Roedd Prif Hyfforddwr Awstralia Les Kiss gyda’r cyntaf i ddanfon neges at Steve Tandy wedi i Gymru guro’r Crysau Duon y penwythnos diwethaf.
Roedd Kiss a phob cefnogwr rygbi arall yn ymwybodol o fawredd a chyd-destun hanesyddol y fuddugoliaeth o 35-28 yn erbyn Seland Newydd.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru yn eu herbyn mewn 73 mlynedd
Roedd y Cymry wedi colli 34 o gemau o’r bron yn erbyn y Crysau Duon cyn hynny
Doedd Cymru erioed wedi sgorio pum cais yn eu herbyn o’r blaen, un yn fwy na sgoriodd Seland Newydd yn ystod yr ornest.
Nid oedd Cymru erioed ar ei hôl hi ar unrhyw adeg yn y gêm
Y 348 o daclau a wnaed oedd y nifer uchaf gan unrhyw dîm o Gymru
Er y neges garedig honno gan Kiss, mae Steve Tandy’n gwybod yn iawn y bydd y Wallabies am waed y Cymry heddiw yng ngêm gartref olaf y Crysau Cochion ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Mae Awstralia wedi eu clwyfo ar hyn o bryd gan eu bod wedi colli pedair o’r bron – dwy yn erbyn y Crysau Duon ac yna yn erbyn Lloegr a’r Alban dros y ddau benwythnos diwethaf.
Bwriad y Cymry heno yw ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2023.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n braf gallu creu tipyn bach o hanes ond y perfformiad nesaf sy’n hawlio’n sylw ni i gyd fel carfan.
“Mae’n rhaid i ni adeiladu ar yr hyn wnaethon ni yn erbyn Japan a Seland Newydd.
“Mae ganddon ni garfan ifanc sy’n tyfu, a dylai’r ddwy fuddugoliaeth ddiwethaf roi hyder iddyn nhw, ond mae’n rhaid i ni barhau i wneud y gwaith sylfaenol hwnnw’n dda os y’n ni am ennill mwy o gemau.
“Fe wnaethon ni fwynhau prynhawn dydd Llun, ond roedd dydd Mawrth a dydd Mercher yn waith caled iawn i’r bechgyn.
“Meddylfryd yr Awstraliaid yw eu bod yn credu y gallan nhw ennill popeth – a dwi’n hoff iawn o’r natur gystadleuol honno sydd ganddyn nhw fel gwlad.
“Rhaid cofio eu bod nhw wedi curo De Affrica’n ddiweddar. Mae Les Kiss yn hyfforddwr eithriadol o dda, ac ry’n ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni chwarae ar ein gorau i gystadlu yn eu herbyn.
“Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol bod popeth yn iawn wedi un fuddugoliaeth dda ac mae pawb o fewn y garfan yn gwybod y bydd yn rhaid i ni roi popeth dros yr achos a chwarae hyd gorau’n gallu er mwyn curo Awstralia.”
Mae’r ddau hyfforddwr wedi gwneud newidiadau i’r timau ddechreuodd y penwythnos diwethaf. Mae Tandy wedi galw Josh Adams yn ôl ar yr asgell, sef ei unig newid y tu ôl i’r sgrym, tra bydd Ben Carter yn dechrau yn yr ail reng yn lle Adam Beard. Mae Alex Mann ac Aaron Wainwright hefyd yn ymuno â’r rheng ôl.
Mae’r Wallabies wedi rhoi cyfle arall i’w holwyr wedi’r golled fain yn erbyn yr Albanwyr ym Murrayfield y penwythnos diwethaf, ond maen nhw wedi gwneud pum newid i’w blaenwyr.
Y tro diwethaf i’r Wallabies ymweld â Stadiwm Principality, fe sgoriodd Awstralia 8 cais ac fe enillon nhw o 52-20.
Bydd Steve Tandy a’i garfan yn gobeithio y daw tro ar fyd heno.
