Yn eu gêm gartref gyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd llwyddodd Cymru i guro Japan gyda phwynt bonws o 28-21 yn Stadiwm Principality.
Flwyddyn ynghynt, cic Jarrod Evans ar yr eiliad olaf un oedd yn gyfrifol am sicrhau buddugoliaeth gyntaf i Steve Tandy wrth y llyw, wrth i’w gôl gosb gywir ei gwneud hi’n 24-23 i Gymru ac o ganlyniad i bedwar cais ei dîm heddiw, cafodd Tandy y gorau ar Eddie Jones am yr eildro mewn blwyddyn.
Gan bod Japan wedi chwarae chwe gêm ers y tro diwethaf i Gymru gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, roedd y tîm cartref, yn eu Crysau Gwynion, yn awyddus i ddechrau’r ornest ar y droed flaen.
Dyna’n union ddigwyddodd wrth i Archie Griffin hyrddio ei hun dros linell gais Japan i hawlio ei gais cyntaf dros ei wlad wedi dim ond 3 munud o’r gêm.

Llwyddodd Sam Costelow gyda’r trosiad yn hyderus i gwblhau’r trosgais – ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal 7 munud yn ddiweddarach.
Llwyddodd Japan i gipio’r meddiant o sgarmes yn ddwfn yn nhir Cymru – ac roedd y blaen-asgellwr profiadol Ben Gunter yn gwybod yn iawn ble’r oedd y llinell gais.
Ychwanegodd Naoto Saito’r trosiad gyda’i ymdrech gyntaf at y pyst.
Yn yr ornest rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Principality’r llynedd fe gafodd Josh Adams gerdyn coch am drosedd mewn sgarmes – ond fe wnaeth yn iawn am ei gam wedi bron i hanner awr o chwarae heddiw. Wedi i Blair Murray ddechrau’r ymosodiad o’i ddwy ar hugain ei hun – roedd y gŵr o’r Hendy yno’n y pendraw i gwblhau’r symudiad ym mhen arall y maes i sgorio’r cyntaf o’i ddau gais o’r ornest. Llwyddodd Costelow gyda’r trosiad am yr eildro.
Ond am yr eildro hefyd – taro’n ôl yn fuan wnaeth bechgyn Eddie Jones wrth i’w gapten Warner Dearns gyrraedd y gwyngalch o ychydig fetrau – ac fe olygodd trosiad cywir arall gan Saito bod y timau’n gyfartal unwaith eto.
O ganlyniad i hyrddiad nerthol Eddie James yng nghanol y cae, y Cymry gafodd y gair olaf yn yr hanner cyntaf. Fe grëodd nerth James y lle i Louis Rees-Zammit groesi am ei gais cyntaf ers iddo dirio yn erbyn Seland Newydd y llynedd. Parhau wnaeth cicio cywir Costelow i sicrhau mantais o 7 pwynt i’w dîm wrth droi.
Hanner Amser: Cymru 21 Japan 14
Profodd yr ail hanner i fod yn gystadleuol ond yn brin o gyfleodd gwirioneddol.
Gyda 12 munud yn weddill, fe ddaliodd Blair Murray y bêl yn ei ddwy ar hugain ei hun ac fe gafodd ei fenter ei wobrwyo am yr ail waith wrth i gefnogaeth Adams unwaith eto sicrhau’r fuddugoliaeth bwysig hon i Gymru. Llwyddodd yr eilydd Dan Edwards gyda’r trosiad.
Yn dilyn cais hwyr yr eilydd o fewnwr Kenta Fukuda – wedi trafod celfydd gan nifer o’i gyd-chwaraewyr – a throsiad Komura, llwyddodd y Cymry i oroesi nerfusrwydd y munudau olaf i ddal eu gafael ar eu buddugoliaeth.
Canlyniad: Cymru 28 Japan 21
Y Crysau Duon chwedlonol fydd gwrthwynebwyr nesaf carfan Steve Tandy wrth iddyn nhw ymweld â Stadiwm Principality’r Sadwrn nesaf. (14 Tachwedd 2026: 2.10pm).
Yn gynharach yn y dydd fe enillodd Seland Newydd o 43-21 yn erbyn Yr Alban yng Nghaeredin gan sgorio 7 cais yn y broses. Bydd gan Gymru dipyn o fynydd i’w ddringo felly er mwyn curo’r Crysau Duon am y tro cyntaf ers 1953 y penwythnos nesaf.

Canlyniadau Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd 2026
Sadwrn, 4 Gorffennaf: Fiji 24-39 Cymru
Sadwrn, 11 Gorffennaf: Ariannin 35-21 Cymru
Sadwrn, 18 Gorffennaf: De Affrica 43-0 Cymru
Sadwrn, 7 Tachwedd: Cymru 28 Japan 21
Wedi’r chwiban olaf yn erbyn Japan dywedodd Seren y Gêm Louis Rees-Zammit:
“Roedd ennill heddiw’n bwysig iawn – ond beth sy’n fwy pwysig yw’r ddwy gêm nesaf sydd o’n blaenau. Doedd ein perfformiad ni ddim yn berffaith heddiw a bydd angen i ni weithio’n galed iawn wrth edrych ymlaen at wynebu Seland Newydd.
“Mae’n rhaid i ni ddiolch i’r cefnogwyr am gadw’r ffydd gyda ni. Mae’n golygu llawer iawn i ni fel carfan.”
Ychwanegodd Josh Adams: “Hapus iawn gyda’r ddau gais – ond mae angen i ni wella’n perfformiad yr wythnos nesaf. Ry’n ni wedi chwarae De Affrica dros yr haf a nawr Seland Newydd y Sadwrn nesaf – dau dîm gorau’r byd.
“Mae hynny’n mynd i fod yn sialens enfawr, enfawr a bydd yn rhaid i ni gymryd ein gêm ni i lefel arall yr wythnos nesaf.”
Dywedodd Steve Tandy: “Er mai dim ond tair sesiwn ymarfer roedden ni wedi’i gael cyn heddiw – mae’n rhaid i mi fod yn onest a dweud mod i’n disgwyl mwy ganddon ni yn y gêm.
“Wrth gwrs mod i’n hapus gyda buddugoliaeth a phwynt bonws – ond bydd angen gwelliant sylweddol arnon ni’r Sadwrn nesaf – ac ry’n ni’n edrych ymlaen at yr her gwirioneddol sydd o’n blaenau yr wythnos nesaf.”
