News

Cymru yn enwi’r tîm ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth y Cenhedloedd

Reuben Morgan-Williams
Bydd y mewnwr Reuben Morgan-Williams yn dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru.

Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi cyhoeddi tîm Cymru i chwarae yn erbyn Japan yn Stadiwm Allianz, Twickenham, yn y gêm i hawlio’r pumed safle ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, am 1.10pm.

Mae Tandy wedi gwneud pum newid i’r pymtheg ddechreuodd yn y golled o 26-29 yn erbyn Awstralia y penwythnos diwethaf.

Mae Rhys Carré wedi’i ddewis yn brop pen rhydd ar gyfer ei ddechreuad cyntaf dros Gymru yng ngemau’r Hydref. Bydd Ryan Elias yn dechrau yn safle’r bachwr.

Mae’r clo Adam Beard wedi’i enwi yn bartner i Dafydd Jenkins, fydd yn arwain y tîm brynhawn Sadwrn.

Bydd James Botham yn dychwelyd i’r tîm cyntaf yn safle’r blaenasgellwr ochr agored. Alex Mann a’r wythwr Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl.

O safbwynt yr olwyr, bydd y mewnwr Reuben Morgan-Williams yn dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru.

Bydd Dewi Lake, Jac Morgan, Tomos Williams ac Ellis Mee yn dechrau ar y fainc ar gyfer y gêm hon.

Dywedodd Steve Tandy: “Roedden ni’n rhwystredig ac yn siomedig ein bod wedi colli’r penwythnos diwethaf. Doedden ni ddim yn ddigon cywir yn ein chwarae ond wedi dweud hynny roedd llawer o agweddau cadarnhaol iawn yn ein perfformiad ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny.

“Mae ganddon ni un gêm ar ôl yn y gystadleuaeth ddydd Sadwrn. Ry’n am fynd i Twickenham, bod yn ddidrugaredd a gwella ar ein perfformiad diwetha’n erbyn Japan ddechrau’r mis.”

Yn dilyn canlyniadau’r chweched rownd o gemau y penwythnos diwethaf, mae’r gwrthwynebwyr a threfn y gemau ar gyfer Penwythnos Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn Stadiwm Allianz, Llundain, wedi’u cadarnhau.

Bydd chwe gêm yn cael eu chwarae dros gyfnod o dri diwrnod yn Twickenham a bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu am eu safleoedd terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Fe fyddan nhw hefyd ennill pwyntiau i’w Hemisffer penodol er mwyn penderfynu ai Hemisffer y Gogledd neu’r De fydd yn fuddugol eleni.

Mae tocynnau ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Japan yn ystod Penwythnos y Rowndiau Terfynol, yn ogystal â’r tri diwrnod llawn o gemau, ar gael yma: Sicrhewch eich tocyn i fod yn bresennol ym Mhenwythnos Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth y Cenhedloedd.

Tîm Cymru i wynebu Japan yn Stadiwm Allianz, Twickenham
Ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, am 1.10pm. Yn fyw ar S4C ac ITV
15. Blair Murray (Scarlets – 22 cap)
14. Louis Rees-Zammit (Bryste – 46 chap)
13. Eddie James (Scarlets – 14 cap)
12. Max Llewellyn (Caerloyw – 16 chap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 74 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 25 cap)
9. Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 5 cap)
1. Rhys Carré (Saraseniaid – 32 cap)
2. Ryan Elias (Scarlets – 54 cap)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 19 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 34 cap) (Capten)
5. Adam Beard (Montpellier – 69 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 20 cap)
7. James Botham (Caerdydd – 26 chap)
8. Aaron Wainwright (Caerlŷr – 72 cap)

Eilyddion
16. Dewi Lake (Caerloyw – 37 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 46 chap)
18. Dillon Lewis (Dreigiau – 62 cap)
19. Taine Plumtree (Scarlets – 17 cap)
20. Jac Morgan (Caerloyw – 30 cap)
21. Tomos Williams (Saraseniaid – 77 cap)
22. Joe Hawkins (Scarlets – 14 cap)
23. Ellis Mee (Scarlets – 11 cap)

Related Topics