News

Bwydo Egni’r Bois Rhyngwladol

Dafydd Jenkins
Mae Dafydd Jenkins yn wybodus iawn am ei faeth

Daw’r hen ddywediad mai ar eu stumogau y mae byddinoedd yn gorymdeithio i’r meddwl yn aml wrth wrando ar Chris Edwards, Maethegydd Perfformiad gyda charfan genedlaethol y dynion, yn rhannu ei wybodaeth.

Mae Edwards mewn sefyllfa berffaith i agor cil y llen ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i fwydo chwaraewyr rygbi’r oes fodern.

Mae’n anodd dychmygu pa mor anodd yw sicrhau bod yr holl garfan yn cael digon o’r bwydydd cywir sydd eu hangen ar y bechgyn, gan hefyd fodloni “dros ddeg ar hugain o feirniaid bwyd” gydag ansawdd eu prydau.

Yn naturiol mae angen gwahanol feintiau o galerïau ar chwaraewyr mewn gwahanol safleoedd a gall hynny amrywio o 3,500 hyd at 5,000 bob dydd.

Dywedodd Chris Edwards: “Mae chwaraewyr rygbi yn bwyta mwy o galorïau nag unrhyw gamp arall.

“Mae chwaraewyr pêl-droed yn rhedeg pellteroedd mawr yn ystod eu gemau ac felly mae angen lefelau sylweddol uwch o garbohydradau arnyn nhw. Mae chwaraewyr rygbi, ar y llaw arall, yn gyffredinol yn fwy o ran maint ac yn fwy cyhyrog hefyd, gan mai’r flaenoriaeth yw bod mor gadarn a chorfforol â phosibl er mwyn ymdopi â gwrthdrawiadau cyson gemau rygbi. Mae hefyd yn allweddol bwysig bod ganndyn nhw ddigon o egni er mwyn gallu perfformio o dan yr amodau hynny drwy gydol yr 80 munud.”

Mae cyrraedd y targedau enfawr hynny o safbwynt calorïau a phrotein yn gofyn am gryn dipyn o waith paratoi yn y gegin:

  • Yr Orsaf Omled: Mae gorsafoedd omled y bore yn gweini 4 i 5 wy i bob chwaraewr yn rheolaidd, gan ychwanegu protein, carbohydradau a brasterau i wneud y pryd yn fwy sylweddol ac addas.
  • Bwyta Cyw Iâr: Mae chwaraewyr yn bwyta o leiaf dwy frest cyw iâr fesul pryd – ac yn aml yn bwyta cyfanswm o bedair brest neu fwy yn ddyddiol pan fydd cinio a swper yn seiliedig ar gyw iâr.

Mae Edwards yn cydnabod bod gan y chwaraewyr presennol lawer mwy o ddiddordeb ym manylion eu maeth na’r hyn y mae llawer o bobl yn ei sylweddoli. “Yn nhîm Cymru, mae Liam Belcher yn hynod fanwl am yr hyn y mae’n ei fwyta – mae’n cyfrif ac yn mesur popeth.

“Mae Dafydd Jenkins yn bendant yn gallu bwyta dros Gymru. Mae’n drylwyr ac yn wybodus iawn am ei faeth – ac mae ei blat wastad yn orlawn!”

Related Topics