Mae tîm dan 19 Cymru, fydd o dan arweiniad chwaraewr rheng ôl Caerdydd Alfie Prygodzicz, wedi ei gadarnhau i wynebu Ffrainc yn Abertawe nos Sadwrn.
Hon fydd y gêm ryngwladol gyntaf i’w chynnal ar faes enwog Sain Helen ers i’r gwaith o’i weddnewid ddechrau yng nghanol dinas Abertawe.
Bydd y gêm yn erbyn Ffrainc yn gyfle pwysig i nifer o chwaraewyr ifanc greu argraff wrth wisgo’r Crys Coch, wrth iddyn nhw geisio cymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd rhyngwladol.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: “Mae’r ornest yma’n garreg filltir arall wrth i ni barhau i ail-ddatblygu’r maes hanesyddol hwn yn Sain Helen.
Mae’n wych o beth bod Undeb Rygbi Cymru yn gosod eu ffydd yn y maes i gynnal rygbi rhyngwladol.
Rydym eisoes wedi gweld bod gemau’r Gweilch ac Abertawe wedi rhoi hwb mawr i’r maes a’r gymuned leol.
Mae cynnal gemau fel hon yn cadarnhau ein huchelgais i greu canolfan gymunedol a chyffrous yn Sain Helen gan wasanaethu rygbi ar lawr gwlad a’r gamp ar lefel broffesiynol a rhyngwladol hefyd.
“Mae’r gêm hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i chwaraewyr arddangos eu doniau ar lefel ryngwladol a sicrhau mwy o gyfleoedd iddyn nhw eu hunain o fewn llwybr datblygu y gwahanol oedrannau yn y dyfodol,” meddai Prif Hyfforddwr dan 20 Cymru, Richard Whiffin.
Gyda llefydd ar gael o hyd yng ngharfan dan 20 oed Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, mae’r ornest hon yn erbyn y Ffrancod yn gyfle i’r chwaraewyr ddal sylw’r prif hyfforddwr a rhoi rhywbeth iddo feddwl amdano cyn iddo benderfynu ei garfan derfynol.
Y llynedd, manteisiodd Sam Morgan ar ei gyfle yn ystod y gemau o dan 19. Gan iddo greu argraff ffafriol iawn – fe gafodd y cyfle i gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Georgia – ac fe chwaraeodd yn dda iawn yno hefyd!
“Mae datblygiad Sam yn enghraifft arbennig o sut y gall y gemau hyn fod yn fan cychwyn pwysig iawn i chwaraewyr ifanc sy’n awyddus i sefydlu eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai Whiffin.
Mae’r ornest yn erbyn Ffrainc felly’n cynnig profiad rhyngwladol a gwerthfawr i’r chwaraewyr – ac mae’r ffaith y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn digwydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd yn ysgogiad pellach i’r Cymry ifanc berfformio’n dda ar faes Sain Helen nos Sadwrn.
Cymru dan 19 oed v Ffrainc dan 19 oed, nos Sadwrn 14 Tachwedd, Sain Helen, 7.30pm
1 Hudson Nevin (Scarlets)
2 McKenzie Scales (Gweilch)
3 Ollie Tucker (Scarlets)
4 Will Kellett (Rygbi Gogledd Cymru)
5 Cody Rae David (Gweilch)
6 Will Watkin (Caerdydd)
7 Alfie Prygodzicz (Caerdydd – Capten)
8 Harvey Thomas (Scarlets)
9 Alfie Luger (Scarlets)
10 Will Ford (Dreigiau)
11 Ryley Fussell (Dreigiau)
12 Ethan Bolche (Gweilch)
13 Jayden Brown (Scarlets)
14 Calen Edwards (Caerdydd)
15 Sam Morgan (Dreigiau)
Eilyddion
16 Tiaan Hall (Dreigiau)
17 Vinnay Cleak (Caerdydd)
18 Jac Clease (Caerdydd)
19 Will Carrol (Gweilch)
20 Elis Cox (Gweilch)
21 Jake Shepherd (Dreigiau)
24 George Thomas (Caerdydd)
25 Ben Coomer (Caerdydd)
26 Owen Lewis (Caerdydd)
27 Steff Thomas (Scarlets)
28 Madoc Evans (Scarlets)
