News

Parti i’r Porthmyn a dyfodol disglair i Dom Kossuth

Dom Kossuth yn cynrychioli Cymru dan 20 yn gynharach eleni

CAERDYDD 26-44 LLANYMDDYFRI

Mae’r dyfodol yn ddisglair i Dom Kossuth, blaen-asgellwr y Scarlets a thîm dan 20 Cymru, yn ôl Prif Hyfforddwr y Porthmyn, Euros Evans.

Dangosodd y chwaraewr 19 oed o Gydweli ei addewid pendant unwaith eto dros y penwythnos wrth iddo sgorio dau gais ym muddugoliaeth nodedig Llanymddyfri yn y Brifddinas.

Caerdydd oedd ar frig Super Rygbi Cymru – tan i berfformiad Kossuth a’i gyd-orllewinwyr hawlio’r fuddugoliaeth ar Barc yr Arfau.

Dywedodd Euros Evans: “Mae gan Dom yr holl rinweddau a’r sgiliau i fynd yn bell yn y gêm. Mae wedi dioddef o anafiadau ers iddo fod yn 16 oed, ond nawr ei fod yn holliach mae’n dangos gymaint o botensial sydd ganddo.

“Mae’n athletwr gwych ac mae’n cario’r bêl yn bwerus. Mae e’ hefyd yn gwybod ble mae’r llinell gais.

Gobeithio y gall barhau’n holliach a dwi’n siwr y gwelwch e’ yng nghrys y Scarlets cyn hir.”

Roedd perfformiad campus Kossuth yn un o uchafbwyntiau buddugoliaeth Llanymddyfri a bydd Prif Hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi ei fodloni’n fawr hefyd gan bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y gorwel.

Roedd y Porthmyn wedi cael dechrau digon anghyson i’r tymor newydd – pedair buddugoliaeth a phedair colled yn eu hwyth gêm gyntaf. Ond, wedi saib o bythefnos, dangosodd yr ymwelwyr pam mai nhw yw’r Pencampwyr presennol.

Sgoriodd Llanymddyfri chwe chais i sicrhau’r chwe phwynt llawn – olygodd bod Caerdydd yn ildio’u record gartref berffaith y tymor hwn. Daeth pedwar o’r ceisiau hynny o fewn yr hanner awr cyntaf, ac o’r herwydd roedd gan y Porthmyn fantais o 30-7 ar yr egwyl.

Croesodd Kossuth, yr asgellwr Aaron Warren, yr wythwr Tiaan Sparrow a’r mewnwr George Macdonald y llinell gais yn ystod y cyfnod cyntaf.

Yna, dim ond 44 eiliad ar ôl yr ailddechrau – sgoriodd Kossuth ei ail gais o’r ornest yn dilyn rhediad grymus ganddo.

Ychwanegodd Warren ei ail gais ef o’r gêm wedi awr o chwarae, olygodd nad oedd unrhyw ffordd yn ôl i’r tîm cartref.

Mae Ioan Hughes bellach wedi cynrychioli Llanymddyfri 100 o weithiau

Roedd hi’n noson arbennig hefyd i’r maswr Ioan Hughes, oedd yn gwneud ei 100fed ymddangosiad dros glwb Llanymddyfri. Trosodd bedwar o’r chwe chais, yn ogystal â chicio dwy gic gosb.

Ychwanegodd Euros Evans: “Mae Ioan wedi chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiant dros y blynyddoedd ac mae’n dal i fod yn rhan bwysig o bopeth ry’n ni’n ei wneud.

“Mae’n chwaraewr cyflawn, yn hynod o ddewr ac yn dactegydd arbennig o dda sy’n darllen y gêm yn wych.

“Roedd yn deimlad braf ein bod wedi gallu ennill mor dda ar achlysur ei 100fed ymddangosiad, a gobeithio y bydd gyda ni am flynyddoedd lawer eto.”

Dim ond ail golled y tymor oedd hon i Gaerdydd, wedi iddyn nhw ennill saith o’u wyth gêm gyntaf.

Ar ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb, llwyddodd cyn-glo dan 20 Cymru a’r Harlequins, Jonny Green i sgorio cais yn ystod yr ail hanner.

Croesodd ei gyd-glo, Tom Cottle hefyd, ac fe hawliodd Ben Coomer gais yn yr ail gyfnod hefyd. Dewi Cross oedd yr unig un i groesi dros Gaerdydd yn ystod y deugain munud agoriadol.

Er i Lloyd Lucas drosi deirgwaith, roedd yn rhaid i Gaerdydd fodloni ar bwynt bonws yn unig – wrth i Lanymddyfri ei throi hi am adref gyda chwephwynt cynghrair yn eu meddiant.

Sgorwyr:

Caerdydd: Ceisiau: D Cross, J Green, T Cottle, B Coomer; Trosiadau: L Lucas 3.

Llanymddyfri: Ceisiau: D Kossuth 2, Aaron Warren 2, T Sparrow, G MacDonald; Trosiadau: I Hughes 4; Ciciau cosb: I Hughes 2.

Related Topics