News

Penwythnos cyffrous arall yn Super Rygbi Caerdydd cyn egwyl o bythefnos

Profodd cic hwyr Rhys Cummings yn allweddol i Gaerdydd

Mae Caerdydd yn parhau i arwain y ffordd yn Super Rygbi Cymru ar ôl taro’n ôl i guro Glyn Ebwy o 32-29 yng ngêm fawr y penwythnos yn y cynghrair.

Cadwodd y cefnwr Rhys Cummings ei nerfau wrth drosi’r gic gosb allweddol yn y 77ain munud, gan hefyd sicrhau’r dwbl dros Wŷr y Dur yn Super Rygbi Cymru y tymor hwn.

Hon oedd seithfed buddugoliaeth bechgyn y Brifddinas o’u hwyth gêm gynghrair eleni ond roedd yn rhaid i garfan Dan Fish ddangos eu dycnwch i gipio’r fuddugoliaeth hwyr hon.

Yr asgellwyr Dewi Cross a Joe Goodchild – ar achlysur ei 100fed ymddangosiad – y bachwr Ethan Coombes, yr wythwr Ben Fry a’r blaen-asgellwr Alfie Prygodzicz oedd sgorwyr y ceisiau i Gaerdydd. Fe lwyddodd Ben Coomer i gicio dau drosiad.

Roedd wythwr yr ymwelwyr Ryan Jenkins wedi sgorio tri chais yn yr hanner ac fe hawlodd yr eilydd o fewnwr Jon Evans gais wedi troi.

Ciciodd Tom Howard ddau drosiad a chic gosb, tra trosodd Dorian Jones gais Evans i ddod â Glyn Ebwy yn ôl yn gyfartal ar 29-29. Yn y pendraw bu’n rhaid iddyn nhw fodloni ar ddau bwynt bonws am eu hymdrechion.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Caerdydd, Dan Fish: “Er ein bod wedi dechrau’n araf – a bod Glyn Ebwy wedi sgorio 22 pwynt – ro’n i’n meddwl ein bod wedi rheoli’r gêm yn dda iawn ar y cyfan ond fe wnaethon ni rai penderfyniadau’n rhy frysiog yn y 22 yn rhy aml.

“Roedden ni’n rhwystredig ar yr egwyl ond roedden ni’n gwybod y gallen ni daro’n ôl. Yn yr ail hanner fe reolon ni’r gêm, creu llawer o gyfleoedd a manteisio’n dda ar y rheiny ar y cyfan hefyd.

“Roedd symudiad olaf y gêm yn crynhoi popeth am ein hagwedd wrth i ni eu gwthio’n ôl dro ar ôl tro. Roedd ein disgyblaeth yn rhagorol, ac mae ennill wedi i ni fod ar ei hôl hi o 22-7 ar un cyfnod yn glod enfawr i’r chwaraewyr.”

Roedd Pencampwyr y tymor diwethaf, Llanymddyfri ar ei hôl hi yn Aberafan am gyfnod dros y penwythnos hefyd cyn iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth gyda phwynt bonws o  27-17 am eu hymdrechion yng nghartref y tîm sy’n parhau ar waelod y tabl ar hyn o bryd.

Roedd ceisiau hanner cyntaf gan yr asgellwr Corum Nott, y mewnwr Scott Whitlock a’r bachwr Luke Davies – ar achlysur ei 200fed ymddangosiad dros Aberafan – wedi rhoi’r Dewiniaid ar y blaen o 17-5.

Trosodd Charlie Thomas gais Whitlock, ond dyna oedd uchafbwynt diwrnod tîm Chris Davies, sydd bellach wedi colli saith gêm yn olynol. Ar ôl cais cynharach gan y canolwr Adam Warren, sgoriodd cefnwr y Porthmyn Tomi Lewis ail gais yr ymwelwyr cyn yr egwyl  i gau’r bwlch i 17-10.

Yna sgoriodd Llanymddyfri 17 pwynt heb ymateb yn yr ail hanner er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth. Croesoddodd yr asgellwr Aaron Warren a’r canolwr Gryff Watkins eto i’r Porthmyn, tra ychwanegodd Sam Potter a Tom Hughes drosiad yr un cyn i Hughes lwyddo gyda chic gosb hwyr.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Llanymddyfri, Euros Evans: “Roedd hi’n bwysig gorffen y bloc cyntaf o gemau gyda buddugoliaeth.

“Doedd hwn ddim yn berfformiad arbennig o dda ganddon ni, ac fe wnaethon ni ormod o gamgymeriadau fel yr oedd y ffaith ein bod 7 pwynt ar ei hôl hi wrth droi’n ei awgrymu.

“Fe wnaethon ein heilyddion wahaniaeth gwirioneddol, a llwyddon ni i fynd ar y blaen a dal ati am y fuddugoliaeth.

“Ry’n ni’n gwybod bod llawer o waith o’n blaenau, ond o ystyried nifer yr anafiadau a’r newidiadau ry’n ni wedi gorfod eu gwneud i’r garfan, mae wedi bod yn braf gweld y chwaraewyr ifanc sydd wedi cael eu cyfle yn parhau i ddatblygu.

“Ry’n ni hefyd yn dechrau adeiladu mwy o ddyfnder yn y garfan, ac mae hynny’n beth cadarnhaol iawn wrth symud ymlaen.”

Talodd Rygbi Gogledd Cymru deyrnged deimladwy a pharchus i’w cyn-chwaraewr Jack Davies cyn cofnodi buddugoliaeth arbennig o 49-19 dros Bont-y-pŵl ar ddiwrnod emosiynol ym Mharc Eirias.

O’r herwydd mae record gartref ddiguro’r Gogleddwyr yn parhau.

Roedd y ‘Gogs’ ar y blaen 28-0 wedi dim ond hanner awr o chwarae o ganlyniad i geisiau  y prop Gareth Parry, y cefnwr Dion Jones, yr asgellwr Sam Jones a’r canolwr Delwyn Jones, gyda Billy McBryde yn trosi pob un.

Tarodd y blaen-asgellwr Ben Williams yn ôl i Bont-y-pŵl cyn yr egwyl, gyda Kieran Meek yn trosi. Ond chwalwyd gobeithion yr ymwelwyr yn fuan wedi troi pan ychwanegodd y bachwr Osian Burt a’r mewnwr Tudur Jones geisiau pellach i RGC. Trosodd McBryde y ddau gais hwnnw hefyd i’w gwneud hi’n 42-7.

Croesodd Marcus Jones a Jake Sheppard eto i Bont-y-pŵl y naill ochr a’r llall i ail gais Sam Jones – wrth iddo hawlio seithfed cais Rygbi Gogledd Cymru o’r prynhawn. Ychwanegodd McBryde y pwyntiau ychwanegol unwaith eto.

Llwyddodd Abertawe i sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn olynol ar Sain Helen wrth drechu Pen-y-bont o 32-19. Roedd y Gwynion 19-8 ar ei hôl hi ar yr egwyl – cyn iddyn nhw reoli’r ail gyfnod.

Sgoriodd Abertawe’n gyntaf o ganlyniad i gic gosb gan y cefnwr Josh Phillips a chais gan yr Hyfforddwr-chwaraewr Joe Thomas, ond ymatebodd Pen-y-bont gyda cheisiau gan yr asgellwr Mccauley Rowley, yr wythwr Ioan Davies a’r clo James Richards. Llwyddodd Ben Burnell i drosi dau o’r rheiny.

Dangoswyd cerdyn coch 20 munud i ganolwr Abertawe, Callum Carson, ar ôl hanner awr o chwarae am rycio peryglus, gan adael y tîm cartref gyda 14 o chwaraewyr am 20 munud.

Daeth Luke Price i’r maes yn ei le gyda hanner awr yn weddill pan ddaeth y cyfnod cosb o 20 munud i ben ac heb amheuaeth Abertawe reolodd yr ail hanner. Fe sgorion nhw 24 pwynt heb ymaateb wedi troi i sicrhau’r fuddugoliaeth bwysig hon.

Sgoriodd y mewnwr Kai Inker ddwywaith, a’r blaen-asgellwyr Sam Morgan a Callum Bowden gafodd y ddau gais arall. Ciciodd y maswr Luke Scully ddau o’r tri throsiad hwnnw.

Llwyddodd Casnewydd i ennill o drwch blewyn (21-19) ar Barc Caerfyrddin sy’n golygu eu bod yn y trydydd safle cyn egwyl o bythefnos yng nghemau’r Cynghrair.

Sgoriodd y ddau dîm dri chais yr un – ond y ffaith i’r ymwelwyr drosi eu tri chais nhw brofodd yn allweddol yn y pendraw.

Y canolwr Joe Salter, y blaen-asgellwr Josh Skinner a’r eilydd Gethyn Cannon hawliodd geisiau’r ymwelwyr – ac yn allweddol troswyd y tri gan y maswr Llew O’Brien.

Tarodd y Cwins yn ôl deirgwaith trwy geisiau’r wythwr Lewys Millin, y bachwr Lewis Morgan a’r asgellwr Tom Williams.

Er i Madoc Evans drosi’r ddau gais cyntaf – methodd gyda’i drydydd cynnig olygodd mai’r ymwelwyr oedd yn dathlu ar y chwiban olaf. Yr unig gysur i Gaerfyrddin oedd y ffaith iddyn nhw sicrhau pwynt bonws am eu hymdrechion glew.

Related Topics