News

Cymru’n enwi’r tîm ar gyfer y gêm gartref gyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd

Max Llewellyn
Mae Max Llewellyn wedi’i enwi yn safle’r canolwr cyntaf

Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i wynebu Japan yn Stadiwm Principality ym mhedwaredd rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 7 Tachwedd, am 16.40.

Prynwch eich tocynnau nawr wrth i Gymru ddod adref ar gyfer ail ran y gystadleuaeth newydd hon.

Mae Archie Griffin wedi’i enwi yn y rheng flaen fel prop pen tynn ac mae Dafydd Jenkins yn dechrau yn yr ail reng. Bydd y ddau chwaraewr yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd wedi iddyn nhw golli tair rownd gyntaf y gemau oherwydd anafiadau.

Mae Nicky Smith wedi’i ddewis fel prop pen rhydd ar gyfer ei ddechreuad cyntaf yn y Bencampwriaeth. Y bachwr a’r capten Dewi Lake sy’n cwblhau’r rheng flaen.

Bydd Ben Carter yn cadw cwmni i Jenkins yn yr ail reng, wedi i anaf ei atal rhag chwarae yn nhrydedd rownd y gemau.

Yn y rheng ôl, mae Alex Mann wedi’i enwi fel blaen-asgellwr ochr dywyll, gyda Jac Morgan ar yr ochr agored ac Aaron Wainwright yn dechrau’n safle’r wythwr.

Mae Sam Costelow wedi’i ddewis fel maswr a Tomos Williams fydd ei bartner yn fewnwr.

Mae Max Llewellyn wedi’i enwi yn safle’r canolwr cyntaf, gydag Eddie James yn gwisgo’r crys rhif 13 unwaith eto.

Bydd Louis Rees-Zammit a Josh Adams yn dechrau ar yr esgyll a bydd y cefnwr Blair Murray yn cwblhau’r tri ôl.

O safbwynt y fainc, bydd Ryan Elias, Rhys Carré a Tomas Francis ar gael fel eilyddion rheng flaen. Y clo Teddy Williams a’r chwarewr rheng ôl James Botham fydd y ddau arall fydd yn gobeithio creu argraff wrth gael eu galw i’r maes.

Reuben Morgan-Williams a Dan Edwards fydd yr haneri wrth gefn, tra bod Louie Hennessey ar fin gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Stadiwm Principality, wedi iddo ennill ei gap cyntaf yn Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn gynharach eleni.

Dywedodd Steve Tandy: “Mae llawer o gystadleuaeth o fewn y garfan erbyn hyn – sef beth sydd ei angen arnon ni. Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae gartref unwaith eto ac mae pawb yn awyddus iawn i osod ein stamp ar y gêm ddydd Sadwrn a dechrau’r cymal nesaf yma o Bencampwriaeth y Cenhedloedd yn gryf.”

Tîm Cymru i wynebu Japan yn Stadiwm Principality
Ddydd Sadwrn 7 Tachwedd, am 16.40. Yn fyw ar S4C ac ITV
15. Blair Murray (Scarlets – 19 cap)
14. Louis Rees-Zammit (Bryste – 43 chap)
13. Eddie James (Scarlets – 11 cap)
12. Max Llewellyn (Caerloyw – 13 chap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 72 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 22 cap)
9. Tomos Williams (Saraseniaid – 75 cap)
1. Nicky Smith (Sale – 66 chap)
2. Dewi Lake (Capten, Caerloyw – 34 cap)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 16 chap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 31 cap)
5. Ben Carter (Dreigiau – 21 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 18 cap)
7. Jac Morgan (Caerloyw – 27 cap)
8. Aaron Wainwright (Caerlŷr – 70 cap)

Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 51 cap)
17. Rhys Carré (Saraseniaid – 31 cap)
18. Tomas Francis (Sale – 82 cap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 10 cap)
20. James Botham (Caerdydd – 24 cap)
21. Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 3 chap)
22. Dan Edwards (Gweilch – 13 chap)
23. Louie Hennessey (Caerfaddon – 1 cap)

Related Topics