” meddai David. “Mae gen i dras Gymreig a Seland Newydd. Wrth feddwl am 1905, pan berfformiwyd yr haka yma ac yr atebodd y Cymry drwy ganu anthem genedlaethol Cymru, roedd hi’n gyfarfod rhwng dau ddiwylliant gwych.
“I mi, yr elfen ddiwylliannol sy’n ein cysylltu â phobl y wlad. A minnau ar yr ochr yma o’r byd, yn byw yn y DU bellach, mae rygbi’n gyfrwng sy’n ein galluogi i ailgysylltu â’n cartref.
“Heddiw, fe berfformion ni Ka Mate, yr haka a berfformiwyd yma yn 1905. Roedd hi’n foment hanesyddol. Mae’n beth mor ostyngedig, ac yn anrhydedd mawr, cael perfformio’r haka hon eto yn y lle hwn.”
Bydd Cymru’n wynebu’r Crysau Duon ddydd Sadwrn 14 Tachwedd. Mae tocynnau ar gyfer holl gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd yr Hydref ar werth nawr, gyda’r prisiau’n dechrau am £13.50 i rai dan 18 oed a £26 i oedolion, drwy wru.wales/tickets
