Dechreuodd Lyndon Faulkner ar ei waith fel ail Gadeirydd Annibynnol Bwrdd Undeb Rygbi Cymru (URC) yn swyddogol, yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2026, ddydd Sul.
Mae Faulkner yn olynu Richard Collier-Keywood, benderfynodd beidio â sefyll am gyfnod pellach ar ddiwedd ei dymor cyntaf wrth y llyw yn ystod yr haf, ac mae’n cymryd yr awenau gan y Dirprwy Gadeirydd Dros Dro, John Manders.
“Hoffwn ddiolch i’m cyd-aelodau o’r Bwrdd a’r Cyngor am eu cyfraniad a’u hymrwymiad drwy gydol y flwyddyn,” dywedodd Manders.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n Prif Weithredwr, y tîm gweithredol a holl staff yr Undeb am eu gwaith ymroddedig yn ystod cyfnod heriol i’r sefydliad.
“Diolch hefyd i’n clybiau sy’n aelodau o’r Undeb am eu cefnogaeth, ac am ein herio’n agored. Mae eu hymrwymiad parhaus yn cael ei werthfawrogi. Felly hefyd pob unigolyn ledled y wlad sy’n cyfrannu cymaint at ein camp.
“Mae’n parhau i fod yn fraint cael y cyfle i wasanaethu rygbi Cymru, ac ry’n ni fel Undeb yn benderfynol o wynebu’r heriau sydd o’n blaenau gyda hygrededd, undod ac uchelgais.
“Nid diogelu rygbi Cymru fel y mae heddiw yw’n hunig gyfrifoldeb. Mae’n rhaid i ni hefyd adeiladu a thyfu’r gêm fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fod yr un mor falch ohoni.”
Ymhlith y penodiadau pellach gadarnhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol rhwng Gorffennaf 2025 a Gorffennaf 2026, roedd Marianne Økland, olynnodd Malcolm Wall fel Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (sydd bellach yn cael ei adnabod fel y Pwyllgor Rygbi Proffesiynol – PRP). Ymunodd Bleddyn Phillips, â’r Pwyllgor Rygbi Proffesiynol hefyd fel ei ail aelod annibynnol, a hynny am gyfnod o ddwy flynedd.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Rygbi Proffesiynol hefyd yn aelod o Fwrdd Undeb Rygbi Cymru, sy’n golygu bod nifer cyfarwyddwyr y Bwrdd bellach yn ôl i’w lawn faint, sef deuddeg – pedwar wedi’u hethol, chwe chyfarwyddwyr anweithredol annibynnol (gan gynnwys Cadeirydd y PRP), Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru a’r Cadeirydd ei hun.
Mae’r cyfarwyddwyr anweithredol annibynnol canlynol hefyd wedi’u hailbenodi i Fwrdd yr Undeb:
Alison Thorne – wedi’i hailbenodi am dymor o dair blynedd (Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol a hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu).
Amanda Bennett – wedi’i hailbenodi am dymor o dair blynedd (hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Rygbi’r Menywod).
Jenny Mathias – wedi’i hailbenodi tan ddiwedd Rhagfyr 2027.
Jamie Roberts – wedi’i ailbenodi y llynedd am ddwy flynedd arall (wedi ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd ar 21 Hydref).
Andrew Williams – wedi’i ailbenodi y llynedd am ddwy flynedd arall (wedi ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd ar 11 Tachwedd).
Yn ogystal, dyma benodiadau a chanlyniadau etholiadau Cyngor Undeb Rygbi Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf:
Aelodau’r Cyngor a benodwyd – Siân Jenkins, Tom Foley, Gethin Harries, Cerys Lloyd, Lewis Johnson a Liam Mackay.
Daeth tymhorau presennol Aelodau Cyngor yr Ardaloedd, Lloyd Morgan (Ardal B), Roy Wilkinson (Ardal C), Steve Owen (Ardal C), Kerry Frey (Ardal D), Delyth Summons (Ardal H), ac Aelod y Cyngor Cenedlaethol, Sue Butler, i ben ar ddiwedd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2026.
Dechreuwyd a chwblhawyd y broses etholiadol yn unol ag Erthyglau’r Cwmni. Ail-etholwyd pob un o’r unigolion, a byddant yn dechrau eu tymhorau priodol ar 22 Tachwedd 2026.
Yn olaf, etholwyd Dai Rees yn Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol (penodwyd a dechreuodd yn y swydd ar 9 Mehefin 2026), gan olynu Anthony Buchanan, ymddiswyddodd fis Rhagfyr diwethaf.
