Am y tro cyntaf ers 1953 a 34 o gemau, mae Cymru wedi llwyddo i guro Seland Newydd yn dilyn eu buddugoliaeth hanesyddol o 35-28 yn Stadiwm Principality.
Yn ystod y flwyddyn honno concrwyd mynydd Everest am y tro cyntaf – ond heddiw yng Nghaerdydd concrwyd y Crysau Duon gan y Crysau Cochion.
Dyma oedd y tro cyntaf erioed i Gymru sgorio 5 cais yn erbyn Seland Newydd – ond roedd eu hamddiffyn arwrol yn ystod chwarter olaf yr ornest hon yr un mor allweddol wrth sicrhau’r fuddugoliaeth chwedlonol hon.
Yn ystod yr 80 munud fe daclodd y Cymry eu gwrthwynebwyr bron i 350 o weithiau – sy’n adrodd cyfrolau.
Dechreuodd y Cymry ar wib yn ystod y ddau hanner – gan dirio ddwywaith o fewn 5 munud cyntaf y cyfnod cyntaf gan hefyd hawlio dau drosgais yn ystod 9 munud cyntaf yr ail hanner.
Tomos Williams agorodd y sgorio wedi munud a hanner yn unig o’r ornest ac fe lwyddodd Sam Costelow gyda’r cyntaf o’i bum trosiad perffaith.
Parhau wnaeth dechreuad ffrwydrol y Crysau Cochion wrth i Dewi Lake ymestyn dros y gwyngalch dim ond bedwar munud ar ôl cais Tomos Williams.
Llwyddodd y Crysau Duon i haneru mantais y tîm cartref bedwar munud wedi hynny, wrth i Cortez Ratima ddod o hyd i fwlch ar ochr y sgarmes, i dirio o dan y pyst.
Ciciodd Richie Mo’ounga’r pwyntiau ychwanegol gyda’i ymdrech gyntaf o’r prynhawn.
Ar ôl ugain munud o rygbi gwyllt a chyffrous gan y ddau dîm, Cymru hawliodd y sgôr nesaf wrth i Archie Griffin dirio am yr ail wythnos yn olynol.

Gyda chloc y cyfnod cyntaf eisoes wedi troi’n goch, penderfynodd y Cymry barhau gyda’r chwarae a cheisio ymestyn eu mantais – ond llwyddodd Seland Newydd i hawlio’r meddiant a symud o un pen y maes i’r llall.
Wrth i’r cloc ddangos dau funud a hanner wedi’r deugain, fe sgoriodd Fehi Fineanganofo ei gais cyntaf erioed dros Seland Newydd, wnaeth gwaith Mo’ounga o’i gwnud hi’n gyfartal ar yr egwyl yn syml iawn.
Hanner Amser: Cymru 21 Seland Newydd 21.
Er iddyn nhw ddioddef yr ergyd seicolegol o ildio’n hwyr yn yr hanner cyntaf – croesi am ddau gais cynnar wedi troi fu hanes y Cymry. Gwasgodd Eddie James i mewn i’r gornel chwith i sicrhau’r pwynt bonws i ddechrau ac yna chwe munud wedi hynny carlamodd Dewi Lake o fewn modfeddi at y llinell gais, roddodd y cyfle i bas gywir arall gan Tomos Williams, greu cais yn y gornel arall, i Louis Rees-Zammit.
Llwyddodd Costelow gyda’i bumed trosiad o’i bum cynnig o’r ystlys – agorodd fwlch o 14 o bwyntiau rhwng y timau unwaith yn rhagor.
Fe ymatebodd y Crysau Duon o fewn 4 munud wrth i Peter Lakai dirio dros yr ymwelwyr – ac yn dilyn deubwynt pellach gan Mo’ounga – ymosod di-baid gan y Crysau Duon ac amddiffyn arwrol y Cymru fu hanes gweddill y gêm.
Gwelwyd taclo arbennig ac allweddol gan bob chwaraewr yn y Crys Coch – yn enwedig felly gan yr eilyddion Gareth Thomas a Dan Edwards, yn ogystal â Seren y Gêm James Botham.
Er i brif ddetholion y byd rygbi guro’n ddidostur ar ddrws Cymru – daeth yr eiliad yr oedd pob cefnogwr o Gymru wedi breuddwydio amdani ers 73 o flynyddoedd pan giciodd yr eilydd o fewnwr Reuben Morgan-Williams y bêl i entrychion y Stadiwm, wrth i’r cloc droi’n goch wedi 80 munud o chwarae.
Roedd yr emosiwn yn amlwg ar wynebau’r dorf a’r chwaraewyr wedi’r chwiban olaf – a bydd enwau Steve Tandy a’i garfan bellach wedi eu naddu’n anrhydeddus yn y llyfrau hanes.
Hir yw pob ymaros!
Canlyniad: Cymru 35 Seland Newydd 28
Cyn penwythnos y gemau terfynol yn Llundain ddiwedd y mis, bydd gan Steve Tandy a’i garfan hyderus un gêm gartref arall yn y gystadleuaeth yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality ymhen wythnos. (Sadwrn 21 Tachwedd 8.10pm).
Bydd y Wallabies yn wynebu’r Alban yng Nghaeredin yfory – wedi iddyn nhw golli o 45-22 yn Twickenham y penwythnos diwethaf.
Canlyniadau Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd 2026
Sadwrn, 4 Gorffennaf: Fiji 24-39 Cymru
Sadwrn, 11 Gorffennaf: Ariannin 35-21 Cymru
Sadwrn, 18 Gorffennaf: De Affrica 43-0 Cymru
Sadwrn, 7 Tachwedd: Cymru 28- 21Japan
Sadwrn, 14 Tachwedd: Cymru 35-28 Seland Newydd
