Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd Catrina Nicholas-McLaughlin yn parhau fel Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning am y pedwerydd tymor yn yr Her Geltaidd.
Mae Nicholas-McLaughlin wedi arwain Gwalia Lightning i fod yn un o’r ychydig dimau sy’n gallu herio goruchafiaeth Iwerddon yn yr Her Geltaidd.
Mae hi hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth feithrin nifer o chwaraewyr sydd wedi camu i’r llwyfan rhyngwladol yn ystod ei chyfnod gyda Gwalia.
Enillodd Nicholas-McLaughlin 60 o gapiau dros Gymru. Mae wedi bod yn Brif Hyfforddwr tîm dan 18 Cymru ac mae hi hefyd wedi wedi bod yn aelod o dîm hyfforddi carfan dan 20 Cymru.
Yn ogystal bu’n cynorthwyo’r brif garfan ar gyfer eu hymgyrchoedd WXV1 yn Seland Newydd, y WXV2 yn Ne Affrica a Chwpan y Byd yn Lloegr yn 2025.
Mae cefnwr Cymru Nel Metcalfe, yr wythwr Bryonie King, y bachwr Molly Reardon, y prop Maisie Davies, y mewnwr Seren Lockwood, y canolwr Freya Bell, yr asgellwr Nikita Prothero a’r mewnwr Sian Jones i gyd wedi dod o dan ddylanwad ‘Cat Mac’ gyda Gwalia – ac roedden nhw’i gyda yn aelodau o garfan Cymru ar gyfer eu taith i Japan ym mis Hydref.
Mae chwaraewyr rhyngwladol eraill fel y clo Alaw Pyrs, y chwaraewr rheng-ôl Gwennan Hopkins a’r prop Jenni Scoble hefyd wedi ennill capiau dros eu gwlad tra’n cynrychioli Gwalia Lightning.
Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin: “Dyma fydd fy mhedwaredd ymgyrch gyda Gwalia Lightning ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr ati. Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth – oedd yn gyffrous yn ei hun – ond rwy’n awchu i’r pedwerydd tymor yma i ddechrau.
“Mae datblygiad safon yr Her Geltaidd yn arwydd o dwf rygbi menywod ar lefel ryngwladol ac ar lefel clwb. Mae cefnogwyr rygbi Cymru bellach yn gwybod mai yn yr Her Geltaidd y gallan nhw wylio’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rhyngwladol.
“Ry’n ni’n un o’r carfanau ieuengaf ond mwyaf profiadol yn yr Her Geltaidd, a’n huchelgais eleni yw cyrraedd y Rownd Derfynol.
“Yn Gwalia, ry’n ni am chwarae rygbi ymosodol ac mae ganddon ni’r ddawn i wneud hynny. Wedi dweud hynny mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd ein perfformiadau yn gyson a safonol drwy gydol y tymor.
“Rydw i wedi bod gyda Gwalia ers dechrau’r Her Geltaidd ac rydw i wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r gystadleuaeth wedi’i chael ar chwaraewyr. Mewn cyfnod mor fyr mae’r cynghrair bellach yn cael ei gydnabod fel cystadleuaeth allweddol ym myd rygbi menywod.
“Mae safon y rygbi yn yr Her Geltaidd yn amlwg i bawb, ac ry’n ni i gyd yn gwybod bod angen i ni berfformio – ar y cae ac oddi arno – gan bod posibilrwydd y byddwn ni’n wynebu clybiau Uwch Gynghrair Lloegr yn y dyfodol.
Dywedodd Siwan Lillicrap, Pennaeth Hyfforddi a Datblygu Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru: “Mae Catrina Nicholas-McLaughlin yn un o’r hyfforddwyr sydd wedi bod wrth y llyw hiraf yn yr Her Geltaidd, ac mae Gwalia Lightning wedi bod yn dîm sydd wedi herio goruchafiaeth Iwerddon ers y tymor cyntaf.
“Mae hi’n dod â’i holl brofiad o chwarae’n rhyngwladol a’i gwybodaeth am hyfforddi ym myd rygbi menywod at ei gilydd er lles Gwalia a bydd angen hynny y tymor yma – gan bod rhaglen heriol o gemau’n wynebu eu carfan ifanc.
“Mae gan ‘Cat Mac’ allu arbennig i adnabod potensial, datblygu talent unigol a dod â chwaraewyr at ei gilydd i ffurfio carfan unedig. Mae hynny’n amlwg i’w weld ym mherfformiadau Gwalia ac yn natblygiad unigol y chwaraewyr.”
